Skip to main content

Cynllun buddsoddi pwysig ar gyfer pont allweddol sy'n rhan o briffordd yn ardal Porth

Rheola Bridge Porth 2 - Copy

Yn fuan, bydd y Cyngor yn ymgymryd â gwaith diogelu at y dyfodol a glanhau pwysig ar Bont Rheola Newydd yn ardal Porth. Bydd angen cau ffyrdd dros nifer o benwythnosau a dros nos ar ddiwrnodau gwaith gan ddefnyddio mesurau rheoli traffig - gan ddechrau'r penwythnos yma (25 Gorffennaf).

Mae Pont Rheola Newydd yn rhan o Ffordd Liniaru Porth yr A4233 ac mae'n llwybr allweddol i fynd i mewn ac allan o Gwm Rhondda Fach. O ganlyniad, mae'n bwysig bod y bont yn cael ei chynnal a chadw'n rheolaidd. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni'r cynllun yma, ac mae wedi penodi Hammond (ECS) Ltd yn gontractwr i gwblhau'r gwaith.

Bydd y gwaith yn cynnwys clirio llystyfiant o'r bont, glanhau canllawiau a bwâu'r strwythur, a chynnal gwaith paentio.

O ganlyniad i leoliad canolog y bont, bydd y cynllun yn achosi tarfu anochel i ddefnyddwyr y ffyrdd. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer y penwythnosau a dros nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Awst 2026.

Trefniadau cau ffyrdd sydd ar y gweill - Ffordd Liniaru Porth a Ffordd Rheola 

Mae'r trefniadau cau wedi'u rhannu’n ddwy ran - ar Bont Rheola, bydd y rhan o'r A4233 Ffordd Liniaru Porth o'r A4058 i Heol Llanwynno (i'w gweld ar y chwith, gweler y map yma) ar gau. O dan y bont, bydd Ffordd Rheola o ffordd fynediad yr Ystad Ddiwydiannol i'w chyffordd â Heol Aber-rhondda, yn ogystal â rhan o Heol Aber-rhondda (i'w gweld ar y dde, gweler y map yma) ar gau. 

  • Bydd Ffordd Liniaru Porth ar gau o 8pm ddydd Sadwrn tan 5am ddydd Llun ar bum penwythnos - 25/26 Gorffennaf, 1/2 Awst, 8/9 Awst, 15/16 Awst, a 22/23 Awst. Bydd llwybr amgen ar gael o’r gogledd o’r ffordd sydd i’w chau. Ewch ar hyd Heol Llanwynno, Heol Aber-rhondda, Ffordd Rheola, Stryd Porth, Heol y Gogledd, Heol Pontypridd, Pont y Cymer a'r A4058. I'r cyfeiriad arall, ewch ar hyd yr A4058, Pont y Cymer, Stryd Porth, Ffordd Rheola, Heol Aber-rhondda a Heol Llanwynno. 
  • Bydd Ffordd Rheola a rhan o Heol Aber-rhondda yn cau o 7.30pm ddydd Sul tan 5am ddydd Llun ar yr un penwythnosau - 25/26 Gorffennaf, 1/2 Awst, 8/9 Awst, 15/16 Awst, a 22/23 Awst. Pan fydd y ddwy ffordd ar gau, bydd llwybr amgen o’r gogledd o Ffordd Liniaru Porth ar gael. Ewch ar hyd Heol Llanwynno, Heol Aber-rhondda, Ffordd y Fynwent, Heol Brithweunydd, Heol Trealaw, Cylchfan Trealaw a'r A4058, neu i'r cyfeiriad arall ar hyd yr A4058, Cylchfan Trealaw, Heol Trealaw, Heol Brithweunydd, Ffordd y Fynwent, Heol Aber-rhondda a Heol Llanwynno. O’r gogledd o Ffordd Rheola, ewch ar hyd Ffordd y Fynwent, Heol Brithweunydd, Heol Trealaw, Cylchfan Trealaw, yr A4058, Pont y Cymer a Stryd Porth, neu i'r cyfeiriad arall ar hyd Stryd Porth, Heol y Gogledd, Heol Pontypridd, Pont y Cymer, yr A4058, Cylchfan Trealaw, Heol Trealaw, Heol Brithweunydd a Ffordd y Fynwent. 

Pan fydd Ffordd Liniaru Porth ar gau, fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys na cherddwyr. Pan fydd Ffordd Rheola/Heol Aber-rhondda ar gau, fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad ar gael i gerddwyr.

Gofynion rheoli traffic ychwanegol

Er mwyn helpu i sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod ar y trywydd iawn i'w orffen erbyn diwedd mis Awst ac yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, mae cyfres o fesurau rheoli traffig wedi'i threfnu yn ystod diwrnodau gwaith. Bydd y mesurau yma ar ffurf goleuadau traffig dwyffordd, a byddan nhw'n cael eu defnyddio yn ôl yr angen yn ystod y cynllun.

Diolch i ddefnyddwyr y ffyrdd a chymunedau lleol ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i'r cynllun allweddol yma gael ei gyflawni. Bydd y cynllun yma’n sicrhau bod Pont Rheola Newydd wedi'i diogelu ar gyfer y dyfodol ac ar gael i ddefnyddwyr ffyrdd barhau i'w defnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 22/07/2026