Skip to main content

Cynnydd da wedi'i wneud yn rhan o Brosiect Cloddio Rhyfel Cartref Sbaen Gwasanaeth Treftadaeth RhCT

Spain Excavation - Rhiannon and Harry Dobson plaque (2)

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o rannu'r garreg filltir ddiweddaraf a gyflawnwyd yn rhan o'r Prosiect Cloddio (Rhyfel Cartref Sbaen) sy'n cael ei gynnal yn ardal Catalonia, Sbaen. Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gan Adran Cyfiawnder ac Ansawdd Democrataidd (Departament de Justícia i Qualitat Democràtica) y rhanbarth mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddiwylliannol Porta de La Història. Mae'r newyddion diweddaraf yn nodi bod 49 o feddau torfol wedi cael eu hagor, mae 19 o ddioddefwyr wedi'u henwi yn rhan o gynllun 2023-2025, ac mae tri chynllun cloddio pellach yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Er bod y datblygiadau yma'n rhoi pwyslais ar arwyddocâd rhyngwladol y gwaith, mae gan y gwaith gysylltiad mawr â'n cymunedau lleol hefyd. Mae'r cydweithrediad yn parhau i dynnu sylw at gysylltiadau Rhondda Cynon Taf â'r gwrthdaro – gan gynnwys teithiau'r glöwr a gafodd ei eni yn ardal Tonypandy, Harri Dobson, a gafodd ei ladd yn Sbaen ym 1938, a Huw Alun Menai Williams, nyrs a chynorthwy-ydd cymorth cyntaf a welodd anaf angheuol Dobson ar Fryn 481. Gwasanaethodd y ddau yn y 15fed Brigâd Ryngwladol, uned o wirfoddolwyr o wledydd lle mae pobl yn siarad Saesneg yn byw, a frwydrodd i amddiffyn Gweriniaeth Sbaen.  Mae Cofeb Rhyfel Cartref Sbaen, sydd wedi'i lleoli ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn cofio'r 31 o wirfoddolwyr hynny o Gwm Rhondda (gan gynnwys Dobson a Williams). Cafodd saith ohonyn nhw eu lladd yn ystod y gwrthdaro.

Mae'r prosiect cloddio wedi cael ei gynnal mewn sawl bwrdeistref, gan gynnwys Gandesa a La Bisbal de Montsant (La Bisbal de Falset gynt) – lleoliadau sydd â chysylltiad cryf â stori Dobson, gan gynnwys y lleoliad lle cafodd ei anafu ar Fryn 481 a'r lleoliad lle cafodd ei drin yn yr ysbyty, yn ogystal â'i orffwysfan. Drwy gefnogi'r gwaith yma gyda phartneriaid yn ardal Catalonia, mae'r Cyngor yn helpu i sicrhau bod yr ymdrech Ewropeaidd i ddod o hyd i gyrff y rhai a gollodd eu bywydau yn rhan o'r frwydr yn erbyn ffasgaeth, ymchwilio i’w henwau a’u coffáu hefyd yn cofnodi enwau'r unigolion hynny o ardal Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn sicrhau y bydd modd i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol ddeall sut y cyfrannodd pobl Cwm Rhondda at y digwyddiad yma yn rhan o hanes Ewrop.

At ei gilydd, mae awdurdodau Catalonia wedi rhoi gwybod bod tua 1,000 o feddau torfol wedi'u cofnodi, ac mae tua 137 wedi'u cloddio ers 2004, mae’r gwaith wedi dod o hyd i 1,000 o gyrff hyd yma. Mae nifer y cofnodion yn y Cyfrifiad o Unigolion Coll wedi cynyddu i tua 8,200, tra bod y Rhaglen Adnabod trwy ddefnyddio Genetig (Programa d'Identificació Genètica) wedi enwi 27 o unigolion ac wedi casglu dros 2,500 o samplau DNA teuluol, a bydd modd defnyddio'r wybodaeth yma i baru unigolion yn y dyfodol. Mae awdurdodau Catalonia yn disgrifio'r broses enwi hon fel un sy'n helpu teuluoedd i ddod â’u galar i ben ("tancar el dol”).

Meddai Alan Warren, Hanesydd a Sylfaenydd Cymdeithas Ddiwylliannol Porta de La Història: “Mae cysylltiadau Rhondda Cynon Taf â Chatalonia yn gryf iawn, ac mae modd i ni weld hynny yng nghofiannau Huw Alun Menai Williams ac Edwin Greening sy'n rhannu eu hatgofion o Harry Dobson ar ffurf ffilm, llythyrau, hunangofiannau a dyddiaduron. Maen nhw'n haeddu cydnabyddiaeth am eu rôl nhw yn y frwydr yn erbyn Ffasgaeth bron i 90 mlynedd yn ôl.”

Denodd Rhyfel Cartref Sbaen (1936-1939) filoedd o wirfoddolwyr rhyngwladol i'r Brigadau Rhyngwladol i amddiffyn Gweriniaeth Sbaen. Cyfrannodd Cymru gannoedd o wirfoddolwyr, yn dilyn traddodiad hir o undod a chaledi yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd. Daeth gwirfoddolwyr o bob cefndir – glowyr, athrawon, awduron ac undebwyr – gyda phob un wedi’u huno gan agwedd benderfynol i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn ffasgaeth yn Ewrop. Daeth ffigurau lleol yn symbol o’r ymrwymiad hwnnw, a gwasanaethodd Brigadwyr Cymru mewn ymgyrchoedd mawr gan gynnwys Jarama ac Ebro. Mae cofebau, llenyddiaeth, ffilm, ac achlysuron coffa lleol yn eu coffáu yn lleol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r wybodaeth ddiweddaraf o Gatalonia yn nodi cynnydd ystyrlon yn rhan o ymdrech ofalus, hirdymor i ddod o hyd i atebion ar gyfer teuluoedd a diogelu cofnodion hanesyddol.  Mae ystyr hynod bersonol i ni yma yn Rhondda Cynon Taf.

“Trwy ein cydweithrediad â Chymdeithas Ddiwylliannol Porta de La Historia ac awdurdodau Catalonia, rydyn ni'n cofio straeon pobl fel Harry Dobson, Huw Alun Menai Williams, a'r 31 o wirfoddolwyr o Gwm Rhondda sy'n cael eu coffáu ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda – gan sicrhau bod modd i genedlaethau'r dyfodol ddysgu am eu hanes.

“Rydw i hefyd yn falch o ddweud bod y Cyngor wedi sicrhau cyllid – mewn partneriaeth ag awdurdodau yn Ebro, Malgrat de Mar, a phlant ysgol lleol – i gynnal gwaith i greu cofeb Rhyfel Cartref Sbaen. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law.

“A minnau'n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rwy’n falch bod ein Gwasanaeth Treftadaeth yn helpu teuluoedd i ddod o hyd i atebion, gan sicrhau bod profiadau unigolion o Gymru yn cael eu nodi yn rhan o gofnodion hanesyddol Sbaen. Dyma waith pwysig o arwyddocâd byd-eang, sy'n helpu i gysylltu ein cymunedau â'r hanes Ewropeaidd ehangach yma.”

Mae cyllid bellach wedi'i gymeradwyo, ac mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau cynlluniau ar gyfer prosiect i sefydlu cofebau yn Rhondda Cynon Taf, Ebro a Malgrat de Mar. Mewn partneriaeth â Solidarity Park ym Malgrat de Mar, bydd plant ysgol lleol o Ysgol Gymuned y Porth yn helpu i ddylunio cofeb arddull portwll gyda gweithdai'n dechrau ddechrau'r gwanwyn. Bydd cyfres o achlysuron hefyd yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law.

Menter gydweithredol o unigolion sy'n byw yng Nghatalonia, Sbaen a thramor sydd â diddordeb mawr yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936–1939), a'r brwydrau cymdeithasol cyn ac ar ôl y rhyfel, yw Cymdeithas Porta de la Història Cultural.

Mae modd dysgu rhagor drwy fwrw golwg ar y tudalennau isod:

I gael rhagor o wybodaeth am ein harddangosfeydd a'n casgliadau treftadaeth, ewch i: Rhondda Cynon Taf | Ein Treftadaeth

Wedi ei bostio ar 25/02/2026