Skip to main content

Dadorchuddio Plac Glas i Goffáu Brwydr Maes De Winton

DeWintonField

Delwedd: Harry Dobson, Enrique Baseto, James Bourne, Bataliwn Lincoln-Washington: Mehefin 1938". (Llyfrgell Tamiment, NYU, Casgliad Lluniau 15 IB, Uned Lluniau #: C522).

Bydd Plac Glas newydd yn cael ei ddadorchuddio yn Nhonypandy i goffáu Brwydr Maes Winton. Mae'r plac yn nodi safle digwyddiadau nodedig 11 Mehefin 1936, pan geisiodd cynrychiolwyr Undeb Ffasgwyr Prydain (BUF) gynnal rali yn Nhonypandy. Cawson nhw eu gwrthwynebu gan oddeutu 6000 o brotestwyr gwrth-ffasgaidd.

Aeth y gwrthdystwyr, yn cynnwys glowyr lleol, sosialiaid, comiwnyddion ac undebwyr llafur, ati i atal y cyfarfod ffasgaidd rhag cael ei gynnal. Ar ôl gweiddi parhaus, taflu cerrig, a gwrthwynebiad llethol, gorfodwyd y BUF i roi'r gorau i'w rali ar ôl dim ond 30 munud. Dyma oedd eu hymgais olaf i sefydlu presenoldeb yng Nghymru. 

Roedd y frwydr yn cynrychioli buddugoliaeth leol bendant yn erbyn ffasgiaeth ac roedd yn garreg gamu yn y frwydr ryngwladol yn erbyn mudiadau ffasgaidd ledled Ewrop.

Arweiniodd y gwrthdaro at gyhuddo 37 o brotestwyr gwrth-ffasgaidd ar 187 cyfrif o derfysg a throseddau cysylltiedig. Cafodd nifer ohonyn nhw ddedfrydau carchar o chwe mis. Byddai pedwar o'r rhai a garcharwyd yn gwirfoddoli yn ddiweddarach i'r Brigadau Rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen, a ddechreuodd dim ond pum wythnos ar ôl y gwrthdaro yn Nhonypandy. Yn eu plith roedd Harry Dobson, glöwr o Flaenclydach, a ddaeth yn ffigur chwedlonol yn y Brigadau Rhyngwladol cyn cael ei ladd ym Mrwydr Afon Ebro ym 1938. Mae Plac Coffa yn Llyfrgell Tonypandy i gofio am Harry Dobson.

Mae'r Plac Glas diweddaraf yma'n rhan o gasgliadau coffáu cynyddol sy'n anrhydeddu Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamddentreftadaeth gymdeithasol a gwleidyddol gyfoethog Cwm Rhondda. Mae Plac Glas i anrhydeddu A.J. Cook, arweinydd dylanwadol y glowyr, ac un arall o'r rhai a arestiwyd ar ôl Brwydr Maes De Winton, yn cael ei arddangos yn falch yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod.

Cynhelir achlysur dadorchuddio swyddogol Plac Maes Brwydr De Winton ar 13 Mehefin am 12.30pm yng Nghyfrinfa Glofa'r Cambrian (NUM) yn Nhonypandy. Croeso i bawb.

Y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:

Bydd y seremoni’n gyfle i fyfyrio ar dreftadaeth gymdeithasol a gwleidyddol gyfoethog yr ardal, ac i gydnabod y dewrder a’r undod a ddangoswyd gan y rhai a safodd i amddiffyn gwerthoedd democrataidd. Dyma wahodd aelodau'r cyhoedd i fynychu'r seremoni bwysig yma.

 

Wedi ei bostio ar 19/05/2026