Skip to main content

Gŵyl Gelfyddydol y Rhondda yn dychwelyd i Dreorci!

RAFT resize

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn falch o helpu Gŵyl Gelfyddydol y Rhondda (RAFT), i ddychwelyd i Deorci rhwng 10 a 12 Gorffennaf 2026. Trwy ein cyllid grant a’r defnydd o leoliadau allweddol yn y gymuned, gan gynnwys Theatr y Parc a'r Dâr a Llyfrgell Treorci, mae'r Cyngor yn helpu i gynnal penwythnos bywiog o greadigedd, diwylliant, a gweithgarwch cymunedol yng Nghwm Rhondda.

Dyma ŵyl gelfyddydol flaenllaw Cwm Rhondda, a bydd hi'n cynnig rhaglen amrywiol o achlysuron theatr, cerddoriaeth fyw, dawns, ffilm, celfyddydau gweledol, ffotograffiaeth a gweithgareddau i'r teulu, gan ddathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a dawn greadigol yr ardal. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn lleoliadau eiconig Theatr y Parc a'r Dâr a Llyfrgell Treorci, gan sicrhau mannau hygyrch a chroesawgar i drigolion ac ymwelwyr.

Bydd y rhaglen yn arddangos cyfuniad cyfoethog o artistiaid lleol yn ogystal â rhai o leisiau creadigol mwyaf cyffrous Cymru. Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys perfformiadau gan Gwmni Theatr Taking Flight, cerddoriaeth fyw gan The Rogues, Kizzy Crawford a Mari Mathias, Disgo Tawel wedi'i gynnal gan Ladies of Rage, ac arddangosfa ffotograffiaeth yn cynnwys gwaith Jon Pountney, Elijah Thomas ac artistiaid lleol eraill.

Y prif uchafbwynt fydd dangosiad o 'Madfabulous', ffilm newydd gan Callum Scott Howells. Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ffilm, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd glywed yn uniongyrchol gan un o ddoniau creadigol mwyaf llwyddiannus Cwm Rhondda.

Nod yr ŵyl yw bod yn hygyrch i bawb, gydag ystod eang o achlysuron am ddim yn ogystal â rhai â thocynnau ar gyfer pherfformiadau am brisiau rhwng £3 a £12.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: "Rydyn ni'n falch iawn o helpu Gŵyl Gelfyddydol y Rhondda i ddychwelyd i’r cwm, sy'n cyflawni swyddogaeth bwysig iawn o ran dathlu creadigedd, doniau a threftadaeth ddiwylliannol ein cymunedau.  Trwy ein cyllid grant a’r defnydd o leoliadau allweddol, gan gynnwys Theatr y Parc a'r Dâr a Llyfrgell Treorci, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y celfyddydau yn hygyrch i bawb a helpu i roi cyfleoedd i artistiaid lleol ffynnu.  "Mae Gŵyl Gelfyddydol y Rhondda yn dod â phobl at ei gilydd, gan arddangos y gorau o Gwm Rhondda a helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol."

Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys:

  • Achlysuron Theatr a Pherfformiadau
  • Cerddoriaeth fyw
  • Dawnsio
  • Celfyddydau Gweledol ac Arddangosfeydd
  • Ffotograffiaeth
  • Theatr i'r Teulu a Gweithgareddau
  • Gweithdai creadigol
  • Arddangosiadau ffilm
  • Marchnad gwneuthurwyr
  • Bwyd Stryd, Bar a Lluniaeth

Trwy gefnogi achlysuron megis Gŵyl Gelfyddydol y Rhondda, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i fuddsoddi ym mywyd diwylliannol ei gymunedau, gan helpu i roi hwb i ymdeimlad o falchder lleol, cefnogi'r economi greadigol a denu ymwelwyr i'r ardal.

Wedi ei bostio ar 09/06/2026