Dyma wahoddiad i deuluoedd a'r rheiny sy'n dwlu ar geir ymuno â ni yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yr haf yma, wrth i'r Sioe Ceir Clasur boblogaidd ddychwelyd am ddiwrnod gwych arall!
Mae'r sioe yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Mehefin rhwng 10am a 4pm. Bydd yr achlysur yn trawsnewid ardal awyr agored yr amgueddfa i fod yn ddathliad o hanes moduro. Disgwyliwch ddiwrnod yn llawn cerbydau hen ffasiwn a llwyth o bethau i'w harchwilio.
Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg, bydd y sioe yn cynnwys ystod wych o geir a beiciau clasurol. Bydd modd i ymwelwyr fwrw golwg ar y cerbydau, tynnu lluniau a sgwrsio â'r perchnogion sydd bob amser yn hapus i rannu eu straeon a'u hangerdd dros y cerbydau hardd yma.
Bydd llwyth o bethau i'w mwynhau tu hwnt i'r ceir hefyd. Bydd modd i deuluoedd ymweld ag arddangosfeydd rhyngweithiol yr amgueddfa, cael tamaid i'w fwyta yn y Caffi ar y safle, neu gymryd rhan yn y Daith Danddaearol yr Aur Du boblogaidd. Dyma daith unigryw a difyr sy'n mynd â chi yn ôl mewn amser i ddysgu straeon am gloddio glo yng Nghymoedd De Cymru.
Mae pob un o'r tywyswyr yn gyn-lowyr a fu'n gweithio o dan y ddaear eu hunain ar un adeg, ac mae pob taith yn wahanol. Disgwyliwch ddigonedd o chwerthin, straeon diddorol ac atgofion personol, cyn gorffen gyda reid ar y DRAM - taith hwyliog, sy’n efelychu siwrnai’r dram olaf o lo wrth iddo deithio i ben siafft y pwll glo. Daliwch yn dynn!
Mae tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur yn costio £6.50 i oedolion a £5.50 i blant, gan gynnwys ffi trafodiad o £1 fesul archeb. Does dim modd prynu tocynnau plant yn unigol ar-lein ond mae modd eu hychwanegu at archeb drwy ffonio Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae modd i blant dan 5 oed ddod am ddim.
P’un ai eich bod chi'n berson sy'n angerddol dros geir clasur neu'n chwilio am ddiwrnod hwyl i'r teulu, mae rhywbeth at ddant bawb yn yr achlysur blynyddol poblogaidd yma.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: “Rydyn wrth ein boddau’n croesawu’r Sioe Ceir Clasur yn ôl i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda eleni. Mae'n achlysur poblogaidd iawn sy'n dod â phobl ynghyd ac yn cynnig rhywbeth at ddant pawb o bob oed. Gan weithio gyda Chlwb Ceir Clasur Morgannwg, rydyn ni'n gallu arddangos ystod wych o gerbydau clasur, gyda phob un yn cael gofal ac yn destun balchder. Maen nhw wir yn edrych yn wych yn lleoliad hanesyddol Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae perchnogion y ceir bob amser yn hael gyda'u hamser ac yn hapus i sgwrsio, gan wneud yr achlysur yn hamddenol a chyfeillgar ac yr un mor bleserus i deuluoedd a phlant ag ydyw i'r rheiny sy'n dwlu ar gerbydau. Mae'n ffordd wych o dreulio diwrnod o haf."
Rydyn ni'n annog y rheiny sydd â diddordeb mewn arddangos eu car clasur ei hun i wneud cais o flaen llaw yma.
Mae modd i ymwelwyr brynu tocynnau yma, neu dalu wrth y fynedfa ar y diwrnod!
Er mwyn dysgu rhagor am Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, cadw lle ar Daith Dywys Danddaearol yr Aur Du neu hyd yn oed cadw bwrdd yn Caffe Bracchi, ewch i: www.rhonddaheritagepark.com
Dilynwch @whatsonrct am fanylion pob achlysur!
Wedi ei bostio ar 19/05/2026