Mae'r Cabinet bellach wedi cytuno i'r Cyngor fabwysiadu'n ffurfiol Strategaeth Canol Tref newydd Tonypandy, gyda'i gweledigaeth 'Croeso i Pandy' uchelgeisiol, yn dilyn adborth cadarnhaol iawn a ddaeth i'r amlwg yn ystod gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd. Gan weithio gydag Ardal Gwella Busnes newydd y dref, bydd y strategaeth yn gynllun ar gyfer buddsoddi yn yr ardal fanwerthu ac yn golygu bydd modd cychwyn cyfres o brosiectau lleol cyffrous.
Nododd adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Llun 2 Chwefror yr adborth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad rhwng mis Awst a mis Hydref 2025. Yn dilyn ymateb cadarnhaol y cyhoedd, dim ond mân ddiwygiadau gafodd eu gwneud i'r fersiwn derfynol ar gyfer y Cabinet. Mae manylion cyfredol uchelgeisiau craidd y strategaeth a rhestr o brosiectau posibl wedi'u cynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau i ddatblygu'r strategaeth drwy grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi. Roedd y Cyngor eisoes wedi penodi cwmni The Urbanists i ymgynghori a helpu i ddatblygu'r strategaeth, sy'n cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd yn elfen bwysig o'r broses.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol megis trigolion, ysgolion a phobl ifainc, perchnogion busnesau, ac Aelodau Etholedig lleol. Roedd y gweithgareddau allweddol yn cynnwys llunio arolwg ar-lein, cynnal stondinau ddwywaith ym marchnad wythnosol Tonypandy ar ddydd Gwener, rhannu taflenni a phosteri yng nghanol y dref, cynnal arddangosfa yn Llyfrgell Tonypandy a hyrwyddo'r ymgynghoriad yng nghylchlythyr staff y Cyngor.
Mynychodd carfan y prosiect nifer o grwpiau lleol hefyd – grŵp Rhwydwaith Cymdogaeth, cyfarfod y Siambr Fasnach, a grŵp 50+ Rhwydwaith Cymdogaeth. Datblygodd The Urbanists ganllaw ymgynghori ar gyfer pobl ifainc hefyd a gafodd ei rannu ag ysgolion a grwpiau ieuenctid lleol.
Ar gyfer yr arolwg ymgynghori, daeth 64 o ymatebion i law. At ei gilydd, cytunodd 84% â gweledigaeth gyffredinol y strategaeth, tra bod gwelliannau i'r parth cyhoeddus yn Sgwâr Pandy (92%) a'r Ardd Goffa (84%) wedi cael cefnogaeth eang.
O ran Stryd Dunraven, cytunodd 98% o'r ymatebion â gwella ffryntiau siopau, cytunodd 97% ag ailddefnyddio adeiladau hanesyddol, tra bod 86% yn cytuno â chanolbwyntio ar yr ardal fel calon y dref. Ar gyfer Stryd Dunraven Isaf, cytunodd 80% â buddsoddi yn Stryd y Bont a'i maes parcio, 82% â gwelliannau i'r orsaf drenau, a 58% â darparu arwyddion dangos y ffordd a llwybrau beicio gwell.
Roedd yr adborth yn ystod achlysuron wyneb yn wyneb hefyd yn gadarnhaol, gyda chefnogaeth gadarn i'r weledigaeth, yr uchelgeisiau a'r prosiectau arfaethedig. Roedd hyn wedi helpu i atgyfnerthu cyfeiriad cyffredinol y strategaeth. Mae rhagor o fanylion am yr arolwg a'r adborth wyneb yn wyneb wedi'u cynnwys mewn Atodiad i adroddiad y Cabinet ddydd Llun.
Ar ôl ystyried yr holl adborth a chynnal adolygiad terfynol cynhwysfawr, mae carfan y prosiect wedi gwneud mân newidiadau i'r strategaeth. Mae'r weledigaeth gyffredinol bellach wedi'i mireinio i bwysleisio hunaniaeth ac ymgysylltu â'r gymuned rhagor, yn unol ag argymhelliad The Urbanists a Chomisiwn Dylunio Cymru. Mae'r pum uchelgais gwreiddiol hefyd wedi'u mireinio. Mae'r uchelgais 'Creu Hanes' wedi newid i ganolbwyntio ar amlygu 'Lleoedd i Ddathlu' er mwyn tynnu sylw at hanes y dref ac ar yr un pryd hybu gweledigaeth flaengar.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Dwi'n falch iawn bod y Cabinet wedi cefnogi mabwysiadu Strategaeth Canol Tref Tonypandy sy'n sefydlu gweledigaeth gytûn gyffrous ar gyfer y dref ac yn cytuno ar y ffordd orau o dargedu buddsoddiad yn y dyfodol. Rydyn ni wedi llunio strategaethau tebyg ar gyfer Aberpennar, Porth, Pontypridd ac Aberdâr, gan sicrhau bod modd i'r Cyngor, busnesau, y cyhoedd, a rhanddeiliaid eraill ddod at ei gilydd a mynd ati i gyflawni uchelgeisiau cytûn ar gyfer dyfodol canol ein trefi.
"Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn Nhonypandy wedi bod yn rhan annatod o'r broses yma. Cynhaliodd swyddogion y Cyngor eu gweithgaredd ymgysylltu cyntaf ym mis Rhagfyr 2024. Yn dilyn hynny roedd dau ymarfer ymgynghori ychwanegol yn 2025. Roedd yr adborth a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad diweddaraf yn gadarnhaol dros ben, ac roedd hynny'n ffactor allweddol ym mhenderfyniad y Cabinet i gytuno bod y Cyngor yn mynd i fabwysiadu'r strategaeth yn ffurfiol ddydd Llun.
"Er bod Tonypandy yn wynebu heriau fel pob canol tref, mae ganddi lawer o resymau i fod yn obeithiol. Bydd Ardal Gwella Busnes newydd Tonypandy yn gweld busnesau a sefydliadau'n cydweithio ac yn arwain ar wella gwasanaethau. Yn ddiweddar, cafodd defnyddiau newydd eu pennu ar gyfer hen adeiladau Barclays, Swyddfa'r Post, a HSBC, ynghyd â phrosiect 'Big Shed' gwerth miliynau o bunnoedd ar safle'r Co-op ac ailddatblygiad Trivallis o Lys Mitchell ar Sgwâr Tonypandy. Bydd y dref hefyd yn elwa o wasanaeth trenau gwell diolch i'r Metro.
"Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer Strategaeth Canol Tref Tonypandy. Mae trigolion wedi cyfrannu'n fawr at lunio'r cynllun pwysig yma ar gyfer y dyfodol, yn enwedig drwy'r uchelgeisiau cytûn ar gyfer yr hyn rydyn ni am i Donypandy fod – tref groesawgar â chysylltiadau da gyda lleoedd i ddathlu, ardal sy'n meithrin busnesau ac yn hyrwyddo'r stryd fawr yn lle ardderchog i siopa, cymdeithasu a byw."
Dyma'r weledigaeth gyfredol ar gyfer Strategaeth Canol Tref Tonypandy:
Mae'Croeso i Pandy' yn weledigaeth sy'n cael ei gyrru gan y gymuned i drawsffurfio canfyddiadau o Donypandy a llunio tref leol y gall pawb fod yn falch o’i galw'n gartref. Gyda'n gilydd, fe fyddwn ni'n mynd ati i ddatblygu lle 'Pandy' wrth galon Cwm Rhondda, gan greu tref fywiog, gynhwysfawr ac iddi gysylltiadau da sy'n dathlu pobl a busnesau lleol, ac yn cynnig croeso cynnes i drigolion, gweithwyr, ac ymwelwyr.
Dyma'r pedwar uchelgais craidd ar gyfer Tonypandy yn y strategaeth:
- Bod Tonypandy yn dref Groesawgar a Chysylltiedig, ble mae teithio'n hawdd, yn wyrdd ac yn ddeniadol. P'un a ydych chi wedi dal y trên neu'r bws, yn cerdded neu'n beicio, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol y funud y byddwch chi'n cyrraedd. Bydd llwybrau diogel a bywiog yn cysylltu cymdogaethau a'r orsaf drenau â'r Stryd Fawr, a fydd yn llawn lliw a chymeriad.
- Bod Lleoedd i Ddathlu yn Nhonypandy, fel bod modd i bobl gwrdd, dathlu ac ymgysylltu. Bydd mannau allweddol yn cael eu datblygu'n ardaloedd hyblyg i helpu i gynnal achlysuron bywiog. Bydd y lleoedd yma'n fannau cyfarfod agored a chroesawgar bob dydd, tra bydd achlysuron cyffrous yn helpu i ddathlu hanes cyfoethog a bywiog Tonypandy ac yn annog pobl newydd i ymweld â'r dref.
- Bod Tonypandy yn lle sy'n Meithrin Busnesau, ble mae masnach yn ffynnu gyda chymorth cymuned fusnes gefnogol sy'n annog, mentora a hyrwyddo entrepreneuriaid a busnesau newydd lleol. Bydd gan y stryd fawr gymeriad annibynnol yn llawn busnesau lleol yn bennaf, ac yn darparu digon o gyfleoedd i siopau bach annibynnol lwyddo.
- Bod Byw ar y Stryd Fawr yn Nhonypandy yn werth chweil fel cartref a lle i siopa, cymdeithasu a gweithio ar stepen drws ein trigolion. Bydd cartrefi ymhlith siopau lleol mewn lle bywiog i fyw sydd â'i drigolion wrth ei wraidd. Bydd yr holl gyfleusterau ar gael yng nghanol tref sy'n hawdd cerdded o'i chwmpas gyda digon o leoedd i gymdeithasu yn ystod y dydd a chyda'r nos.
Mae'r strategaeth gytûn yn cynnwys cyfres o brosiectau posibl sy'n ceisio denu buddsoddiad a darparu newid cadarnhaol ac ystyrlon yng Nghanol Tref Tonypandy. Mae'r rhain yn cynnwys Sgwâr Pandy, Stryd Dunraven a Stryd Dunraven Isaf. Mae prosiectau arfaethedig ar gyfer yr ardaloedd yma'n cynnwys:
- Prosiectau anofodol megis datblygu strategaeth farchnata, ynghyd â rhestr o achlysuron allweddol a rhoi cymorth i fusnesau.
- Gwelliannau i fannau cyhoeddus sy'n cynnwys datblygu man gwyrdd yn Heol Gelli a gwella’r Gerddi Coffa.
- Gwella arwyddbyst ac arwyddion ledled canol y dref.
- Gwelliannau i eiddo nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio i’w llawn botensial ar y stryd fawr, neu sy’n wag.
- Cyfleusterau teithio llesol gwell er mwyn annog beicio a cherdded yn lleol, er enghraifft darparu man storio diogel ar gyfer beiciau.
- Gwelliannau i fynedfeydd i ganol y dref, gan gynnwys gwella’r orsaf fysiau a'r orsaf drenau fel eu bod nhw’n ardaloedd allweddol.
Wedi ei bostio ar 05/02/2026