Skip to main content

Dyfarniad gwobr yn ddathliad o bartneriaeth sy'n gwella mynediad cyn-filwyr at ofal iechyd

Mae partneriaeth sy'n gwella mynediad cyn-filwyr a chymuned y Lluoedd Arfog yn ehangach ledled Cwm Taf Morgannwg at ofal iechyd a chymorth  wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Blynyddol Seren Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 2026.

Mae'r Bartneriaeth Iechyd, Cyn-filwyr a Lluoedd Arfog wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dewis y Bobl, sy'n cydnabod unigolyn neu garfan sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiadau pobl o ran gofal iechyd, cymorth neu wasanaethau.

Mae'r bartneriaeth yn gydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Valley Veterans, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Interlink Rhondda Cynon Taf, ac ystod o bartneriaid yn y maes iechyd, yr awdurdod lleol a phartneriaid trydydd sector sydd â'r nod o wella mynediad cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd at ofal iechyd, lles a chymorth yn y gymuned.

Mae oddeutu 15,500 o gyn-filwyr yn byw yng Nghwm Taf Morgannwg; dyma un o'r cymunedau mwyaf o gyn-filwyr yn Ne Cymru. Serch hynny, yn ôl gwerthusiad lleol mae modd i gyn-filwyr wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at gymorth – gan gynnwys stigma, trawma o'r gorffennol, anawsterau wrth lywio gwasanaethau, ac, unigolion yn teimlo'n gyndyn i nodi'u bod nhw'n gyn-filwyr.

Cafodd y bartneriaeth ei datblygu gyda chyn-filwyr a'u teuluoedd at ddibenion mynd i'r afael â'r rhwystrau yma a gofalu bod gwasanaethau'n cael eu llywio gan eu profiadau. Mae hyn yn rhan o waith y bartneriaeth: hyfforddi staff meddygfeydd teulu, gwella'r modd mae cyn-filwyr yn cael eu nodi a'u cofnodi yn rhan o'r systemau gofal iechyd, cryfhau llwybrau atgyfeirio a chynnig gwasanaethau'r GIG yn rhan o leoliadau mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw yn y gymuned.

Un o'r newidiadau sydd wedi'u cyflwyno yw annog meddygfeydd teulu i holi cleifion yn uniongyrchol p'un a ydyn nhw wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mae nifer y cyn-filwyr sydd wedi'u nodi mewn meddygfeydd Cyfeillgar i Gyn-filwyr yn y dalgylch wedi cynyddu ers hynny, gan godi o 262 i 369; mae hyn yn gynnydd o oddeutu 40%.

Mae presenoldeb GIG rheolaidd hefyd wedi'i sefydlu yn y Ganolfan Valley Veterans yn Pentre; mae hyn wedi galluogi cyn-filwyr i gael mynediad at gymorth mewn amgylchedd cyfarwydd yn y gymuned lle mae'n bosibl eu bod nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus yn trafod eu hanghenion.

Cafodd y dull cydweithio yma ei arddangos yn yr Achlysur Cyn-filwyr Cwm Taf Morgannwg a Iechyd y Lluoedd Arfog, cyntaf, a gafodd ei gynnal gan ystod o bartneriaid yn Valley Veterans yn Pentre yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog fis Mehefin 2025.

Fe wnaeth mwy na 150 o bobl a mwy na 30 sefydliad gymryd rhan, gan alluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i gysylltu'n uniongyrchol gyda gwasanaethau sy'n cynnig cymorth o ran iechyd corfforol a meddwl, trawma a cholled, tai a gwasanaethau ehangach yn y gymuned.

Wedi'r achlysur yma, adroddodd 92% o'r sawl oedd yn bresennol a oedd yn gyn-filwyr eu bod wedi profi gwelliant yn eu lles. Dywedodd 77% eu bod nhw'n bwriadu cymryd camau dilynol gyda'r GIG neu wasanaethau trydydd-sector.

Mae'r bartneriaeth wedi parhau i adeiladu ar y gwaith yma. Fis Mai 2026, y bartneriaeth yma oedd yr unig bartneriaeth yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr a chanddi Arweinydd Clinigol ar gyfer iechyd cyn-filwyr.  Yn rhan o'i gwaith hefyd mae: hyfforddiant gofal iechyd cyn-filwyr ar gyfer meddygfeydd teulu a charfanau gofal sylfaenol, allgymorth mewn ysbytai a datblygu llyfryn cymorth yn y gymuned ac ynddo 40 sefydliad lleol.

Dywedodd Nigel Locke, Milwr Wrth Gefn yn y Fyddin ac Ysgrifenydd Valley Veterans: "Am flynyddoedd, roedd sawl cyn-filwr yn cwympo drwy'r bylchau o ran cymorth. Doedden ni ddim yn cydnabod bob amser ein bod ni wedi gwasanaethu, ac, yn aml, doedd neb yn gofyn. Canlyniad hyn oedd bod rhai pobl yn colli allan o ran cael y cymorth cywir neu ddim ond yn cael y cymorth pan roedden nhw wedi cyrraedd pwynt argyfyngus.

“Yr hyn sydd wedi bod yn wahanol am y gwaith yma yw ei fod nid yn unig wedi cael ei ddylunio ar ein cyfer ni – ond ei fod wedi'i greu gyda ni. Mae cyn-filwyr, eu teuluoedd, staff y GIG, awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd-sector wedi gweithio gyda'i gilydd i ailfeddwl am yr ymdeimlad mae gofal yn ei roi a'r modd mae'n gweithio.

"O ran annog Meddygfeydd Teulu i holi pobl yn uniongyrchol a ydyn nhw wedi gwasanaethu ai peidio – mae modd meddwl mai peth bach yw hyn, ond mae eisoes yn helpu o ran gofalu bod rhagor o gyn-filwyr yn cael eu nodi a'u bod nhw'n cael y cymorth cywir yn gynharach.

“Mae cyflwyno gwasanaethau'r GIG yn y Ganolfan Valley Veterans wedi helpu hefyd o ran cael gwared ar rwystrau. Mae'n amgylchedd cyfarwydd lle mae cyn-filwyr yn teimlo'u bod nhw'n cael eu deall a lle maen nhw'n fwy tebygol o fod yn agored am y cymorth y mae ei angen arnyn nhw.

“Ymddiriedaeth yw'r newid mwyaf. Mae cyn-filwyr wedi cael llais, gwell mynediad at ofal ac ymdeimlad gwirioneddol eu bod nhw'n perthyn yn y GIG drachefn."

Meddai Paul Bromwell, MBE, Sefydlydd a Phrif Weithredwr Valley Veterans: "Mae ein cydweithrediad gyda Gwasanaethau'r GIG wedi helpu nifer o gyn-filwyr i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd ac mae wedi gwella eu deilliannau o ran iechyd.

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i bawb sy'n gweithio gyda ni ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am eu hymrwymiad parhaus o ran darparu gofal ar gyfer cyn-filwyr"

Dywedodd Dr Lee Thomas, Yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Iechyd Cyn-filwyr, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: "Mae'r cyflawniad yma'n adlewyrchu ymdrech ar y cyd sylweddol; mae cyn-filwyr, gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector wedi dod ynghyd gan rannu'r un ymrwymiad o ran gwella cymorth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.

“Drwy waith partneriaeth cryf, rydyn ni wedi gwella'n dealltwriaeth o anghenion cyn-filwyr, wedi atgyfnerthu mynediad at wasanaethau ac wedi datblygu llwybrau wedi'u cydlynu ar gyfer gofal a chymorth. Yr hyn sy'n dod i'r amlwg o'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni yw gwerth cydweithio a'r effaith gadarnhaol mae modd ei greu pan fydd sefydliadau a chyn-filwyr yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin.

"Mae rhagor i'w wneud bob amser wrth gwrs, ond mae'r cyflawniadau sydd wedi'u gwireddu hyd yn hyn yn rhoi sail gref i ni ar gyfer parhau i ddatblygu; yn sgil hyn bydd modd gofalu bod gwelliannau ar waith o hyd ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd ledled ein cymunedau.

"Fe hoffwn i ddiolch i bob un o'n partneriaid a chyn-filwyr sydd wedi bod yn rhan o bethau am eu hymrwymiad parhaus o ran helpu i greu system sy'n fwy cynhwysol ac yn fwy ymwybodol o gyn-filwyr."

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rydw i wrth fy modd o weld y Bartneriaeth Iechyd, Cyn-filwyr a Lluoedd Arfog yn cael ei chydnabod ar y rhestr fer yng Ngwobr Dewis y Bobl.

"Mae'r gydnabyddiaeth yma'n perthyn i bawb sydd wedi bod yn rhan o bethau; mae'n adlewyrchu'r ymrwymiad maen nhw'n ei rannu o ran gwrando ar gyn-filwyr, deall yr heriau maen nhw o bosibl yn eu hwynebu a'u helpu nhw i gael mynediad at y gofal a'r cymorth cywir.

“Yr hyn sy'n amlwg o'r canlyniadau hyd yn hyn yw'r gwahaniaeth y mae modd i newidiadau ymarferol a chymorth yn y gymuned eu gwneud. Mae nifer y cyn-filwyr sydd wedi'u nodi mewn meddygfeydd Cyfeillgar i Gyn-filwyr wedi cynyddu gan bron i 40%, o 262 i 369. Ar yr un pryd mae presenoldeb gwasanaethau GIG mewn Canolfannau Valley Veterans yn helpu pobl o ran cael mynediad at gymorth mewn amgylchedd cyfarwydd maen nhw'n ymddiried ynddo.

"Mae'r ffaith mai Gwobr Dewis y Bobl yw’r un yma’n gwneud y gydnabyddiaeth yn arbennig o ystyrlon, gan mai enwebiadau yw'r rhain gan gleifion, teuluoedd ac aelodau o'n cymunedau sydd wedi gweld y gwahaniaeth mae ein gwaith yn ei wneud.

“Mae'r Cyngor yn falch o gydweithio â Valley Veterans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a phartneriaid eraill drwy ein hymrwymiadau i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Byddwn ni'n parhau i hyrwyddo cydweithio sy'n helpu cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, a milwyr wrth-gefn a'u teuluoedd i deimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu deall a bod cymorth ar gael iddyn nhw.

"A minnau'n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rydw i am longyfarch pawb sy'n rhan o bethau a dymuno'r gorau oll iddyn nhw yn y seremoni wobrwyo."

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo Flynyddol Seren ddydd Iau, 8 Hydref, yng ngwesty’r Vale Resort.

Mae Gwobr Dewis y Bobl yn rhoi cyfle uniongyrchol i gleifion, teuluoedd ac aelodau'r gymuned gydnabod gofal a chymorth heb ei ail sydd wedi gwneud gwahaniaeth parhaol.

Rhagor o wybodaeth am Wobrau Seren: Gwobrau Blynyddol Seren 2026 – Enwebiadau cyhoeddus yn tynnu sylw ar [sic] ofal rhagorol ac ysbryd cymunedol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Wedi ei bostio ar 08/10/2026