Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Defnyddwyr eleni (23 Chwefror tan 1 Mawrth) ac mae'n tynnu sylw at yr angen i bawb fod yn #WyliadwrusWrthSiopa, yn enwedig wrth brynu ar-lein.
Er bod siopa ar-lein yn hawdd ac mae modd ei wneud o gysur ein cartrefi, cynyddodd nifer y cwynion yn y sector dillad ac esgidiau yn sylweddol y llynedd, gan godi o 14,620 i 17,744. Mae'r dull yma o siopa wedi golygu bod defnyddwyr yn gallu dod yn rhy gysurus, ac mae nifer gynyddol o'r problemau yma'n deillio o farchnadoedd ar-lein "anffurfiol", gan gynnwys Facebook Marketplace a grwpiau gwerthu cymunedol.
Yn wahanol i fanwerthwyr traddodiadol rydyn ni'n ymddiried ynddyn nhw, mae prynu gan unigolion ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn gadael defnyddwyr yn fwy agored i risg, gan eu gwneud yn dargedau delfrydol i sgamwyr a'r rheiny sy'n gwerthu nwyddau anniogel.
Meddai Rhian Hope, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd:
“Mae grwpiau'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn lle gwych i ddod o hyd i fargen neu werthu dodrefn diangen, ond maen nhw hefyd yn denu pobl sy'n gwerthu cynhyrchion ffug a pheryglus.”
“O deganau Labubu ffug sy'n peri peryglon tagu, i ddillad sydd ddim yn cyd-fynd â'r disgrifiad, mae'r risgiau'n real. Pan fyddwch chi'n prynu gan werthwr preifat ar grŵp y cyfryngau cymdeithasol, mae eich hawliau'n wahanol nag wrth brynu gan fusnes. Mae hyn yn ei gwneud hi'n llawer anoddach cael eich arian yn ôl os bydd pethau'n mynd o chwith.
“Lle bynnag rydych chi'n siopa, rydyn ni'n annog defnyddwyr i feddwl bob amser. Cofiwch, os yw rhywbeth yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, yna mae'n debyg ei fod e! Mae'n debygol y bydd amodau arbennig ynghlwm wrth brynu hwdi brand enwog am bris isel iawn, yn ogystal â'r disgrifiad 'BNWT' (newydd, heb ei wisgo a gyda'r labeli gwreiddiol).
“Mae’r carfanau Safonau Masnach yn parhau â’u gwaith diflino ar-lein ac all-lein i frwydro yn erbyn y risgiau yma a chadw defnyddwyr yn ddiogel. Y llynedd fe wnaeth y garfan atafaelu dros 769 o eitemau anniogel. Roedd llawer o'r cynhyrchion yma'n cynnwys cannoedd o deganau ffug a gafodd eu marchnata'n uniongyrchol i rieni am eu bod yn dueddiadau poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Wrth bori’r cyfryngau cymdeithasol, cymerwch amser i ystyried a yw’r cynnig anhygoel yna neu wobr y gystadleuaeth yn ddilys! Mae sgamwyr yn aml yn ffugio gwefannau neu frandiau cyfreithlon felly mae bob amser yn well mynd i wefannau yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy ddolenni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yma i gynnig cymorth a chyngor i gadw busnesau a'r cyhoedd yn ddiogel, a bydd bob amser yn ceisio gweithio gyda busnesau i unioni pethau cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi.
Ar ôl i'r garfan Safonau Masnach ddod o hyd i eitemau, maen nhw'n cael eu dinistrio a'u hailgylchu.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae angen i'r rhai ohonon ni sy'n hoff o chwilota am fargen fod yn effro i'r ffaith bod y rheiny sy'n gwerthu nwyddau ffug bob amser yn barod i fanteisio ar y ffasiwn ddiweddaraf a byddan nhw'n blaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Yn ogystal â thorri rheolau hawlfraint y cynnyrch, dydyn nhw ddim yn cynnal y profion gofynnol i sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel".
“Mae’r cynhyrchion maen nhw’n eu gwerthu fel arfer yn ddeniadol i bobl ifainc a phlant, neu maen nhw'n cael eu gwerthu am bris llawer is na'r arfer, ond maen nhw'n gallu peri peryglon sylweddol. Mae modd i ddarnau bach ddod yn rhydd ac achosi perygl tagu. Gall hyn arwain at ddod i gysylltiad â chemegion a llifynnau penodol sydd wedi'u gwahardd yn y DU."
"Mae gorfodi bob amser yn ddewis olaf, a dim ond pan fydd y garfan yn credu bod cyfraith wedi'i thorri a fyddai'n achosi niwed i'r cyhoedd y mae'r cam yma'n cael ei gymryd. Serch hynny, mae'r neges yn glir – os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu eitemau ffug ac anniogel, byddwn ni'n cymryd camau gweithredu yn eich erbyn!"
Mae'r garfan Safonau Masnach yn parhau i archwilio busnesau lleol ac yn cael gwared â chynhyrchion sydd ddim yn cydymffurfio â gofynion masnachu. Gall hyn arwain at erlyn masnachwyr sy'n gwybod yn iawn eu bod nhw'n torri'r gyfraith.
Siopa ar farchnadoedd ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasol – Gair i Gall
- Gwiriwch y gwerthwr: Gwiriwch broffil y gwerthwr. Ydyn nhw'n newydd? Oes gyda nhw hanes o werthu eitemau'n llwyddiannus? Gofynnwch mewn grwpiau lleol am argymhellion cyn prynu
- Gwiriwch cyn talu: Os ydych chi'n prynu'n lleol drwy Facebook Marketplace, gwiriwch yr eitem mewn lle diogel a chyhoeddus bob amser cyn talu amdani
- Nid aur yw popeth melyn – byddwch yn wyliadwrus: Mae gwerthwyr eitemau ffug yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i fanteisio ar dueddiadau poblogaidd fel y Labubu, dillad White Fox neu sanau Nike, gan flaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Mae dillad a theganau ffug yn aml yn cynnwys cemegion a llifynnau sydd wedi'u gwahardd, neu ddarnau rhydd a allai fod yn beryglus i blant
- Talwch mewn ffordd ddiogel: Ceisiwch osgoi opsiynau talu 'Friends and Family' ar apiau fel PayPal wrth brynu nwyddau. Dydyn nhw ddim yn diogelu'r prynwr
Os oes gyda chi bryderon am werthwr neu gynnyrch rydych chi wedi'i brynu, mae modd i chi hefyd roi gwybod am y rhain i'ch gwasanaeth safonau masnach lleol drwy ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133, neu drwy anfon e-bost at safonaumasnach@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 26/02/2026