Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi cael ei rhannu mewn perthynas â chynllun sylweddol y Cyngor i sefydlogi tir Tomen Graig Ddu, Dinas. Mae cynnydd pwysig wedi'i wneud yn ddiweddar – gan gynnwys sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru, penodi contractwr dylunio a chynnal ymchwiliadau cychwynnol.
Mae'r hen domen lo wedi'i lleoli uwchlaw Heol Graigddu ac mae wedi cael ei hystyried i gael buddsoddiad er mwyn gwella sefydlogrwydd y tir ar y safle, adnewyddu waliau cynnal ac adfer llwybr y briffordd yn lleol. Ym mis Ionawr, sicrhaodd y Cyngor ymrwymiad cyllid amlflwyddyn gwerth £4.8 miliwn i ddatblygu a chyflawni prosiect a fydd yn lleihau perygl tirlithriad yn sylweddol – yn rhan o grant newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2026/27 a 2029/30.
Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn ddiweddar i ddylunio'r cynllun gwaith. Ym mis Chwefror, cynhaliodd y contractwr ymchwiliadau tir i lywio'r broses ddylunio barhaus. Trwy weithio gydag ymgynghorwyr Stantec, bydd dyluniad manwl yn cael ei gyflwyno erbyn mis Mai 2026.
Dros yr wythnosau nesaf, mae'n bosibl y bydd trigolion yn gweld gwaith pellach ar y safle, gan gynnwys gwaith clirio llystyfiant a choed ar rannau o'r domen, ymchwiliadau tir ychwanegol a gwaith gosod angorau pridd/creigiau prawf.
Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gynnydd cerrig milltir y cynllun. Rhagwelir y bydd costau ac amserlen gyflawni'r cyfnod adeiladu yn cael eu cwblhau erbyn misoedd cynnar yr haf, 2026.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydyn ni wedi parhau i groesawu cymorth Llywodraeth Cymru i'n helpu ni i arolygu, cynnal a chyflawni cynlluniau gwaith wedi'u targedu mewn tomenni glo ledled Rhondda Cynon Taf, a hynny er mwyn cynyddu diogelwch yn ein cymunedau. Mae gyda ni Garfan Diogelwch Tomenni Glo ymroddedig yn y Cyngor, sy'n cynnwys swyddogion yn gweithio'n galed bob dydd i gydlynu ein hymdrechion a buddsoddiad yn y maes yma.
“Yn y flwyddyn ariannol bresennol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2026, mae'r Cyngor wedi elwa ar gyllid gwerth £11.4 miliwn trwy'r Grant Diogelwch Tomenni Glo. Mae'r gweithgareddau wedi cynnwys arolygu a chynnal a chadw safleoedd tomenni glo lleol, cyflawni cyfres o gynlluniau gwella draeniau ar y safleoedd, datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a pharhau â'r cynllun adfer mawr yn Tylorstown. Rydyn ni'n rhagweld dyraniad sylweddol arall yn 2026/27, i barhau â'r gwaith yma mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf.
“Mae'n newyddion gwych bod y Cyngor, yn rhan o Gynllun Grant Amlflwyddyn newydd Llywodraeth Cymru, wedi cael dyraniad gwerth £4.8 miliwn ar gyfer rhaglen fawr o waith ar Domen Graig Ddu, Dinas. Rydw i'n hapus gyda'r cynnydd da diweddar, gan ein bod ni wedi penodi contractwr dylunio ac wedi dechrau ymchwiliadau cychwynnol ar y safle. Mae'n bosibl y bydd trigolion yn gweld gwaith pellach dros yr wythnosau nesaf, a hynny er mwyn llunio dyluniad manwl sydd i'w gyflwyno erbyn yr haf.”
Wedi ei bostio ar 26/02/2026