Mae'n bosibl y bydd trigolion Aberpennar yn sylwi ar waith cychwynnol yn digwydd ar dir oddi ar Heol y Darren. Mae hyn yn rhan o'r paratoadau olaf i sefydlu llety gofal modern, newydd i hen bobl. Mae'r prif waith adeiladu ar gyfer y prosiect cyffrous yma i'w ddechrau ym mis Chwefror 2026.
Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi'n barod i'r prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor a Grŵp Codi (Linc Cymru gynt), a fydd yn darparu 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol, 15 o welyau gofal preswyl dementia, ac 8 byngalo 'Byw'n Hŷn'.
Mae dyluniad y datblygiad yn hyrwyddo bioamrywiaeth a nodweddion draenio trefol cynaliadwy - tra bydd gwaith o ran mynediad, parcio a thirlunio yn rhan o'r cynllun ehangach.
Mae gwaith paratoi bellach wedi dechrau ar y safle ym mis Ionawr 2026 wrth i ni weithio tuag at ddechrau'r gwaith adeiladu, gyda'r bwriad o ddechrau hynny ym mis Chwefror gan y contractwr JG Hale Group.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y gwaith cychwynnol hwn yn cynnwys paratoi'r safle, gwaith archwilio i sefydlu'r trefniadau strwythurol allweddol sydd eu hangen, a chael darlun o'r safle i sefydlu'r dopograffeg ofynnol.
Y disgwyl yw mai bach iawn fydd unrhyw darfu'n gyffredinol, er y gallai'r datblygiad olygu mwy o draffig yn lleol. Bydd hyn yn cael ei reoli gan dîm safle'r contractwr i leihau'r effaith. Bydd y prosiect wedi'i gofrestru'n rhan o'r Cynllun Adeiladu Ystyriol. Bydd y contractiwr yn parchu gwerthoedd y cynllun trwy gydol y prosiect. Y disgwyl yw y bydd y gwaith adeiladu yn dod i ben tua diwedd 2027.
Meddai'rCynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: “Rwy wrth fy modd bod y gwaith paratoi wedi dechrau i greu'r llety gwych yma ar gyfer pobl hŷn. Bydd yn cynnwys cymysgedd o fflatiau gofal ychwanegol, gwelyau gofal dementia a byngalos 'Byw'n Hŷn', er mwyn diwallu anghenion lleol. Dyma'r datblygiad diweddaraf sy'n dangos ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i foderneiddio opsiynau gofal preswyl, wrth i ni ymateb i'r newid hysbys yn anghenion a disgwyliadau pobl hŷn.
“Cyn bo hir, cynllun Aberpennar fyd ein trydydd prosiect adeiladu sy'n mynd rhagddo, wrth i’r gwaith barhau gyda llety gofal arbenigol newydd yn y Gelli ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn ystod eu cyfnod o fod yn oedolyn ac yn eu henaint, a llety gofal ychwanegol pwrpasol newydd yn y Porth. Mae ein cyfleusterau gofal ychwanegol presennol yn Nhonysguboriau, Aberaman a'r Graig yn parhau i ffynnu, tra ein bod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleuster gofal dementia pwrpasol yng Nglynrhedynog yn y dyfodol, ynghyd â llety i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys – ac mae'r ddau ohonyn nhw yn parhau i gael eu datblygu.
“Rydyn ni'n parhau i gael partneriaeth ragorol gyda Grŵp Codi (Linc Cymru oedd ei enw blaenorol), i ddatblygu’r prosiectau modern hyn ar draws y Fwrdeistref Sirol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Hoffwn i ddiolch i'n contractwr JG Hale Group am eu hymroddiad i ddatblygu a chyflawni'r prosiect hwn yn Aberpennar, yn ogystal â'r gymuned am ei chydweithrediad tra bod y gwaith yn digwydd. Rwy'n edrych ymlaen at fynd yn fuan, i weld safle Heol y Darren yn dechrau trawsnewid ac i ddathlu'r prif waith adeiladu, gyda'r nod o'i ddechrau ym mis Chwefror.”
Meddai Jo Yellen, Rheolwr Prosiectau gyda Codi Group: “Mae’n wych gweld gwaith yn dechrau ar y safle yn Aberpennar. Bydd y datblygiad hwn yn darparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n cefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol, gyda gofal ar gael pan fo angen, ac rydym ni'n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Grŵp JG Hale i'w ddatblygu.”
Dywedodd Matthew Hall, rheolwr contractau ar gyfer Grŵp JG Hale: “Rwy’n falch iawn o gadarnhau ein bod wedi dechrau paratoi Heol y Darren ar gyfer y gwaith adeiladu. Mae'n bleser mawr gweld y prosiect hwn yn symud yn nes at y cam adeiladu ar ôl cymaint o gynllunio gofalus a chydweithio gyda'n cleient gwerthfawr Codi Group Ltd. Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig, ac rwy'n falch o waith y tîm hyd yn hyn wrth i ni edrych ymlaen at gyflawni prosiect o ansawdd uchel yn ddiogel, yn effeithlon ac er budd yr ardal leol.”
Wedi ei bostio ar 20/01/2026