Skip to main content

Mynegi diddordeb i fod yn denant yn y tai gofal ychwanegol newydd yn y Porth

Dan-y-mynydd thumbnail for press release

Mae gwaith adeiladu rhagor o dai gofal modern ar hen safle Cartref Gofal Preswyl Dan-y-Mynydd yn y Porth wedi cyrraedd y camau olaf, ac mae'r Cyngor bellach yn gwahodd darpar denantiaid i fynegi diddordeb a gwirio eu cymhwysedd.

Os bydd y gwaith adeiladu yn parhau i wneud y cynnydd disgwyliedig, bydd yr adeilad newydd yn croesawu'r tenantiaid cyntaf erbyn diwedd y Gwanwyn. Mae'r llety wedi'i neilltuo ar gyfer pobl 50 oed a hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Wedi'i leoli yn Rhodfa Bronwydd, mae'r datblygiad yn cael ei gyflawni gan 'Codi Group' ('Linc Cymru' a 'Pobl Group' yn flaenorol), tra bydd gofal yn cael ei ddarparu gan 'Radis Community Care'. Bydd 60 o fflatiau hunangynhwysol yn rhan o'r cynllun, gan sicrhau llety o safon uchel. Bydd ystod o gyfleusterau ar y safle i gefnogi unigolion i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol o fewn cymuned fywiog.

Bydd Dan-y-Mynydd yn darparu amgylchedd modern, cynnes a diogel i bobl ag anghenion gofal a chymorth. Mae wedi'i gynllunio'n arbennig i ganiatáu annibyniaeth i bobl yn eu fflatiau eu hunain, gan hefyd sicrhau mynediad at wasanaethau gofal a chymorth personol ar y safle. Mae nodweddion y safle'n cynnwys:

  • 60 o fflatiau modern, hygyrch
  • Bwyty, llefydd i ymlacio a mannau i gynnal gweithgareddau
  • Salon gwallt a harddwch, golchdy, ac ystafell sba yn cynnwys bath wedi'i addasu
  • Ystafell ar gyfer teulu a ffrindiau, storfa cerbydau symudedd, a gerddi cymunedol.

Bydd y cynllun yn darparu canolfan oriau dydd arbenigol sy'n cael ei rhedeg y Cyngor ar gyfer pobl hŷn yn y gymuned leol sydd ag angen gofal cymdeithasol wedi'i asesu.

Meddai Gary Hortop, Pennaeth Tai Hygyrch i Bobl Hŷn yn Codi Group: “Rydyn ni'n falch o weld bod ein cynllun diweddaraf o ddatblygu tai gofal ychwanegol bron wedi'i gwblhau. Dyma gynllun sy'n cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf. Bydd Dan-y-Mynydd yn darparu llety o ansawdd uchel ar gyfer pobl hŷn ag anghenion gofal a chymorth, ynghyd â gwasanaeth oriau dydd arbenigol ar gyfer pobl hŷn o'r gymuned leol. 

“Mae'r garfan yn cydweithio’n agos â'r Cyngor er mwyn asesu cymhwysedd pobl leol i benderfynu a ydyn nhw'n gymwys i fyw yn rhan o'r cynllun gofal ychwanegol newydd. Unwaith y bydd yr adeilad yn barod, byddwn ni'n gwahodd darpar denantiaid cymwys i ymweld â'r lleoliad i ddysgu rhagor am y fflatiau a'r cymorth sydd ar gael. Yn y cyfamser, mae modd gweld gwybodaeth am y datblygiad, gan gynnwys cynlluniau a chyfleusterau'r fflatiau ar ein gwefan.”

Gyda'r gwaith adeiladu bron wedi'i gwblhau, mae'r Cyngor yn gwahodd darpar denantiaid i fynegi'u diddordeb a gwirio eu cymhwysedd. Er mwyn gwneud cais ar gyfer tai gofal ychwanegol yn Dan-y-Mynydd, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Bod yn 50 oed neu'n hŷn ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf
  • Bod ag anghenion gofal a chymorth
  • Gallu rheoli tasgau dyddiol (gyda threfniadau preifat lle bo angen)
  • Gallu gofalu am eu hanifeiliaid anwes (yn amodol ar asesiad fesul achos)
  • Gallu fforddio rhent a ffioedd gwasanaeth
  • Meddu ar y gallu i ddeall a llofnodi cytundeb tenantiaeth.

Sut mae gwneud cais am ofal ychwanegol?

Os oes gweithiwr cymdeithasol gyda chi, mae modd i chi ofyn iddo wneud atgyfeiriad ar eich rhan.

Os does dim gweithiwr cymdeithasol gyda chi ond yr hoffech chi fynegi diddordeb mewn byw yn y cynllun gofal ychwanegol yma, dylech chi ffonio Carfan Un Pwynt Mynediad y Cyngor ar 01443 425003 a gofyn am asesiad o'ch anghenion gofal a chymorth. Fel arall, mae modd i chi ffonio 'Codi group' (landlord) ar 0800 072 0966 neu e-bostio contact.centre@codigroup.co.uk.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae cyrraedd cam olaf y gwaith adeiladu yn gyffrous i bawb sy’n gysylltiedig. Bydd fflatiau Dan-y-Mynydd yn fodern ac o ansawdd uchel. Bydd y gefnogaeth gywir wrth law 24 awr y dydd, gan helpu pobl i fyw'n annibynnol cyhyd â phosibl. Mae'n gam pwysig arall yn rhan o'n rhaglen ehangach i foderneiddio llety ac ehangu opsiynau gofal ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf.

“Mae tai gofal ychwanegol poblogaidd eisoes gyda ni yn Nhonysguboriau, Aberaman a’r Graig, tra bod llety gofal arbenigol ar gyfer oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu yn cael ei adeiladu yn y Gelli ar hyn o bryd.

“Bydd prif gam y gwaith adeiladu ar ddatblygiad newydd yn Aberpennar yn dechrau cyn hir. Bydd y gwaith yma'n gweld amrywiaeth o gyfleusterau gofal ychwanegol, gofal dementia a llety hygyrch i bobl hŷn. Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi ar gyfer cynlluniau gofal modern ym Mhentre'r Eglwys a Glynrhedynog.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun a buddsoddiad ehangach y Cyngor, ewch i: Gofal Preswyl a Gofal Ychwanegol | Trawsnewid RhCT | Cyngor Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 27/02/2026