Skip to main content

Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb mewn achlysuron galw heibio yn y gymuned

budget-GENERIC-2027-28-WELSH

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau nifer o achlysuron wyneb yn wyneb yn rhan o Gam Un ymgynghoriad y Cyngor ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf (2027/28). Byddan nhw'n cael eu cynnal mewn lleoliadau yn y gymuned ar ddiwedd mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr. Bydd modd i drigolion alw heibio i ddysgu rhagor, trafod gyda swyddogion, a dweud eu dweud.

Mae Cam Un yr ymgynghoriad blynyddol yn digwydd yn ystod yr hydref, a hynny ar ôl iddo ddechrau ar 2 Tachwedd ar wefan Dewch i Siarad. Mae modd i drigolion ddweud eu dweud mewn sawl ffordd hyd at 14 Rhagfyr - gyda'r cam yma o'r broses yn canolbwyntio ar flaenoriaethau buddsoddi, arbedion effeithlonrwydd a lefelau Treth y Cyngor. Dysgwch ragor am Gam Un yn yr eitem newyddion flaenorol yma.

Gan ddefnyddio'r adborth byddwn ni'n ei dderbyn, bydd swyddogion wedyn yn cyflwyno cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf – sydd hefyd yn seiliedig ar y dyraniadau yn setliad dros dro Llywodraeth Cymru sydd i'w ddisgwyl ym mis Tachwedd. Bydd Cam Dau'r ymgynghoriad yn digwydd yn y Flwyddyn Newydd, gan ganolbwyntio ar y strategaeth gyllideb ddrafft.

Achlysuron ymgynghori wyneb yn wyneb yn y gymuned 

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gan drigolion gyfle i ymweld ag achlysur cyhoeddus lle bydd swyddogion y Cyngor wrth law i ateb unrhyw gwestiynau, a helpu pobl i ddweud eu dweud yn ffurfiol – er enghraifft, trwy ddarparu cymorth i gwblhau'r arolwg. Bydd yr achlysuron yma'n cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol – mae croeso i drigolion alw heibio unrhyw bryd o fewn yr amseroedd sydd wedi'u nodi: 

  • Llyfrgell Aberpennar (30 Tachwedd, rhwng 12pm a 2pm)
  • Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr (30 Tachwedd, rhwng 5.30pm a 7pm).
  • Llyfrgell Pontypridd (2 Rhagfyr, rhwng 10am a 12pm)
  • Canolfan Hamdden Llantrisant (2 Rhagfyr, rhwng 4pm a 6pm)
  • Llyfrgell Treorci (8 Rhagfyr, rhwng 10am a 12pm)
  • Llyfrgell Glynrhedynog (8 Rhagfyr, rhwng 12.30pm a 2.30pm)
  • Llyfrgell Porth (8 Rhagfyr, rhwng 3pm a 5pm)
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen (9 Rhagfyr, rhwng 11.30am ac 1.30pm)
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach, Tylorstown (9 Rhagfyr, rhwng 2.30pm a 4.30pm)
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad (rhwng 5pm a 7pm)

Mae'r achlysuron wedi'u trefnu ar wahanol adegau o'r dydd, gan alluogi trigolion i ddewis amser a dyddiad sy'n gyfleus iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi'u seilio ar argaeledd swyddogion a'r lleoliadau yn y gymuned.

I drigolion sy'n methu â mynychu achlysur, ewch i wefan Dewch i Siarad i weld gwybodaeth allweddol am gyd-destun a chefndir y gyllideb, ynghyd ag arolwg i roi adborth. Bydd modd cwblhau'r arolwg ar-lein, ar ddogfen i'w hargraffu, ar ffurf hawdd ei darllen (dogfen i'w hargraffu), neu drwy'r post (ar gais). Yn seiliedig ar adborth y cyhoedd, mae fersiwn newydd a gwell o'n hefelychydd cyllideb rhyngweithiol ar gael eto, sy’n gofyn i drigolion ddewis y gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw gan ddefnyddio graddfa symudol.

Mae modd i drigolion hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad dros y ffôn drwy ffonio Canolfan Alwadau'r Cyngor (01443 425014), lle byddwn ni'n cynnig apwyntiadau unigol dros y ffôn. Mae modd trefnu anfon arolygon papur a gwybodaeth dros y ffôn hefyd, ac mae cyfeiriad Rhadbost ar gael er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad trwy'r post.  Defnyddiwch Radbost (RUGK-EZZL-ELBH), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Trydydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Mae swyddogion wedi trefnu nifer o achlysuron wyneb yn wyneb yn rhan o Gam Un ymgynghoriad y Cyngor ar gyllideb 2027/28 – sy'n fwy na nifer y llynedd, gan roi rhagor o gyfleoedd i drigolion ddweud eu dweud wyneb yn wyneb. Mae croeso i bawb alw heibio heb orfod cadw lle ymlaen llaw. Bydd modd i drigolion ofyn cwestiynau i swyddogion am wariant y Cyngor, derbyn cymorth i gwblhau'r arolwg, a defnyddio'r efelychydd cyllideb rhyngweithiol. Mae cynnig rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan wyneb yn wyneb yn cyfrannu ymhellach at gyfranogiad ystyrlon gan y cyhoedd, ac mae'n rhan allweddol o'n Strategaeth Cymryd Rhan ar gyfer ymgynghoriadau.

“Mae’r achlysuron yma yn mynd rhagddyn nhw ochr yn ochr â’n porth ymgynghori ar wefan Dewch i Siarad, a aeth yn fyw ar 2 Tachwedd. Mae gan drigolion hefyd gyfle i gymryd rhan drwy’r post, tra bod swyddogion yn ymgysylltu’n uniongyrchol â grwpiau cymunedol lleol megis y Grŵp Ymgynghori'r Bobl Hŷn, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Cydbwyllgor Ymgynghori, Cylch Trafod Cyllidebau Ysgolion, y Pwyllgor Cyswllt â Chymunedau, rhai grwpiau ieuenctid a rhai o'n hysgolion.

“Gyda llywodraeth leol yn parhau i fynd trwy gyfnod heriol o ran cyllid – a chyda phob Cyngor yng Nghymru eto’n debygol o wynebu bwlch yn y gyllideb wrth bennu eu cyllideb ar gyfer 2027/28 fis Mawrth nesaf – mae hyd yn oed yn fwy pwysig i drigolion gael dweud eu dweud ar wariant y Cyngor. Bydd uwch swyddogion a'r Cabinet yn ystyried yr holl adborth sy'n dod i law wrth wneud penderfyniadau allweddol tuag at bennu cyllideb 2027/28. P'un a fyddwch chi'n dweud eich dweud wyneb yn wyneb, trwy’r post neu ar-lein, byddwn i'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb i gymryd rhan er mwyn llywio ein gwaith o bennu ein cyllideb.”

Wedi ei bostio ar 20/11/2026