Skip to main content

Mae Cyngor RhCT yn falch o gefnogi Gwanwyn Glân Cymru

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi achlysur Gwanwyn Glân Cymru eleni ac yn annog trigolion i ymuno â'r frwydr yn erbyn sbwriel a dangos cymaint y maen nhw'n 'Caru eu Cartref'.

Mae'r ymgyrch pythefnos o hyd yn digwydd rhwng dydd Gwener 13 Mawrth a dydd Sul 29 Mawrth, a'i nod yw taflu goleuni ar y problemau sbwriel y mae llawer o drefi, pentrefi a dinasoedd yn eu hwynebu o ganlyniad i bobl yn taflu sbwriel yn ddiofal. Y nod eleni yw atgoffa pobl i ‘Garu eu Cartref', rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei wneud bob dydd o’r flwyddyn, i helpu i gadw ein cymdogaethau’n lân. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd:

“Mae sbwriel yn hyll a gall fod yn niweidiol i fywyd gwyllt a chael effaith enfawr ar iechyd meddwl y bobl y mae rhaid iddyn nhw ei weld bob dydd. Rwy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y grŵp codi sbwriel ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ac rydw i wedi fy synnu gan rai o'r pethau rydyn ni'n eu darganfod. Mae defnyddio bin neu fynd â'ch sbwriel adref i gael gwared ar eich eitemau yn syml. Mae'n ymwneud â bod yn gyfrifol a dangos parch at ble rydyn ni'n byw. Mae ein mannau awyr agored prydferth i bawb eu mwynhau ac, yn aml, dim ond y lleiafrif sy'n eu difetha.

"Yn ffodus yn RhCT mae gyda ni nifer o ganolfannau sbwriel sy'n rhoi modd i chi fenthyg citiau codi sbwriel am ddim fel bod modd i ni lanhau llanast y taflwyr sbwriel anghyfrifol. Un peth cadarnhaol yw bod gan RCT rai mannau agored anhygoel a bydd codi sbwriel yn eich helpu chi i'w crwydro, yn gwella'ch lles ac yn gwella'ch cymuned. Y cyfan sydd angen ei wneud yw un peth syml. Mae gen i fag ailgylchu yn fy mhoced bob amser pan rydw i'n cerdded y ci ac os gwela i sbwriel, rydw i'n ei godi wrth gerdded. Mae'n siomedig bod angen i fi wneud hyn. Dylai pawb fod yn gyfrifol, ond rydw i'n ei wneud, oherwydd rydw i'n caru fy nghartref. Casglwch offer codi sbwriel, ewch allan yn yr awyr agored a gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw RhCT yn daclus."

Mae gan Rondda Cynon Taf nifer o ganolfannau casglu/codi sbwriel ledled y Fwrdeistref Sirol, lle mae modd i bobl fenthyg cit am ddim a gweithredu yn eu hardaloedd lleol. Mae'r pecyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel, a chylchynau – sy'n hanfodol ar gyfer cadw'ch bagiau ar agor yn y gwynt. I ddod o hyd i'ch canolfan agosaf, mae modd i chi chwilio am eich lleoliad ar-lein: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/. Mae modd i chi hefyd ymuno â grŵp lleol – fel rydyn ni i gyd yn gwybod, llawer o waith a wna llawer o ddwylo! Mae rhagor o fanylion ar-lein: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/grwpiau-cymunedol/.

Llynedd, fe wnaeth miloedd o wirfoddolwyr gymryd rhan mewn cannoedd o grwpiau glanhau ledled Cymru. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn gobeithio curo'r cyfanswm yma a gwneud Gwanwyn Glân 2026 yr un gorau erioed.

Pe hoffech chi gymryd rhan yn ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy/.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chodi sbwriel yn RhCT, ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/CommunityAction–LitterPicks/CommunityAction–LitterPicks.aspx

Wedi ei bostio ar 19/03/2026