Mae'r Cynghorydd Mark Norris wedi'i benodi'n Ddirprwy Arweinydd newydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Cafodd ei benodi yn ystod Cyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher 11 Tachwedd, yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Maureen Webber i roi’r gorau i’r rôl ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.
Wedi'i ethol gyntaf yn 2004 i gynrychioli ward Cwm Clydach, gwasanaethodd y Cynghorydd Norris yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad cyn ymuno â'r Cabinet yn 2016, gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Corfforaethol.
Ers hynny, mae'r Cynghorydd Norris wedi gwasanaethu yn y Cabinet yn barhaus, ac ar hyn o bryd mae'n gyfrifol am y portffolio Adfywio a Thai lle y mae ef wedi goruchwylio nifer o ddatblygiadau pwysig.
Ar ôl iddo gael ei benodi, meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Norris: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Ddirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymddiriedaeth a'r hyder y mae pawb wedi'u rhoi ynof fi.
"Rwy'n edrych ymlaen at ymgymryd â'r cyfrifoldeb newydd yma, gan weithio ochr yn ochr â'r Arweinydd, y Cynghorydd Ann Crimmings, a'm cydweithwyr yn y Cabinet wrth i ni barhau i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni raglen uchelgeisiol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, o adfywio canol ein trefi a buddsoddi mewn addysg i gefnogi cymunedau a diogelu'r gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnyn nhw.
“Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i'r Cynghorydd Webber, sydd wedi rhoi deng mlynedd o wasanaeth ymroddedig fel Dirprwy Arweinydd. Mae ei harweinyddiaeth a'i chyfraniad i'r Cyngor wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydw i wedi gweld â'm llygaid fy hun yr ymrwymiad y mae hi wedi'i ddangos i wella bywydau trigolion a chymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ann Crimmings: "Rydw i wrth fy modd bod Mark wedi cael ei benodi'n Ddirprwy Arweinydd. Mae'n dod â llwyth o brofiad i'r rôl, ar ôl gwasanaethu cymunedau Rhondda Cynon Taf fel Aelod o'r Cabinet am dros 10 mlynedd, lle y mae ef wedi cynnal nifer o gyfrifoldebau pwysig yn y Cyngor.
"Mae Mark wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r Cabinet dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n gwybod y bydd ei brofiad, ei ymrwymiad a'i wybodaeth am ein cymunedau o fudd mawr yn ei rôl newydd.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Mark wrth i ni barhau i gyflawni ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer trigolion ledled Rhondda Cynon Taf."
Wedi ei bostio ar 17/11/2026