Mae'r Cyngor wedi rhannu adroddiad cynnydd ar waith i adeiladu llety gofal arbenigol yn y Gelli ar gyfer oedolion a phobl hŷn sydd ag anabledd dysgu. Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau eleni, gyda chynnydd yn cael ei wneud gyda'r gwaith brics, y toi a gwaith gosod ceblau mecanyddol a thrydanol.
Mae'r prosiect ar hen safle Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio'r cynnig llety gofal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r datblygiad o'r radd flaenaf yn Heol Colwyn yn cael ei adeiladu gan Langstone Construction Group. Bydd yn cynnwys 14 ystafell en-suite gyda darpariaeth gofal seibiant, wedi'u hadeiladu ar draws tri llawr (llawr isaf, llawr gwaelod a llawr cyntaf).
Mae'r cyfleusterau modern ar y safle yn cynnwys llety a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, ystafelloedd ymolchi â chymorth ac ystafell hyfforddi. Bydd ardal awyr agored fywiog yn cael ei darparu, tra bod maes parcio a phrif bwynt mynediad presennol y safle yn cael eu cadw.
Mae cynnydd pwysig wedi'i wneud gyda'r gwaith adeiladu dros y gaeaf, yn enwedig o ran ffurfio prif strwythur yr adeilad newydd. Mae'r rhan fwyaf o'r lefelau isaf wedi'u cwblhau, gyda'r llawr cyntaf yn ei le. Mae planciau llawr concrit wedi'u gosod ar y llawr cyntaf, yn barod i adeiladu'r llawr olaf.
Mewn mannau eraill, mae gwaith gosod ceblau mecanyddol a thrydanol wedi dechrau, a hynny cyn prif gam y gwaith yn yr ardal yma. Yn allanol, mae gerddi dŵr glaw a siambrau rheoli dŵr storm wedi'u gosod, gan ffurfio rhan o Gynllun Draenio Cynaliadwy a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd dŵr wyneb yn ystod glaw trwm.
Yn ystod y cyfnod nesaf, bydd y contractwr yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y tywydd tymhorol gwell i gwblhau strwythur yr adeilad, strwythur y to, a'r gorchuddion. Bydd y gwaith o osod ffenestri a drysau hefyd yn mynd rhagddo, ynghyd â chwblhau wyneb yr adeilad, a symud ymlaen i gynnal gwaith y tu mewn. Bydd gwaith draenio yn parhau ynghyd â gwaith tirlunio meddal ar ôl tynnu’r sgaffaldau o’r safle. Mae disgwyl i'r prosiect cyfan gael ei gwblhau yn hydref 2026.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae’r datblygiad trawiadol yma yn y Gelli yn adfywio safle segur yng nghanol y gymuned, gan greu llety modern i bobl ag anableddau dysgu er mwyn iddyn nhw dderbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae modd i ni weld y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y delweddau diweddaraf o'r safle gwaith, a bydd ein contractwr yn edrych i wneud cynnydd pellach yn ystod y gwanwyn a'r haf, gan alluogi'r datblygiad i agor eleni.
“Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn llety gofal modern, gan ymateb i newidiadau a nodwyd o ran eu hanghenion a’u disgwyliadau – tra ein bod hefyd yn sicrhau bod galw mewn cymunedau penodol yn cael ei ddiwallu. Bydd y cynllun arbenigol yma yn y Gelli yn creu 14 gwely newydd, ac mae'n cael ei adeiladu ochr yn ochr â chynllun gofal ychwanegol newydd gyda 60 gwely yn y Porth sydd bron â'i gwblhau. Mae gyda ni dri datblygiad gofal ychwanegol llewyrchus eisoes yn nhref Tonysguboriau, Aberaman a'r Graig, sy'n parhau i fod yn boblogaidd iawn gyda thrigolion a chymunedau.
“Yn ogystal â hyn, mae gwaith wedi dechrau’n ddiweddar ar safle yn Aberpennar, i greu datblygiad sy’n cyfuno gofal ychwanegol, gofal dementia a ‘Byw’n Hwyrach’ ar un safle – tra bod y Cyngor eisoes wedi ymrwymo i gynlluniau yn y dyfodol yn nhref Glynrhedynog a Phentre’r Eglwys. Mae swyddogion yn parhau i ddylunio a datblygu'r prosiectau a byddan nhw'n rhannu eu cynnydd â'r cyhoedd.
"Mae'n wych gweld y gwaith o osod y to a'r gwaith brics yn mynd rhagddo ar y safle yn y Gelli, wrth i'r adeilad ddechrau cymryd siâp go iawn, wythnos ar ôl wythnos. Mae ein contractwr ymroddedig Langstone Construction Group yn parhau i weithio'n galed ar y safle bob dydd, gan rannu ein hymrwymiad i gyflawni'r prosiect yma cyn gynted â phosibl ar gyfer y gymuned. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y safle eto yn fuan iawn."
Mae'r cam adeiladu yn mynd rhagddo gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y gymuned leol. Os oes gan drigolion unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r gwaith neu weithgarwch ar y safle, cysylltwch â Rheolwr Prosiect y Contractwr (rthomas@langstoneconstruction.com) neu Reolwr Gwerth Cymdeithasol y Cynllun: (rcarey@langstoneconstruction.com).
Ewch i dudalennau gwe #TrawsnewidRhCT i fwrw golwg ar ein buddsoddiad mewn gofal preswyl a gofal ychwanegol – mae’r tudalennau yma’n cynnwys gwybodaeth am brosiectau yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, yn ogystal ag astudiaethau achos fideo sy’n dangos sut mae ein safleoedd gofal ychwanegol yn helpu pobl leol i fyw’n annibynnol, wrth ddarparu cymorth ar gyfer eu hanghenion asesedig.
Wedi ei bostio ar 20/05/2026