Mae trigolion ledled Pontypridd yn cael eu gwahodd i fwynhau hufen iâ rhad ac am ddim a chael gwybod rhagor am ymgais uchelgeisiol y dref i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf y DU, wrth i fan hufen iâ arbennig Pontypridd28 ymweld â chymunedau drwy gydol mis Hydref.
Bydd fan hufen iâ Pontypridd28 yn galw mewn lleoliadau ledled Pontypridd, gan gynnig hufen iâ rhad ac am ddim wrth annog trigolion i gyfrannu at y cais a rhannu beth mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw. Mae dyddiadau'r daith ar waelod yr erthygl yma.
Mae'r fenter yn rhan o raglen ehangach o ymgysylltu cymunedol, gan sicrhau bod pobl o bob rhan o dref Pontypridd yn cael y cyfle i ddysgu rhagor am y cais a helpu i lunio ei ddyfodol.
Bydd y fan yn ymweld ag ystod o gymdogaethau ddydd Sadwrn yn ystod mis Hydref, gan ddod â sgwrs Pontypridd28 yn uniongyrchol i gymunedau lleol a dal y balchder, y creadigrwydd, y dreftadaeth a'r ysbryd cymunedol sy'n gwneud Pontypridd yn unigryw.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae cais Pontypridd i fod yn Dref Diwylliant y DU yn ymwneud â dathlu'r hyn sy'n gwneud ein tref yn arbennig a sicrhau bod gan bobl leol lais wrth lunio ei dyfodol."
"Rydyn ni eisiau i gynifer o drigolion â phosibl gymryd rhan, dysgu rhagor am y cais a dweud wrthyn ni beth mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw." P'un a yw diwylliant yn golygu cerddoriaeth, chwaraeon, treftadaeth, iaith, bwyd, achlysuron cymunedol neu dreulio amser gyda ffrindiau a theulu, mae pob safbwynt yn bwysig.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn ymuno â'r sgwrs am y cyfle cyffrous yma i dref Pontypridd ac yn manteisio i'r eithaf ar yr hufen iâ!"
Taith fan hufen iâ Pontypridd28:
Dydd Sadwrn, 10 Hydref
- Y Ddraenen Wen / Rhydfelen Isaf - Canolfan Hamdden, Lôn Maes-teg (11am - 12.30pm)
- Rhydfelen Uchaf / Glyn-taf - Canolfan Gymunedol, Clos y Beirdd (12.30pm - 1.15pm)
- Rhydfelen Uchaf / Glyn-taf - Comin Ffordd yr Ysbyty, gyferbyn â'r Ysbyty Bwthyn (1.15pm - 2.00pm)
Dydd Sadwrn, 17 Hydref
- Trefforest - Ffordd y Nant, ger Ysgol Gynradd Parc Lewis (11am - 12.30pm)
- Y Graig - Heol Albert, ger Ysbyty Dewi Sant (12.30pm - 2pm)
Dydd Sadwrn, 24 Hydref
- Cilfynydd - Mynediad i Stryd Ann (11am - 12.30pm)
- Trallwn - Heol Coedpenmaen i Faes y Ffowndri, ger y bont droed dros yr A470 (12.30pm - 2pm)
- Dydd Sadwrn, 31 Hydref
- Cwm Rhondda - Pwll-gwaun - Tu allan i Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Ffordd y Rhondda, gyferbyn â Lidl (11am - 11.30am)
- Cwm Rhondda - Trehopcyn - Heol Plymouth, ger Ysgol Gynradd Trehopcyn (11.30am - 12.00pm)
- Cwm Rhondda - Maes-y-coed - Heol Llanwern, ger Ysgol Gynradd Maes-y-coed (12.00pm - 12.30pm)
- Cwm Rhondda - Pantygraig-wen - Heol y Fedwen, ger Ffordd Graigwen (12.30pm - 1.00pm)
- Glyn-coch - Canolfan Cymuned Glyn-coch, Clos Clydach (1pm - 2pm)
Bydd modd i drigolion siarad â chynrychiolwyr am y cais, cael gwybod sut mae modd iddyn nhw gymryd rhan a chael gwybod sut mae diwylliant eisoes yn ffynnu ledled Pontypridd!
Am ragor o wybodaeth am gais Pontypridd i fod yn Dref Diwylliant y DU ac i ddweud eich dweud, ewch i Hwb Pontypridd28 ym Marchnad Dan Do Pontypridd, Arcêd Penuel, sydd ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn rhwng 10am a 4pm, neu ewch i'r wefan bwrpasol.
#Pontypridd28 #TrefDiwylliantyDU
Wedi ei bostio ar 08/10/2026