Skip to main content

Arhoswch yn Ddiogel a Byddwch yn Garedig dros Galan Gaeaf ac yn ystod Tymor y Tân Gwyllt

Wrth i Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt agosáu, mae Ymgyrch BANG unwaith eto yn dod â Chyngor Rhondda Cynon Taf, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru at ei gilydd i annog trigolion i fwynhau'r dathliadau yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn ystyriol.

COFIWCH godi braw yn gyfrifol ac yn ystyriol y Calan Gaeaf yma.

Er bod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac yn aml yn uchafbwyntiau calendr yr hydref i lawer o deuluoedd, maen nhw hefyd yn gallu peri pryder i rai trigolion, anifeiliaid anwes, a’r rhai sydd wedi profi trawma. Mae ein partneriaid yn atgoffa pawb i fod yn ystyriol i helpu pawb i fwynhau'r tymor yn ddiogel.

Rydyn ni'n annog teuluoedd i:

  • Peidio â chnocio ar ddrysau tai i ofyn 'losin neu lanast' (trick-or-treat) oni bai bod y trigolion yn amlwg yn cymryd rhan yn y dathliadau, er enghraifft mae ganddyn nhw addurniadau Calan Gaeaf.
  • Dewis gwisgoedd gan fanwerthwyr ag enw da, a gwiriwch fod ganddyn nhw'r labeli diogelwch priodol, e.e. CE.
  • Cadw gwisgoedd, addurniadau a phlant i ffwrdd o fflamau agored.
  • Gwirio losin yn ofalus am wybodaeth am alergenau cyn iddyn nhw gael eu bwyta.
  • Ystyried defnyddio canhwyllau sy'n cael eu pweru gan fatris yn lle fflamau go iawn.

Rydyn ni'n annog trigolion i fynd i arddangosfeydd cyhoeddus ar Noson Tân Gwyllt lle bynnag y bo modd. Maen nhw'n fwy diogel ac yn fwy cost-effeithiol ac maen nhw hefyd yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â sioeau tân gwyllt a choelcerthi preifat.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae llawer o bobl yn edrych ymlaen at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, ond mae'n bwysig cofio nad ydyn nhw at ddant pawb.

"Mae'n bwysig meddwl am eraill drwy ddewis gwisgoedd diogel, ystyried anifeiliaid anwes, neu feddwl am yr effaith mae tân gwyllt yn gallu ei chael ar bobl sy'n byw gyda thrawma.

Rydym am i bawb fwynhau'r tymor yn ddiogel a thrin ein gilydd â pharch, er mwyn i'n cymunedau allu dathlu gyda'i gilydd."

Meddai'r Cynghorydd Louisa Addiscott, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf:

"Bob blwyddyn, mae ein carfanau yn cael gwared ar bentyrrau mawr o wastraff sy'n cael eu casglu ar gyfer coelcerthi anghyfreithlon. Mae'r tanau yma'n gallu cynnwys deunyddiau peryglus sy'n rhyddhau mwg gwenwynig ac yn peri risgiau sylweddol i bobl, eiddo a'r amgylchedd.

"Mae cynnau tanau mewn mannau cyhoeddus heb ganiatâd yn anghyfreithlon ac yn hynod beryglus. Rydyn ni'n annog trigolion i feddwl ddwywaith a dewis ffyrdd mwy diogel a chyfrifol o ddathlu."

Yn draddodiadol, mae cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn hynod brysur i'r gwasanaethau brys; y llynedd, derbyniodd Heddlu De Cymru ychydig dros 1,778 o alwadau* ar Galan Gaeaf, sef 31 Hydref, a 1,721 arall ar 5 Tachwedd, sef Noson Tân Gwyllt. O'r galwadau hynny, roedd 840 drwy'r rhif argyfwng 999 ar Galan Gaeaf, a derbyniwyd 663 o alwadau argyfwng ar Noson Tân Gwyllt.

Er bod y galw yn aml yn cyrraedd ei uchafbwynt ar y dyddiadau hynny, mae’r cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl y dyddiadau hynny hefyd yn aml yn hynod brysur, gan roi pwysau ychwanegol ar yr heddlu ac asiantaethau partner.

Dywedodd y Prif Arolygydd ac Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Anthony Williams:

"Wrth i Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt agosáu, rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at fwynhau'r dathliadau, ond gall yr achlysuron hyn beri pryder yn ein cymunedau hefyd. Er mwyn helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn sy'n gysylltiedig â thân gwyllt, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân ac achub, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a'n partneriaid ehangach.

"Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol, llosgi bwriadol a gweithgareddau troseddol eraill arwain at ganlyniadau difrifol, gan gynnwys arestio troseddwyr, eu dirwyo a’u carcharu. Rydym yn annog pawb i fod yn ddiogel ac yn barchus yn ystod y dathliadau fel y gall cymunedau fwynhau'r achlysuron hyn mewn ffordd gadarnhaol a chyfrifol.

"Gofynnwn i bobl chwarae eu rhan i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel, gan gofio nad yw pawb eisiau cymryd rhan yn y dathlu.

"Rydym yn disgwyl cyfnod prysur i'r holl wasanaethau brys a byddwn yn cynnal mwy o batrolau mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem. Rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt a chysylltu â ni os bydd angen cymorth arnynt.

"Mae cadw ein cymunedau, ein cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a'n swyddogion yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn cael ein cefnogi gan adnoddau arbenigol a phartneriaid drwy gydol cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

"Yn olaf, gofynnwn i rieni a gwarcheidwaid gael sgwrs agored â phobl ifanc am eu cynlluniau, gyda phwy maen nhw’n bwriadu mynd allan a ble byddan nhw. Os oes modd, dylech chi fynd ar daith losin neu lanast neu i achlysuron tân gwyllt wedi'u trefnu gyda nhw, er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn dathlu yn ddiogel ac yn barchus."

Bydd Wardeiniaid Cymunedol y Cyngor hefyd yn patrolio'n fwy aml ledled Rhondda Cynon Taf i gynnig cymorth i drigolion a sicrhau eu bod nhw'n ddiogel.

Mae pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch y cyhoedd yn fater i'r heddlu.

Os ydych chi'n gweld pobl yn ymddwyn mewn ffordd amheus, dylech chi roi gwybod amdano ar unwaith i helpu i ddiogelu eich cymuned:

Wedi ei bostio ar 26/10/2026