Skip to main content

Erlyn Lletywr Cŵn Heb Drwydded yn Aberdâr

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi erlyn menyw o Aberdâr yn llwyddiannus am weithredu busnes llety cŵn yn y cartref heb drwydded, sy'n groes i Ddeddf Sefydliadau Llety Anifeiliaid 1963.

Ymddangosodd Michelle Lewis o Lwydcoed gerbron Llys Ynadon Merthyr ar 11 Chwefror i bledio'n euog i roi llety i gŵn ar ei fferm heb ddal trwydded ddilys. Er ei bod hi wedi dal trwydded o'r blaen i gadw cŵn yn y cartref yn ei chyfeiriad blaenorol ym Maes Moriah, symudodd Ms. Lewis i fferm yn Llwydcoed ond methodd â gwneud cais am drwydded newydd ar gyfer y safle. Mae trwyddedau llety cŵn yn y cartref ond yn ddilys ar gyfer eiddo penodol a does dim modd trosglwyddo trwydded rhwng cyfeiriadau.

Rhaid i unrhyw un sy'n lletya anifeiliaid gartref feddu ar Drwydded Llety Cartref ddilys ar gyfer yr eiddo ble mae'r anifeiliaid. Caiff pob safle trwyddedig ei archwilio'n flynyddol i sicrhau:

  • Amgylchedd diogel ac addas ar gyfer anifeiliaid anwes
  • Gweithdrefnau priodol ar gyfer argyfyngau
  • Bodloni safonau lles anifeiliaid yn gyson
  • Cymhwysedd deiliad y drwydded a'i allu i ofalu am yr anifeiliaid yn y llety

Derbyniodd carfan Trwyddedu a Gorfodi'r Cyngor gŵyn gyntaf am Ms. Lewis ddechrau mis Hydref 2024 ar ôl i aelod o'r cyhoedd roi gwybod bod ei gi wedi cael ei ymosod a'i anafu yn ystod cyfnod o aros ar fferm Ms. Lewis. Yna cysylltodd swyddogion â Ms. Lewis i roi gwybod iddi mai dim ond llety Maes Moriah oedd wedi'i gynnwys o dan ei thrwydded ac nid ei chyfeiriad newydd. Cafodd ei hatgoffa bod gweithredu heb drwydded yn drosedd. Er iddi gael gwahoddiad i wneud cais am drwydded ar gyfer y fferm, daeth dim cais i law.

Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cynhaliodd Swyddog Trwyddedu a Gorfodi ymweliad dirybudd â'r fferm yn Llwydcoed, ble roedd sawl ci wedi'u lletya. Cafodd Ms. Lewis gyngor llafar a rhybudd ysgrifenedig yn rhoi gwybod iddi eto nad oedd ganddi drwydded ddilys ar gyfer yr eiddo ac y byddai camau gorfodi pe bai'n parhau i dorri'r gyfraith.

Ym mis Gorffennaf 2025, derbyniodd yr Awdurdod gŵyn am ymosodiad arall gan gi ar y fferm. Dywedodd y perchennog fod ei anifail anwes wedi aros yno ar dri achlysur gwahanol rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2025.

Daeth Ms. Lewis am gyfweliad yn Swyddfeydd y Cyngor gyda'i chyfreithiwr ym mis Medi 2025. O dan rybudd, wnaeth hi gyfaddef iddi letya cŵn heb drwydded ddilys a chadarnhau ei bod hi wedi derbyn rhybuddion ysgrifenedig blaenorol gan y garfan Trwyddedu a Gorfodi a'i bod hi wedi deall y gofynion trwyddedu.

Mae gofynion Deddf Sefydliadau Llety Anifeiliaid 1963 yn nodi: “No person shall keep a boarding establishment for animals except under the authority of a licence granted in accordance with the provisions of this Act.”

Drwy barhau i letya cŵn ar ôl rhybuddion dro ar ôl tro, methodd Ms. Lewis â chydymffurfio â'r gyfraith, gan roi anifeiliaid mewn perygl. Dyfarnodd Llys Ynadon Merthyr ddirwyon gwerth £393.

Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:

"Dwi'n gobeithio, o ganlyniad i'r achos yma, y bydd trigolion yn gweld pa mor ddifrifol rydyn ni'n cymryd materion busnesau neu unigolion sy'n gweithredu heb drwydded briodol. 

"Rhaid i fusnesau lletya anifeiliaid, boed yn gytiau masnachol, llety cartref neu leoliad gofal dydd, gael eu harchwilio a'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol i sicrhau eu bod nhw'n darparu amgylchedd diogel a phriodol sy'n bodloni'r safonau gofynnol.

"Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth yn Rhondda Cynon Taf ac mae'n hanfodol bod busnesau wedi'u trwyddedu i amddiffyn aelodau'r cyhoedd a'u hanifeiliaid anwes. Bydden ni'n annog trigolion i wirio a sicrhau bod y person maen nhw'n gadael eu ci gydag ef wedi'i drwyddedu'n addas.

"Dyw sefydliadau llety heb drwydded ddim yn cael eu rheoleiddio ac yn y pen draw maen nhw'n tynnu oddi ar safleoedd trwyddedig cyfreithlon. Does dim gwarantau bod modd i'r busnesau ddiwallu anghenion ein hanifeiliaid anwes neu fod ganddyn nhw'r wybodaeth a'r hyfforddiant gofynnol mewn perthynas â'r anifeiliaid mae nhw'n gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n aml yn blaenoriaethu elw dros ddiogelwch, iechyd a lles.

"Dyma obeithio bydd yr achos yma'n atal unrhyw un sy'n gweithredu busnes lletya anifeiliaid heb y drwydded briodol ac yn anfon neges glir na fyddwn ni'n oedi cyn chwilio am unrhyw un sy'n torri'r gyfraith a chymryd camau yn ei erbyn."

Os oes unrhyw un yn pryderu neu'n amau lletya cŵn anghyfreithlon, cysylltwch â'n carfanau Trwyddedu drwy e-bostio Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk neu ymweld â https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LicencesandPermits/LicencesandPermits.aspx

Wedi ei bostio ar 19/03/2026