Mae Aelodau'r Cabinet wedi dod i gytundeb ynghylch manylion rhaglen gwerth £4.765miliwn ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio, ledled ystad ysgolion y Cyngor; bydd y gwaith yn digwydd dros y flwyddyn sydd ar ddod. Yn sgil y gwaith cyffredinol yma, bydd ein hysgolion yn parhau i fod yn fannau diogel, sych a chynnes, bob dydd, ar gyfer disgyblion a staff ysgolion.
Cafodd Rhaglen Gyfalaf y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei thrafod gan y Cabinet Ddydd Mercher, Mawrth 18. Mae cyllid wedi'i glustnodi'n ddiweddar ar gyfer gofalu bod adeiladau ysgolion yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol yn 2026/27, ac yn y rhaglen sydd nawr wedi'i chytuno arni mae dyraniadau penodol wedi'u nodi ar gyfer prosiectau unigol. Bydd cyfran fawr o'r gwaith yn cael ei wneud dros wyliau'r haf er mwyn gofalu nad yw'n amharu ar ddysgu.
Yn dilyn cytundeb y Cabinet, bydd y rhaglen yn cael ei chyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill, 2026. Mae crynodeb o'r prif fanylion isod
Rhaglen Gyfalaf gwerth £4.765 miliwn Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, 2026/27
Adnewyddu Cegin (£130,000) – mae'r cyllid yma wedi'i glustnodi ar gyfer gosod cegin ac ardal weini, newydd, yn Ysgol Gynradd Cwmlai.
Gosod ffenestri a drysau newydd (£100,000) – i'w gwblhau yn Ysgol Gyfun Aberpennar, ac Ysgol Gynradd Pen-y-waun.
Gwaith hanfodol (£270,000) – i'w gyflawni yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn (gwaith rhoi arwyneb newydd), Ysgol Gynradd Llanharan (gosod nenfwd newydd), Ysgol Gynradd Llantrisant (gwaith draenio'r tir), Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon (adnewyddu gwaith maen a brics yr hen adeilad), Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James (gwaith maen – rhoi arwyneb newydd er mwyn atal dŵr ar y wal allanol) ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, (gwelliannau allanol a gwaith ffensio).
Adnewyddu Toiledau (£100,000) – bydd y gwaith yma'n cael ei gyflawni yn Ysgol Gynradd Cwmdâr ac Ysgol Gynradd Coed-y-lan.
Gwaith cydymffurfio (£155,000) – cyllid ar gyfer Ysgol Gynradd Tonysguboriau (gwelliannau allanol i fynedfa â ramp) ac Ysgol Gynradd Trealaw (creu ystafell synhwyraidd), a bydd amryw addasiadau eraill yn cael eu gwneud ledled safleoedd eraill.
Gosod boeleri newydd (£900,000) – yn Ysgol Gynradd Cwm-bach, Ysgol Gynradd Cwm Clydach, Ysgol Gynradd Parc y Darren, Ysgol Gymuned Glynrhedynog, Ysgol Gynradd Maes-y-Coed, Ysgol Gymuned Y Porth ac Ysgol Gyfun Treorci, a bydd gwresogyddion gwyntyll newydd yn cael eu gosod ledled amrywiol safleoedd.
Adnewyddu toeau (£1.98 miliwn) – bydd cyfnodau o osod toeau newydd yn digwydd ym Ysgol Gynradd y Darren-las, Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ysgol Gynradd Llwynypïa, Ysgol Gynradd Penrhiwceibr, Ysgol Gymuned y Porth, Ysgol Gynradd Trehopcyn ac Ysgol Gynradd Treorci, a bydd gwaith ar ffenestri to yn cael ei wneud yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog ac Ysgol Gynradd Gymuned Pen-pych.
Bydd ailweirio trydan (£130,000) yn digwydd yn Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Nant-gwyn – a bydd larymau tân yn cael eu diweddaru (£65,000) yn Ysgol Gyfun Aberpennar ac Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Mae'r canlynol ymhlith meysydd eraill sydd wedi cael cyllid; Arolygon Cyflwr yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a thrwyddedau caledwedd/meddalwedd TG. Mae rhestr lawn o'r dyraniadau cyllid wedi'i chynnwys yn Atodiad yr Adroddiad gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Mercher.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg:
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cyflwyno rhaglen gyfalaf bwysig ar gyfer cyflawni gwaith at ddibenion gofalu bod adeiladau ysgolion yn ddiogel ac yn addas ar gyfer disgyblion a staff, o hyd. Y nod o ran y cyllid yw y bydd yn gwella'n hadeiladau o ran eu gwneuthuriad; ymhlith enghreifftiau o'r gwaith dan sylw mae adnewyddu ffenestri, drysau, toeau a boeleri, ynghyd â diweddariadau allweddol i gyfleusterau megis ardaloedd cegin a thoiledau. Yn sgil ein rhaglen ddiweddaraf, mae £4.7 miliwn yn cael ei fuddsoddi ledled ein hysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2026/27; mae Aelodau'r Cabinet nawr wedi cytuno ar hyn.
Mae defnyddio cyllid cyfalaf y Cyngor yn y modd yma'n ddull rhagweithiol; y nod yw lleihau'r risg o faterion yn codi yn adeiladau ein hysgolion y byddai modd iddyn nhw fod yn gostus iawn pe byddai angen atgyweirio yn eu sgil, ac y byddai modd iddyn nhw amharu hefyd ar ddysgu'r disgyblion. I'r perwyl yma, mae modd i lawer o'r gwaith gael ei gynllunio ar gyfer gwyliau ysgol yr haf. Agwedd allweddol arall ar y rhaglen yw'r ffaith ein bod ni'n defnyddio cadwyn gyflenwi a'r diwydiant adeiladu, lleol, i gyflawni'r gwaith, gan gefnogi busnesau lleol.
Mae'r cyllid gwerth £4.7 miliwn yma'n cyd-fynd â'n rhaglenni moderneiddio a buddsoddi ar gyfer ein hysgolion; mae cyfran fawr o hyn yn cael ei gyflawni ar y cyd â Llywodraeth Cymru. A ninnau eisoes wedi cyflawni prosiectau mawr yn Ardal Ehangach Pontypridd, Pentre'r Eglwys, Pont-y-clun, Llantrisant, a Glynrhedynog yn 2024/25, rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar y cyfnod buddsoddi nesaf. Bydd naw prosiect yn cael ei gyflawni'n rhan o hyn yn sgil ymrwymiad gwerth £414miliwn, yn ogystal ag ysgol thra-chynaliadwy ar gyfer Glyn-coch sef Ysgol Gynradd Glyn-coch. Mae'r gwaith ar y cyntaf o blith y naw prosiect – ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach yn digwydd yn brydlon ac mae disgwyl y bydd wedi'i gwblhau yn ystod y misoedd nesaf.
Wedi ei bostio ar 20/03/2026