Mae rhiant maeth o Gymru wedi cael ei chanmol am y gefnogaeth mae hi'n ei chynnig i blant a phobl ifainc ledled y wlad yn y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu ('Fostering Excellence Awards') blynyddol.
O'r 17 gwobr, roedd wyth enillydd o Gymru, gyda rhieni maeth a'u teuluoedd yn cael eu cydnabod am y tosturi, yr empathi a'r gefnogaeth maen nhw wedi'u dangos i blant a phobl ifainc mewn gofal maeth.
Cafodd Tracy, un o rieni maeth Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, ei chydnabod â gwobr Effaith yn y Gymuned ('Fostering Community Impact Award').
Mae Tracy wedi cyfrannu at ofal maeth am 24 mlynedd, nid yn unig yn gofalu am blant a phobl ifainc ond hefyd yn rhoi cymorth i rieni maeth eraill hefyd. Meddai: "Fydda i ddim o gwmpas am byth felly mae’n bwysig fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i fagu'r genhedlaeth nesaf o rieni maeth."
Tynnodd enwebydd Tracy sylw at ei hymrwymiad i gryfhau'r gymuned maethu trwy fentora rhieni maeth newydd, dal i fyny â rhieni maeth eraill, hybu gweithgareddau recriwtio a rhannu ei phrofiadau'n gyhoeddus i ysbrydoli eraill i ystyried maethu.
Canmolodd cydweithwyr Tracy am yr oriau di-ri y mae'n eu neilltuo i helpu eraill, gan ei disgrifio'n fentor dibynadwy sy'n cynnig cyngor ymarferol, sicrwydd a charedigrwydd "heb unrhyw ragfarn".
Roedd Tracy yn un o'r Arloeswyr Maethu cyntaf yng Nghymru. Mae hi wedi helpu i ddatblygu rôl yr Arloeswr yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru, gan rannu ei phrofiad a'i hangerdd dros ddarparu cymorth i gymheiriaid a chreu cymuned faethu gref.
Ychwanegodd ei henwebydd: "Mae Tracy yn cynnig gofal sy'n ystyriol o drawma ac sydd wedi'i wreiddio mewn llonyddwch, empathi a diogelwch. Mae hi'n helpu plant i deimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi, yn meithrin eu hymddiriedaeth a'u hyder, ac yn hybu perthnasoedd teuluol pwysig gyda thynerwch a pharch.
"Mae ei dylanwad hi'n estyn ymhell y tu hwnt i'w chartref ei hun. Mae Tracy yn fentor a ffrind dibynadwy i rieni maeth newydd, gan gynnig doethineb, sicrwydd a charedigrwydd ymarferol heb unrhyw ragfarn. Drwy alwadau, ymweliadau, anogaeth a chymorth emosiynol, mae hi'n helpu rhieni maeth i deimlo'n llai unig ac ei bod hi'n eu deall nhw i'r dim. Mae hi hefyd yn neilltuo oriau di-rif i recriwtio ac ysbrydoli rhieni maeth newydd, gan rannu ei phrofiad â gonestrwydd ac angerdd."
Yn ogystal â rhoi cymorth i rieni maeth, mae Tracy wedi gweithio'n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr addysg a theuluoedd i wella deilliannau i blant. Mae hi wedi cyfrannu at ddealltwriaeth well o brofiadau plant mewn gofal yn ein hysgolion ac wedi hyrwyddo maethu drwy waith yn y cyfryngau, gan gynnwys siarad ar BBC Radio Cymru.
Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maeth mwyaf mawreddog y DU, sy’n dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes maethu ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob dydd.
Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal ar 12 Tachwedd yn Theatr Birmingham Repertory a'i chyflwyno gan y digrifwr a'r darlledwr Kiri Pritchard-McLean. Mae Kiri yn rhiant maeth hefyd ac yn eiriolwr pybyr dros faethu gydag awdurdodau lleol.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Llongyfarchiadau i Tracy oddi wrthyn ni i gyd. Rydyn ni mor falch, yn ddiolchgar iawn ac yn llawn parch at y gwaith y mae hi a'i chyd-rieni maeth yn ei wneud i bobl ifainc.
"Mae gwobr Tracy yn haeddiannol iawn. Mae hi wedi rhoi ymdrech, ymrwymiad a chariad diddiwedd i faethu ers blynyddoedd lawer.
"Mae hi nid yn unig wedi newid bywydau nifer dirifedi o blant ifainc mewn gofal, mae hi wedi ymroi i fod yn fodel rôl ac yn gymorth i'w chyd-rieni maeth.
"Fel un o'r cyntaf i fod yn Arloeswr Maethu, mae Tracy yn rhannu ei sgiliau, ei gwybodaeth a'i phrofiad gyda'i chyfoedion ac yn helpu i groesawu'r genhedlaeth nesaf o rieni maeth Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf.
“Mae hi hefyd wedi chwifio'r faner dros faethu ledled Cymru, gan ymgyrchu dros newid, llunio polisi ac eirioli dros blant mewn gofal. Mae hi'n enghraifft ddisglair o'r nifer o bobl sydd gennyn ni ledled Rhondda Cynon Taf sy'n creu amgylchedd diogel, proffesiynol a chefnogol i rieni maeth a'n plant mewn gofal fel ei gilydd ym Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf."
I gael gwybod rhagor am ddod yn rhiant maeth yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru.
Wedi ei bostio ar 16/11/2026