Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar y cynllun Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu sy'n mynd rhagddo

Unadopted Roads Programme grid

Heol y Fferm, Aberaman

Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau 40 o gynlluniau gosod wyneb newydd ledled Rhondda Cynon Taf yn rhan o'i Gynllun Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu, ers i'r buddsoddiad yn y maes pwysig yma ddechrau tua chwe blynedd yn ôl. Mae un cynllun arall ar y gweill ar hyn o bryd yn y Gadlys ac mae un arall wedi'i drefnu yn Aberaman ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.

Mae'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu ystyried cyfleoedd i wella ffyrdd heb eu mabwysiadu neu heb eu cofrestru sydd wedi'u gadael mewn cyflwr annerbyniol am gyfnod hir, gan eu mabwysiadu er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw arnyn nhw yn y dyfodol. Heb ymyrraeth y Cyngor, byddai'r ffyrdd yn parhau i fod mewn cyflwr gwael heb fawr o obaith o'u gwella.

Ar ôl cwblhau 38 o gynlluniau rhwng 2021/22 a 2025/26, mae'r Cyngor wedi cyflawni dau arall hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol yma (2026/27), yng Ngarth Wen, Trealaw (ar y cyd â Llywodraeth Cymru) ac yn Heol y Fferm yn Aberaman.

Yn ogystal â hyn, mae un cynllun lleol ar y gweill ar hyn o bryd, i wella'r rhan o'r ffordd rhwng Heol Glan a Stryd Gadlys yn y Gadlys, Aberdâr, tra bod cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer cynllun ychwanegol ar wahân yn Heol y Gwaith Nwy yn Aberaman, a fydd yn dechrau cyn bo hir. Mae rhestr lawn o'r 42 o gynlluniau wedi'i chynnwys ar waelod y diweddariad yma.

Dechreuodd buddsoddiad y Cyngor yn y maes yma yn 2021/22, gyda chynllun peilot cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar chwe ffordd breifat mewn cyflwr gwael. Cafodd gwelliannau eraill, o waith carthffosiaeth i oleuadau stryd, eu cwblhau ochr yn ochr â'r gwaith gosod wyneb newydd ar y ffyrdd. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, mae'r Cyngor yn parhau i nodi lleoliadau newydd yn ei raglen gyfalaf flynyddol, gan hefyd geisio cyfleoedd ariannu ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Cyflwynodd y Cyngor y cynllun buddsoddi yma gyntaf tua chwe blynedd yn ôl er mwyn mynd i’r afael â phroblem gyffredin gyda ffyrdd nad yw'r Cyngor yn berchen arnyn nhw sy'n cael eu gadael mewn cyflwr gwael. Roedd trigolion mewn llawer o'r lleoliadau yma'n pryderu bod y ffyrdd yn mynd yn anniogel, y byddai eu cyflwr yn creu difrod i'w cerbydau, a bod y sefyllfa'n teimlo fel na fyddai byth yn newid.

“Rwy’n falch ein bod ni wedi cyflawni 40 o gynlluniau er budd cymunedau ers ein cynllun peilot yn 2021/22, a’n bod yn gallu parhau i ddod o hyd i leoliadau newydd i fuddsoddi arian ynddyn nhw. Ym mis Medi 2026, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad ychwanegol o £150,000 mewn Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu yn rhan o gyllid ehangach ar gyfer ardaloedd â blaenoriaeth. Roedd hyn wedi galluogi cynlluniau newydd yn Heol y Fferm yn Aberaman – sydd wedi'i gwblhau erbyn hyn – ac oddi ar Stryd Gadlys yn Aberdâr, ble bydd y gwaith yn dechrau'n fuan. Bydd un cynllun ychwanegol hefyd yn cael ei gyflawni yn y flwyddyn ariannol yma yn Heol y Gwaith Nwy yn Aberaman, gan ddod â chyfanswm ein cynlluniau i 42.

“Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan drigolion yn gadarnhaol iawn ar y cyfan, gyda’r buddsoddiad parhaus yma'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynllun yn ehangu ymhellach yn y dyfodol."

Y Newyddion Diweddaraf am y Cynllyn Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu 

38 o gynlluniau wedi’u cwblhau – rhwng 2021/22 a 2025/26

  • Rhes y Glowyr, Llwydcoed
  • Maes Aberhonddu, Aberaman
  • Heol Penrhiw, Aberpennar
  • Teras Ochr y Bryn, Llwynypia
  • Teras Trafalgar, Ystrad
  • Clos y Beirdd, Rhydfelen
  • Belle Vue, Trecynon (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
  • Rhodfa Bryn-glas, Aberaman
  • Stryd yr Eglwys, Aberdâr
  • Teras Morgannwg, Gilfach-goch
  • Ffordd y Goedwig, Trenant
  • Llys Brynderwen, Glynrhedynog
  • Maes David, Llanharan
  • Clos Sant Pedr, Llanharan
  • Rhodfa Aron Sant, Llanharan
  • Cilgant Sant Iŵl, Llanharan
  • Cwrt Forest, Aberpennar
  • Stryd y Carw Coch, Trecynon
  • Maes Clive, Trecynon
  • Clos Glyncornel, Llwynypia
  • Stryd Cadwaladr, Aberpennar
  • Heol Gelliwion, Pontypridd
  • Yr Ucheldir, Tonyrefail (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)
  • Bryn y Rhosyn Coch, Ystrad
  • Teras Horeb, Llwydcoed
  • Rhes y Lewis Arms, Penrhiw-fer
  • Rhodfa Richmond, Hirwaun
  • (oddi ar) Deras Bronallt, Abercwmboi
  • Clos y Berllan, Porth
  • Heol y Bwllfa, Cwmaman
  • Rhes yr Eglwys, Trecynon (wedi'i ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru)
  • (oddi ar) Heol Brynmair, Godreaman
  • Heol Graig , Ynys-hir
  • Y Pandy, Hirwaun
  • Maes Siôn, Cwm-bach
  • Stryd Jenkin, Trehopcyn
  • Teras Troedpennar, Abercynon
  • Maes Kingsbury, Llwydcoed (wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru)

Dau gynllun wedi'u cwblhau yn y flwyddyn gyfredol – 2026/27 

  • Garth Wen, Trealaw
  • Heol y Fferm, Aberaman 

Un cynllun eisoes wedi'i gytuno'n mynd rhagddo – 2026/27 

  • Heol Glan i Stryd Gadlys,y Gadlys 

Un cynllun eisoes wedi'i gytuno'n dechrau'n fuan – 2026/27 

  • Heol y Gwaith Nwy, Aberaman 

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad ehangach mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar gael ar dudalennau penodol gwefan #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 17/11/2026