Cafwyd Mr Veliah Muraleetharan, sy'n berchen ar DRI busnes yn Rhondda Cynon Taf ac yn eu gweithredu nhw, yn euog o droseddau hylendid bwyd mewn perthynas â Sherwood Stores, Llwynypia, ac mae wedi cael ei wahardd rhag gweithredu unrhyw fusnes bwyd yng NGHYMRU.
Cynhaliodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Rhondda Cynon Taf arolygiad hylendid bwyd yn y safle ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth gan yr Adran Drwyddedu fod perchennog Sherwood Stores wedi newid. Mr Veliah Muraleetharan oedd y perchennog cofrestredig newydd ac roedd wedi methu â chofrestru'r busnes gyda'r Garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch yn ôl gofynion cyfreithiol.
Yn ystod yr arolygiad, cafodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wybod bod Mr Muraleetharan yn coginio byrgyrs, cŵn poeth, peis a phasteiod, ac roedd wedi methu â gweithredu arferion diogel megis gwirio tymheredd bwydydd wedi'u coginio ac oergelloedd.
Roedd swyddogion hefyd wedi cael gwybod am y canlynol.
- Doedd staff ddim wedi derbyn hyfforddiant hylendid bwyd
- Doedd dim sinc golchi dwylo yn y gegin
- Roedd bwydydd oer risg uchel yn cael eu storio mewn oergelloedd nad oedden nhw'n gweithio'n gywir (tymheredd dros 8°C)
- Roedd cyflwr strwythurol y safle yn wael
- Roedd y safle'n frwnt
- Roedd gwastraff y tu allan i'r safle a doedd gan y gegin ddim system awyru ddigonol.
Cafodd Hysbysiad Camau Adfer (RAN) ei gyflwyno adeg arolygu'r safle, gan atal y safle rhag coginio bwyd a defnyddio'r ddwy oergell ddifygiol i storio bwyd. Mae'r hysbysiad yn parhau i fod mewn grym.
Mae RAN yn hysbysiad ysgrifenedig ffurfiol sy'n cael ei gyflwyno gan swyddogion diogelwch bwyd awdurdodedig (e.e. Iechyd yr Amgylchedd) i weithredwyr busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ôl torri rheoliadau. Mae'n gwahardd defnydd offer/safle penodol, atal prosesau neu'n lleihau gweithrediadau, a hynny ar unwaith, er mwyn mynd i'r afael â pheryglon difrifol, uniongyrchol neu barhaus i iechyd y cyhoedd. Mae rhaid i weithredwyr busnesau bwyd gydymffurfio, gan fod methu â chydymffurfio yn drosedd, ond mae gyda nhw hawl i apelio mewn Llys Ynadon.
Mae Mr Muraleetharan hefyd yn berchen ar DDAU fusnes bwyd arall yn Rhondda Cynon Taf, ac mae gan y ddau hanes o gamau gorfodi o ganlyniad i droseddau hylendid bwyd.
Oherwydd natur ddifrifol yr achos yma a hanes blaenorol y perchennog, cafodd y mater ei drosglwyddo i Lys Ynadon Merthyr Tudful lle cafwyd Mr Veliah Muraleetharan yn euog o'r troseddau hylendid bwyd wedi'u nodi yn Sherwood Stores. Roedd Mr Muraleetharan yn ôl gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful yn gynharach eleni ac mae bellach wedi'i wahardd rhag bod yn weithredwr busnes bwyd yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na fydd hawl ganddo fe redeg busnes bwyd na chofrestru busnes bwyd.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
“Os yw siop yn gwerthu bwyd yn ein Bwrdeistref Sirol, mae ganddi gyfrifoldeb i sicrhau bod y nwyddau y mae'n eu gwerthu yn ddiogel i gwsmeriaid eu bwyta.
“Mae'r achos yma'n tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal y safonau hylendid bwyd uchaf i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae trin bwyd mewn amodau brwnt o'r fath yn annerbyniol ac mae'n rhoi cwsmeriaid a'r gymuned ehangach mewn perygl.
“Roedd y safle'n frwnt, gyda bwydydd mewn perygl o fod wedi'u halogi o ganlyniad i beidio â'u storio neu'u paratoi'n gywir. Roedd hyn yn peri perygl sylweddol i'r cyhoedd ac roedd angen gwelliannau mawr i godi'r safon i lefel dderbyniol.
“Rydw i'n gobeithio y bydd yr erlyniad yma'n anfon neges glir na fyddwn ni'n oedi o ran cymryd camau gweithredu yn erbyn yr unigolion hynny sy'n methu â chydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd, a hynny er mwyn diogelu iechyd a lles trigolion ac ymwelwyr.
“Mae sgoriau hylendid bwyd yn asesiadau hanfodol o safleoedd bwyd, a bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn eu ffugio neu'u cuddio hefyd yn wynebu canlyniadau difrifol."
I gael rhagor o wybodaeth am Reoliadau Hylendid Bwyd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/HylendidBwyd neu e-bostiwch Bwyd.IechydaDiogelwch@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 19/03/2026