Skip to main content

Gwahodd trigolion ledled Rhondda Cynon Taf i ddweud eu dweud ar sut mae sefydliadau'n ymateb i bryderon diogelu

Mae pobl ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn arolygon cyn arolygiad ar y cyd a fydd yn archwilio sut mae sefydliadau'n ymateb i bryderon sy'n ymwneud â rhywun sy'n gweithio gyda phlant, neu'n gwirfoddoli â nhw.

Mae trigolion, plant a phobl ifainc, ymarferwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar drefniadau diogelu lleol. Mae diogelu yn golygu cadw pobl yn ddiogel rhag niwed.

Bydd yr arolygiad ar y cyd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2027, a hynny er mwyn archwilio sut mae sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd pan fydd honiad neu bryder yn cael ei godi am ymarferydd neu berson arall sy'n cyflawni swydd gyfrifol gyda phlant.

Mae'r trefniadau'n cael eu nodi'n ffurfiol yn Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru. Mae'r gweithdrefnau'n nodi sut y dylai sefydliadau ymateb i bryderon sy'n ymwneud ag ymarferwyr a phobl sy'n cyflawni swyddi cyfrifol.

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn arwain yr arolygiad ochr yn ochr ag Estyn ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. Bydd yr arolygiad yn ystyried a yw pryderon yn cael eu rheoli mewn modd diogel, teg, cyson a chyfreithlon, ac a ydyn ni'n gwrando ar y plant a'r bobl eraill sy'n cael eu heffeithio, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth gyda nhw a'u bod nhw'n cael eu cefnogi.

Cyn i'r arolygiad gael ei gynnal, mae'r arolygiaethau'n awyddus i glywed gan bobl yn Rhondda Cynon Taf ynglŷn â sut mae'r trefniadau diogelu yma'n gweithio'n lleol.

Mae'r arolwg dienw ar gael i drigolion, ymarferwyr a phobl sy'n cyflawni swyddi cyfrifol. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau, ac mae modd ei gwblhau'n Gymraeg neu'n Saesneg.

Mae arolygon ar wahân ar gael i blant 5-11 oed a phobl ifainc 11-16 oed, fel bod modd iddyn nhw rannu'u profiadau nhw o ddiogelu mewn ysgolion. Mae arolwg hawdd ei ddarllen ar gael hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr materion Diogelu y Cyngor: “Rhaid i sefydliadau wrando'n ofalus, rhannu gwybodaeth yn briodol ac ymateb yn effeithiol i bryderon sy'n cael eu codi er mwyn cadw plant yn ddiogel.

“Mae’r arolygiad yma'n gyfle pwysig i bobl ledled Rhondda Cynon Taf rannu eu profiadau a’u barn yn uniongyrchol gyda’r arolygiaethau annibynnol hynny. Does dim angen i chi ddeall y gweithdrefnau ffurfiol neu wybod beth mae Adran 5 yn ei golygu i gymryd rhan.

“Byddwn i'n annog trigolion, ymarferwyr, gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol, plant a phobl ifainc i ymweld â gwefan y Cyngor, dewis yr arolwg sy'n berthnasol iddyn nhw a helpu i lywio'r gwaith pwysig yma.”

Mae modd i chi gwblhau'r arolygon yma: www.rctcbc.gov.uk/ArolwgDiogelu

Wedi ei bostio ar 19/11/2026