Skip to main content

Annog myfyrwyr RhCT i gymryd rhan yng nghystadleuaeth creu poster y Tour de France

Tour de France Race Director Christian Prudhomme

Cyfarwyddwr Ras Tour De France, Christian Prudhomme

Caiff myfyrwyr celf, dylunio a chreadigol o Loegr, yr Alban a Chymru arddangos eu doniau gyda chyfle i ddylunio poster swyddogol Grand Départs y Tour de France a Tour de France Femmes avec Zwift hanesyddol ar gyfer 2027.

Mae modd i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau celf, dylunio, graffeg, creadigol a ffotograffiaeth mewn lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach yn ardaloedd yr awdurdodau lleol sy'n cynnal un o'r chwe cham gymryd rhan yn y gystadleuaeth sydd wedi’i lansio yn rhan o raglen effaith gymdeithasol JOY Grand Départ GB. Bydd y gystadleuaeth yn dewis poster swyddogol 2027 ar gyfer pob ras.

Gyda Rhondda Cynon Taf wedi’i chadarnhau’n un o lwybrau trydydd cam y DU yn ras y dynion – sy'n cael ei gynnal ddydd Sul 7 Gorffennaf 2027 – rydyn ni'n annog myfyrwyr lleol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth! Bydd y cam yma o'r cwrs yn cynnwys dringfeydd heriol mewn tri o'n lleoliadau mynyddig mwyaf prydferth – Côte de Rhigos, Côte de Penrhys a Côte de Maerdy. Beth am gynnwys rhai tirnodau o'r Fwrdeistref Sirol, ac o Gymru, yn eich poster i ddathlu crys melyn eiconig y Tour de France yn dod i gymoedd De Cymru?

Mae'n draddodiad hirhoedlog bod gan bob Tour de France a Tour de France Femmes avec Zwift ei boster swyddogol unigryw ei hun, sy'n cael ei ddadorchuddio bob mis Hydref ym Mharis fel rhan o gyflwyniad llwybr swyddogol ASO ar gyfer rasys y flwyddyn ganlynol.

Dyma gyfle unwaith mewn oes a fydd yn arddangos sgiliau dylunwyr o'r DU yn rhan o achlysur chwaraeon blynyddol mwyaf y byd, pan ddaw i Brydain ym mis Gorffennaf 2027, gan nodi'r tro cyntaf i'r ddwy ras ddechrau o'r un wlad y tu allan i Ffrainc.

Bydd y gwaith celf yn cael ei ddefnyddio trwy gydol yr achlysur ac yn cael ei weld gan filiynau o bobl, wrth ochr y ffordd a ledled y byd. Bydd y trefnwyr, Amaury Sport Organisation (ASO), yn defnyddio'r gwaith celf ar gyfer hyrwyddo, hysbysebu digidol a llawer yn rhagor. Felly, dyma gyfle gwych i ddau fyfyriwr arddangos eu gwaith yn fyd-eang.

Rhan gyntaf llinyn Celfyddydau a Diwylliant rhaglen JOY i fynd yn fyw yw'r gystadleuaeth yma, gyda chyfleoedd pellach i wahanol gymunedau gymryd rhan a dathlu’r Grand Départs yn greadigol i ddilyn.

Dywedodd Tracy Power, ar ranJOY, rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départ GB 2027: “Dyma gyfle unwaith mewn oes i ddau fyfyriwr talentog arddangos eu sgiliau creadigol ar lwyfan byd-eang, ac i fod yn gysylltiedig am byth â’r Grand Départ hanesyddol yma.

“Mae’r gystadleuaeth yn adlewyrchu’r uchelgeisiau sydd gyda ni i JOY fod yn ganolog i Grand Départ 2027 ac rydyn ni'n llawn cyffro i weld creadigrwydd y myfyrwyr a’u posteri.”

Bydd panel arbenigol, dan arweiniad yr artist sydd wedi ennill gwobrau, Lucy Pittaway, yn beirniadu'r posteri. Bydd rhestrau byrion ar gyfer y Tour de France a'r Tour de France Femmes avec Zwift yn cael eu cyflwyno gan banel Grand Départ GB 2027 i ASO, a fydd yn dewis yr enillwyr terfynol ar gyfer pob ras ac yna'n gweithio gyda nhw i ddatblygu eu dyluniadau cyn eu datgelu ym mis Hydref ym Mharis.

Yn ogystal ag arddangos eu gwaith ar draws y Grand Départs, bydd y ddau ddylunydd buddugol yn cael eu gwahodd i Baris ym mis Hydref 2026 i ddatgelu eu gwaith yn swyddogol yn ystod cyflwyniad llwybr ASO ar gyfer rasys 2027. Byddan nhw hefyd yn mwynhau profiad lletygarwch yn un o gamau Prydain y flwyddyn nesaf.

Mae'r gystadleuaeth ar agor o ddydd Llun, 4 Mai, tan 5pm ddydd Gwener, 26 Mehefin, 2026. Mae modd gweld manylion llawn y gystadleuaeth, gan gynnwys telerau ac amodau a sut i gymryd rhan, yma.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Grand Départs 2027, ac i gofrestru'ch diddordeb mewn clywed rhagor am gyfleoedd gwirfoddoli yn y ddwy ras, ewch i letourgb.com

Wedi ei bostio ar 28/04/2026