Mae gyrrwr tacsi heb drwydded wedi cael gorchymyn i dalu dirwy o £760 yn dilyn erlyniad llwyddiannus a gafodd ei gynnal gan Swyddogion Trwyddedu a Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y dyn o Gwm Clydach ei ddal yn gweithredu cerbyd heb drwydded fel tacsi ac yn camarwain y cyhoedd drwy ddefnyddio cerbyd a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi'i drwyddedu.
Ymddangosodd Gareth Matthews, yn masnachu o dan enw Pickles Private Hire - gyrrwr cerbyd hurio preifat trwyddedig a gweithredwr un cerbyd bach, gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful y mis diwethaf.
Plediodd Mr Matthews yn euog i droseddau yn ymwneud â defnyddio cerbyd mwy heb drwydded i gludo pobl i feysydd awyr. Er bod gan Mr Matthews drwydded ar gyfer un cerbyd bach, cafodd ei ddal yn cludo teithwyr am arian yn y cerbyd mwy, preifat, nad oedd wedi'i drwyddedu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i swyddogion dderbyn cwyn yn 2023 yn honni ei fod yn defnyddio cerbyd heb drwydded. Er iddo gael ei atgoffa'n ffurfiol o ofynion trwyddedu a'i rybuddio o'r posibilrwydd o gael ei erlyn, daeth cwynion dilynol i law yn honni bod Mr Matthews wedi parhau i ddefnyddio bws mini heb drwydded ar gyfer teithiau masnachol, gan gynnwys gwasanaeth cludo pobl i feysydd awyr a gafodd ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gofynnodd Swyddogion Trwyddedu a Gorfodi am wybodaeth gan Faes Awyr Caerdydd a Bryste a daeth yn amlwg bod y cerbyd dan sylw wedi mynd i mewn i'w hardaloedd gollwng 47 o weithiau rhwng 1 Mai a 14 Gorffennaf 2025.
Yn ystod cyfweliad Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, cyfaddefodd Mr Matthews ei fod wedi gwneud "nifer fach" o deithiau ond doedd e ddim yn gallu esbonio'r dystiolaeth helaeth o fynd i mewn i ardaloedd gollwng y meysydd awyr.
Rhoddodd Llys Ynadon Merthyr Tudful ddirwy o £760 i Mr Matthews am ei weithredoedd diegwyddor.
Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
"Fydd yr ymddygiad anghyfrifol ac anghyfreithlon yma ddim yn cael ei oddef, gan ei fod yn peryglu diogelwch y cyhoedd, yn rhoi pobl mewn perygl trwy deithiau heb yswiriant ac yn torri ymddiriedaeth a hyder yn ein busnesau cyfrifol.
“Drwy ddefnyddio cerbyd heb drwydded, fe wnaeth yr unigolyn yma osgoi'r gwiriadau diogelwch trylwyr a'r gofynion yswiriant sydd yno i amddiffyn pob teithiwr.
“Mae ein Carfan Drwyddedu'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob tacsi yn Rhondda Cynon Taf yn bodloni'r safonau uchaf. Pan fydd pobl yn defnyddio 'cowboy cabs', maen nhw'n rhoi eu bywydau mewn perygl. Mae tacsis Cerbyd Hacni sydd wedi'u trwyddedu yn Rhondda Cynon Taf yn ddu eu lliw ac mae gyda nhw blât sydd wedi'i ddarparu gan y Cyngor ar y cefn sy'n dangos nifer uchaf y teithwyr, ac arwyddion drws ar bob ochr i'r drysau blaen. Caiff bathodyn ei roi i yrwyr sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor hefyd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ei ddangos i gwsmeriaid pan fydd gofyn gwneud hynny.
“Byddwn i'n dweud i beidio â mynd yn y tacsi os ydych chi'n amau rhywbeth a byddwn i'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am yrwyr tacsi heb drwydded neu gerbydau heb drwydded sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf i gysylltu â Charfan Drwyddedu’r Cyngor.”
Os ydych chi'n defnyddio tacsi yn Rhondda Cynon Taf, cofiwch y canlynol i'ch cadw'n ddiogel:
- Gwiriwch y platiau ac anfon llun at ffrind fel eu bod nhw'n gwybod eich bod chi'n teithio adref yn ddiogel
- Mae tacsis RhCT yn ddu
- Bydd gyda nhw blât wedi'i ddarparu gan y Cyngor ar y cefn
- Arwyddion drws bob ochr i'r drysau blaen
- Bathodyn – y mae'n RHAID ei ddangos pan fydd cwsmer yn gofyn i'w weld.
I roi gwybod am yrrwr tacsi didrwydded, cysylltwch â’r garfan drwyddedu drwy e-bostio adran.trwyddedau@rctcbc.gov.uk neu drwy ffonio 01443 425001.
Wedi ei bostio ar 19/03/2026