Skip to main content

Pan drodd Daniel yn 18 oed, roedd Cysylltu Bywydau yn golygu doedd dim rhaid iddo ddechrau o'r newydd

International Day of Care and Support x Shared Lives (465 x 310 px)

Mae'r dyn ifanc wedi gallu aros gyda'r teulu a ofalodd amdano drwy gydol ei blentyndod, diolch i gefnogaeth Cysylltu Bywydau De Ddwyrain Cymru.

Mae ei stori yn cael ei rhannu ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth, er mwyn tynnu sylw at y ffordd y mae 'Cysylltu Bywydau' yn helpu oedolion i gael cymorth wedi'i deilwra iddyn nhw mewn amgylchedd teuluol, wrth ddatblygu eu hannibyniaeth, cynnal perthnasoedd pwysig, a chadw cysylltiad â'u cymunedau. Mae stori Daniel (llun ar y dde) a Kyle (llun ar y chwith) yn dangos y gwahaniaeth mae'r cymorth yma'n gallu gwneud a herio rhagdybiaethau ynghylch pwy sy’n gallu dod yn ofalwr.

Yn 21 oed, mae Kyle yn astudio yn y brifysgol, yn meddwl am ei yrfa yn y dyfodol ac yn cynorthwyo pobl drwy Cysylltu Bywydau.  Mae'n debyg ei fod yn wahanol iawn i'r math o berson mae pobl yn meddwl amdano pan maen nhw'n meddwl am gynhaliwr.

Daeth Daniel, sy'n 20 oed, i fyw gyda theulu Kyle trwy'r rhaglen faethu pan oedd yn bump oed. Dros y blynyddoedd, daeth yn rhan o'r teulu, gan fyw gyda Kyle, ei rieni Jane a Dave, a pherson ifanc arall a gafodd ei gynorthwyo drwy faethu.

Wrth i Daniel agosáu at fod yn oedolyn, roedd ansicrwydd ynglŷn â beth fyddai'n digwydd nesaf.  "Doeddwn i ddim eisiau newid gofalwyr," meddai Daniel. "Roeddwn i'n hoffi sut roedd pethau a doeddwn i ddim eisiau i unrhyw beth newid."

Yn ffodus, roedd opsiwn arall.  Drwy gynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru, daeth Jane a Dave yn ofalwyr Cysylltu Bywydau, gan ganiatáu i Daniel barhau i fyw gyda'r teulu roedd eisoes yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.  

Parhau gyda pherthnasoedd pwysig

I Kyle, roedd cymryd rhan yn Cysylltu Bywydau yn teimlo fel cam naturiol.  Ar ôl cael ei fagu mewn cartref maethu, roedd wedi gweld drosto'i hun y gwahaniaeth y gall cymorth teuluol ei wneud.

"Daeth fy mhenderfyniad i ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau o drafodaethau o fewn fy nheulu am y dyfodol, yn enwedig wrth feddwl ymlaen llaw am sut byddai Daniel yn cael ei gynorthwyo pe bai rhywbeth yn digwydd i'm rhieni," meddai. "Roeddwn i eisiau ennill yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'w gynorthwyo a gwneud yn siŵr ei fod yn parhau i gael y cyfleoedd a'r cymorth sydd eu hangen arno."

Roedd cael ei fagu mewn cartref maethu wedi dangos i Kyle y gwahaniaeth y gall y cymorth cywir ei wneud.   Roedd gweld pobl ifanc yn ffynnu wedi’i ysbrydoli e i gymryd mwy o ran ei hun.

"Wrth gael fy magu yn gweld y gwahaniaeth y gall maethu ei wneud i fywydau pobl ifanc, mae'n wych fy mod i bellach yn gallu cynorthwyo oedolion drwy Cysylltu Bywydau," meddai.

"Roeddwn i eisiau ennill profiad ymarferol ac adeiladu dealltwriaeth ddyfnach o sut i gynorthwyo pobl mewn ffordd sy'n hyrwyddo annibyniaeth, lles ac ansawdd bywyd."

Mae Kyle yn cynorthwyo Daniel drwy Cysylltu Bywydau wrth astudio yn y brifysgol.   Mae'r pâr yn rhannu llawer o'r un diddordebau, gan gynnwys pêl-droed, teithio a threulio amser gyda'i gilydd.   "Rydyn ni’n mynd ar wyliau gyda'n gilydd ac mae e wedi fy helpu gyda llawer o bethau," meddai Daniel.

Un o'u hoff weithgareddau ar y cyd nhw yw cefnogi West Ham United, ac maen nhw'n teithio i Lundain gyda'i gilydd yn rheolaidd i wylio’r gemau.   "Rydw i'n mwynhau mynd i gemau pêl-droed yn Llundain gyda Dave a Kyle," meddai.   Maen nhw hefyd wedi teithio ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys teithiau i Baris a Dulyn.   Wrth gynllunio teithiau, mae Kyle yn gwneud yn siŵr bod Daniel yn rhan o bob penderfyniad, o ddewis atyniadau i ddod o hyd i lety addas.

"Fe wnaethon ni drafod popeth gyda'n gilydd fel ei fod yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai Kyle.   "Fe wnaeth hyn helpu magu hyder a gwneud yn siŵr ei fod yn brofiad ystyrlon iddo fe."

Hyder ac annibyniaeth

Mae Daniel bellach yn mynd i'r coleg dri diwrnod yr wythnos ac yn parhau i adeiladu ei annibyniaeth gyda chymorth y rhai sydd o'i gwmpas.   "Mae fy ngofalwyr yn fy nghynorthwyo i fod yn annibynnol ac i gadw'n ddiogel," meddai.   "Maen nhw'n gwrando arna i ac yn caniatáu i mi fod yn fy hun. Maen nhw'n fy helpu i ddysgu sut i edrych ar ôl fy hun ac yn rhoi hyder i mi."

Mae Daniel yn dweud bod Cysylltu Bywydau wedi ei helpu e i deimlo'n fwy hyderus a sicr am y dyfodol.   "Rydw i'n teimlo'n hapus ac wedi setlo.  Dydw i ddim yn poeni mwyach y bydda i’n cael fy symud i rywle newydd."

I Kyle, un o'r rhannau mwyaf gwerth chweil o fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yw gweld pobl yn magu hyder ac annibyniaeth.   "Yr hyn rydw i'n ei garu fwyaf yw cynorthwyo pobl i ddatblygu annibyniaeth, cyflawni eu nodau a phrofi pethau na fydden nhw, fel arall, yn cael y cyfle i’w gwneud."

Ochr yn ochr â chynorthwyo Daniel, mae Kyle hefyd yn darparu cymorth i bobl eraill drwy Cysylltu Bywydau.   Yn syndod, mae'n dweud bod yr agwedd hon ar y rôl wedi cael yr effaith fwyaf arno.   "Roedd y cymorth sesiynol yn fy synnu fwyaf," meddai.   "Doeddwn i erioed wedi disgwyl cael y lefel o foddhad swydd rydw i'n ei gael.   Rydw i wir yn teimlo fy mod i'n mynd allan gyda ffrindiau ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a allai, fel arall, fod yn unig." 

Mae Kyle yn credu bod Cysylltu Bywydau wedi ei helpu e i dyfu’n bersonol gymaint ag yn broffesiynol.   "Mae'r bobl rydw i'n rhoi cymorth iddyn nhw yn dod â llawer iawn o lawenydd, chwerthin a phersbectif," meddai.   "Nid yw'n ymwneud â darparu gofal yn unig.   Mae'n ymwneud â rhannu profiadau, grymuso ein gilydd a magu perthnasoedd ystyrlon lle rydyn ni'n dysgu ac yn tyfu."

Edrych ymlaen

Mae Daniel yn gobeithio aros yn y coleg, parhau i ddatblygu ei annibyniaeth ac, yn y pen draw, gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol.   Yn bwysicaf oll, mae eisiau parhau i fyw gyda'r bobl sydd wedi ei gynorthwyo drwy gydol ei oes.

Mae Kyle yn gobeithio y bydd ei stori yn annog rhagor o bobl i herio rhagdybiaethau ynghylch pwy sy’n gallu dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau.   Mae llawer o bobl yn meddwl bod gofalwyr yn hŷn neu fod angen blynyddoedd o brofiad proffesiynol arnyn nhw cyn gallan nhw helpu.  Mae profiad Kyle yn awgrymu fel arall.

"Mae Cysylltu Bywydau yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a chymorth parhaus ardderchog," meddai.   "Rydw i'n teimlo fy mod i’n cael cymorth yn fy rôl ac yn hyderus y galla i ofyn cwestiynau pryd bynnag y bydd angen."

Pan gafodd e ofyn i grynhoi beth mae Cysylltu Bywydau yn ei olygu iddo, mae ateb Daniel yn syml,  "Mae wedi rhoi teulu i mi y galla i fyw gyda nhw.   Doeddwn i ddim eisiau newid gofalwyr ac mae hyn wedi golygu y galla i aros am byth."

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Mae’n wych gweld y gwahaniaeth y mae Cysylltu Bywydau wedi’i wneud i Daniel, gan ei alluogi i aros gyda’r teulu y mae’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo, wrth barhau i feithrin ei hyder a’i annibyniaeth.

"Mae’r stori yma'n ffordd briodol o nodi Diwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth, ac rydw i'n gobeithio ei bod wedi ysbrydoli rhagor o bobl i ystyried y gwahaniaeth maen nhw'n gallu ei wneud trwy ddod yn ofalwr ‘Cysylltu Bywydau’."

 **Allech chi fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?** 

Mae'r Cynllun Cysylltu Bywydau yn wasanaeth unigryw, arobryn yn y gymuned sy'n cynnig cymorth i oedolion i’w galluogi i fyw’n annibynnol mewn amgylchedd teuluol.  Mae'r cynllun yn dod ag unigolion a gofalwyr Cysylltu Bywydau at ei gilydd. Mae’r gofalwyr yma'n darparu cymorth wedi'i deilwra ar gyfer yr unigolyn yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Thorfaen a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Ar gyfer ymholiadau yn Rhondda Cynon Taf, ffoniwch ganolfan gyswllt y Cyngor ar 01443 425 003.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Rhannu Bywydau:

Wedi ei bostio ar 29/10/2026