Skip to main content

Cofeb Ryfel Newydd Treorci wedi'i Chysegru yn Dilyn Ymdrech gan y Gymuned

Mae Cofeb Ryfel newydd yn Nhreorci wedi cael ei chysegru'n ffurfiol, gan dalu teyrnged barhaol i'r bobl leol a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a phob achos o wrthdaro milwrol ers hynny.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal y tu allan i Theatr y Parc a'r Dâr ddydd Sul, 12 Gorffennaf, ac roedd yn gyfle i ddod â thrigolion, cyn-filwyr, Aelodau Etholedig, cynrychiolwyr y gymuned, sefydliadau lleol a gwesteion gwadd ynghyd i nodi'r achlysur arwyddocaol yma yn Nhreorci.

Cafodd y gofeb ei chreu yn dilyn blynyddoedd o drafod yn y gymuned leol ynghylch yr angen am fan coffa pwrpasol a chanolog yn Nhreorci. Mae hi bellach yn darparu lle parhaol lle bydd modd i deuluoedd, trigolion ac ymwelwyr oedi, myfyrio a thalu teyrnged i'r rhai o'r dref a'r ardaloedd cyfagos a gollodd eu bywydau o ganlyniad i ryfel.

Cafodd y prosiect ei gyflawni drwy waith agos ar y cyd rhwng Cyngor Rhondda Cynon Taf, Aelodau Etholedig lleol, trigolion, grwpiau cymuned, gwirfoddolwyr, ysgolion a busnesau lleol. Mae'n cyfleu ymrwymiad cyffredin y Cyngor a'r gymuned leol i sicrhau bod gwasanaeth ac aberth cymuned Lluoedd Arfog Treorci yn cael eu cydnabod a'u cofio am genedlaethau i ddod.

Mae'r gofeb wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio carreg a achubwyd o ysgol leol, gan sicrhau bod gyda'r strwythur gyswllt lleol cryf. Yn ogystal â hynny, cefnogodd y busnesau lleol Bailey's Builders Merchant a Dewi Reynolds & Sons Monumental Masons y prosiect, gan ddangos haelioni wrth roi amser, llafur a deunyddiau er mwyn helpu i ddod â'r gofeb yn fyw.

Mae Rhestr Gwroniaid Treorci hefyd yn nodi mwy na 500 o enwau, gan goffáu dynion, menywod a phlant o Dreorci a'r ardaloedd cyfagos a wnaeth yr aberth eithaf.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau a Chynghorydd lleol ward Treorci:  “Roedd hwn yn achlysur balch a chyffrous iawn i Dreorci.

“Mae'r gwaith o greu’r gofeb yma wedi bod yn hollbwysig i’r gymuned leol, ac rydw i’n falch o fod wedi cefnogi’r ymdrech i ddarparu man coffa pwrpasol ar gyfer trigolion y dref a’r ardaloedd cyfagos.

“Bydd y gofeb yn helpu i sicrhau bod enwau a straeon y rhai hynny o Dreorci a wnaeth aberth enfawr yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hi'n deyrnged addas i'w dewrder, eu gwasanaeth a'u haberth.”

Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan yr Is-gyrnol (sydd bellach wedi ymddeol) Gareth Pennell, gyda chyfraniadau gan y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Parchedig Charlotte Rushton a Gwen White o fudiad Lleng Frenhinol Prydain Treherbert a'r Cylch. Yn ogystal â hynny, perfformiodd Band y Parc a'r Dâr a Chôr Meibion Treorci yn yr achlysur, gan helpu i greu awyrgylch parchus a chofiadwy ar gyfer pawb a oedd yn bresennol.

Mae trigolion yn dal i gael eu hannog i gyflwyno gydag unrhyw wybodaeth a allai helpu i sicrhau bod Rhestr Gwroniaid Treorci mor gyflawn â phosibl. Os ydych chi'n gwybod am unigolyn a ddylai gael ei gynnwys ar y rhestr, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk gan nodi enw'r unigolyn, pam y dylid ei gynnwys ac unrhyw fanylion neu ffotograffau ychwanegol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Roedd hi'n fraint sefyll ochr yn ochr â chymuned Treorci mewn seremoni i gysegru a dadorchuddio’r Gofeb Ryfel newydd bwysig yma.

“Mae’r gofeb yn anrhydeddu’r dynion a’r menywod o Dreorci a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a phob achos o wrthdaro milwrol ers hynny. Mae hi'n rhoi'r cyfle i ni gofio'r rhai a gollodd eu bywydau, y rhai a ddaeth adref dan gysgod eu profiadau, a'r teuluoedd sydd wedi cadw eu straeon yn fyw dros flynyddoedd lawer.

“Mae absenoldeb Cofeb Ryfel bwrpasol yn Nhreorci wedi bod yn destun trafod o fewn y gymuned ers blynyddoedd lawer, ac mae awydd cryf wedi bod i greu teyrnged barhaol i’r rhai a wasanaethodd.

“Rydw i’n falch bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i gefnogi’r prosiect yma. Mae cofio'r rhai a wasanaethodd yn gyfrifoldeb rydyn ni i gyd yn ei rannu, ac mae'r gofeb yn rhoi lle addas i'r gymuned wneud hynny.

“Dydy prosiectau fel hyn yn digwydd heb i bobl gymryd yr amser i’w hyrwyddo a dod â phobl at ei gilydd. Hoffwn i ddiolch i'r Cynghorydd Bob Harris, swyddogion y Cyngor, gwirfoddolwyr lleol, ysgolion, trigolion, cynrychiolwyr y gymuned a busnesau lleol am ddangos y fath gefnogaeth ac ymrwymiad o ran sefydlu'r gofeb yma.

“Bydd hi'n sefyll yn atgof o ddewrder, gwasanaeth ac aberth, ac yn deyrnged barhaol y mae modd i drigolion Treorci fod yn falch ohoni.”

Mae'r prosiect hefyd yn rhan o ymrwymiad ehangach Cyngor Rhondda Cynon Taf i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a gwarchod treftadaeth leol. Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018 – mae hyn yn symbol o barch cyffredin rhwng cymunedau bywyd sifil a'r Lluoedd Arfog.

Rhagor o wybodaeth: Cyfamod Lluoedd Arfog RhCT

Mae'r gofeb newydd yma'n cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i raglen fuddsoddi 5 mlynedd gwerth £250,000 rhwng 2022 a 2027. Dan arweiniad Swyddog Treftadaeth a Henebion y Cyngor, mae Prosiect Digideiddio Cofebau Rhyfel y Cyngor yn parhau i ymchwilio i'r straeon y tu ôl i enwau'r rhai a goffáwyd ar gofebau ledled y Fwrdeistref Sirol, a'u rhannu.

Pe hoffech chi ddysgu rhagor neu gymryd rhan yn y gwaith yma, e-bostiwch: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 20/07/2026