Mae cynnydd pwysig yn cael ei wneud gyda'r gwaith parhaus i atgyweirio Pont Afon Cynon ar yr A4059 ger Cwmbach – ac mae cam nesaf y gwaith yn gofyn am gau ffyrdd am 10 nos er mwyn ailosod uniadau'r bont. Bydd cyfnod y gwaith rhwng 6 a 15 Gorffennaf, ac i leihau aflonyddwch bydd yn cael ei wneud dros nos.
Mae'r prif strwythur wedi'i leoli ar y darn o ffordd rhwng cylchfannau Cwm-bach ac Asda, sy'n croesi'r afon a'r rheilffordd. Cafodd cynllun cynnal a chadw pwysig a chymhleth ei gychwyn y llynedd, ac fe wnaeth y contractwr Horan Construction Ltd ailafael yn y gwaith ym mis Ebrill 2026 er mwyn ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Bydd cynllun eleni'n cynnwys gosod berynnau, cwblhau gwaith adfer concrit ar wynebau blaen yr ategweithiau a'r waliau balast, gosod uniadau symud newydd yn lle uniadau dec y bont, gosod rhan newydd o ganllaw sydd wedi'i difrodi, atgyweirio wal gerrig, gwaith paentio cynnal a chadw, ac atgyweirio llwybr troed.
Mae berynnau newydd wedi'u gosod ar y strwythur yn ystod gwaith diweddar ar y safle tra bod y bont wedi'i chodi dros gyfnod o wythnosau. Roedd hyn wedi golygu bod modd i'r gwaith fynd yn ei flaen yn ddiogel tra bod y bont ar agor i gerbydau o dan derfyn pwysau. Cafodd y bont ei thynnu oddi ar y jaciau a'r terfyn pwysau ei godi ar 23 Gorffennaf ar ôl cwblhau'r gwaith.
Mae'r cynllun bellach yn symud i'r cam nesaf, sef gosod uniadau ymestyn newydd. Mae amserlen y gwaith wedi'i chynllunio dros 10 sifft nos (8pm tan 5am) ar nosweithiau olynol o nos Lun 6 Gorffennaf i ddydd Mercher 15 Gorffennaf. Bydd y sifft nos olaf felly'n dod i ben erbyn 5am fore Iau 16 Gorffennaf.
Bydd y cynllun rheoli traffig yn ystod y gwaith yn dilyn yr un drefn â'r gwaith diweddar, a bydd angen cau'r ffyrdd yn gyfan gwbl bob nos. Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr nac i eiddo.
Bydd arwyddion yn dangos llwybr amgen i fodurwyr ar hyd Heol y Gamlas, Heol Cwm-bach, Cylchfan Ynys a ffordd osgoi'r A4059. Er mwyn osgoi'r bont reilffordd isel, dylai cerbydau uchel fynd ar hyd Heol y Gamlas, Heol Cwm-bach, Stryd Wellington, Cylchfan Stryd Meirion a ffordd osgoi'r A4059. Mae'r rhan sydd i'w chau a'r llwybr amgen i'w gweld ar y map yma.
Sylwch, mae'r llwybr hawl tramwy cyhoeddus o dan y bont ar gau o hyd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r gweithlu wrth i ni gyflawni'r cynllun pwysig yma. Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eich cydweithrediad parhaus.
Meddai Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Seilwaith Cyfalaf: "Mae'r Cyngor yn cyflawni rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw enfawr i sicrhau bod Strwythurau ledled y Fwrdeistref Sirol rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw ar ein rhwydwaith ffyrdd yn addas at y diben ac yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae ein buddsoddiad yn rhaglen gyfalaf 2026/27 yn werth mwy na £12.2 miliwn, gyda llawer o gynlluniau'n gorfod dygymod â rheolau a threfniadau cymhleth sydd ynghlwm â gweithio ger afonydd a rheilffyrdd byw.
"Byddwn ni'n parhau i flaenoriaethu buddsoddi yn y maes. Mae cynlluniau allweddol ar gyfer Pont William Edwards ym Mhontypridd, Pont Seren Cynon yn Abercynon, Pont y Doctor yn Nhrefforest, Pont Tref Aberpennar, Pont Miskin Manor, Pont y Darren Ddu yn Ynys-y-bwl, a Phont Heol Nant-y-gwyddon yn Llwynypia – a dim ond rhai o'r cynlluniau ar gyfer eleni sydd wedi'u rhestru.
"Mae'r gwaith ar Bont Afon Cynon yng Nghwm-bach wedi parhau i wneud cynnydd da ers ailddechrau ym mis Ebrill. Roedd y gwaith diweddar o osod berynnau newydd yn garreg filltir bwysig, ac rydyn ni nawr yn symud ymlaen i'r gwaith o osod uniadau ymestyn newydd. Rydyn ni'n effro i bwysigrwydd y darn yma o ffordd ar hyd yr A4059, a dyna pam rydyn ni'n cynnal y gwaith dros 10 sifft nos o 6 i 15 Gorffennaf, i leihau'r aflonyddwch yn sylweddol. Diolch i drigolion a chymudwyr am eich cydweithrediad wrth i ni gyflawni'r cynllun atgyweirio pwysig yma drwy gydol y flwyddyn."
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 01/07/2026