Mae buddsoddiad ychwanegol gwerth £12.13 miliwn yn cael ei gynnig ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor yn 2026/27. Bydd y Cabinet yn trafod y rhain yr wythnos nesaf. Os bydd cytundeb, bydd yr arian yn cael ei ddyrannu ar draws meysydd gan gynnwys priffyrdd, lliniaru llifogydd, padiau sblasio, parciau a mannau gwyrdd, mannau chwarae a biniau Gofal y Strydoedd. Byddai hefyd yn helpu i ddatblygu prosiectau trafnidiaeth mawr yn Llanharan a Chwm Cynon.
Mae adroddiad i Aelodau'r Cabinet cyn eu cyfarfod ddydd Llun, 21 Medi, yn rhoi manylion am y buddsoddiad arfaethedig, a fyddai'n ychwanegol at y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol yma (2026/27) sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod llawn o'r Cyngor yn ddiweddarach ym mis Medi 2026.
Mae buddsoddiadau untro tebyg o'r math yma wedi'u cyflwyno'n flynyddol ers 2015, er mwyn darparu buddsoddiad ychwanegol gwerth tua £235 miliwn yn ychwanegol at y dyraniadau arferol o’r rhaglen gyfalaf. Byddai’r cyllid ychwanegol gwerth £12.13 miliwn eleni yn cael ei ddyrannu o gronfeydd wrth gefn untro cymeradwy, sydd eisoes wedi’u clustnodi i gynnal a gwella seilwaith ledled y Fwrdeistref Sirol. Y meysydd a fydd yn cael blaenoriaeth yn 2026/27 yw:
- Priffyrdd a Ffyrdd – £3.5 miliwn
- Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan - £3 miliwn
- Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon – £3 miliwn
- Gwaith Lliniaru Llifogydd - £250,000
- Ffyrdd heb eu Mabwysiadu – £150,000
- Padiau Sblasio – £800,000
- Parciau a Mannau Gwyrdd - £500,000
- Parciau Gwledig – £150,000
- Mannau Chwarae – £100,000
- Gwelliannau Gofal y Strydoedd (biniau) – £25,000
- Cymorth ynni, trydydd sector – £60,000
- Datblygiadau sydd yn yr arfaeth o ran y Rhaglen Gyfalaf – £600,000
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf,: “Yn fuan, bydd y Cabinet yn trafod y cynigion pwysig yma i ddyrannu £12.13 miliwn ychwanegol ar draws meysydd blaenoriaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol – gan adeiladu ar y Rhaglen Gyfalaf sylweddol ar gyfer 2026/27 sydd wedi’i chyflwyno ers mis Ebrill. Adnodd ychwanegol, untro yw hwn, a fydd yn ehangu ein rhaglen waith mewn meysydd penodol ac yn ein galluogi i fuddsoddi o'r newydd mewn meysydd eraill.
“Rydyn ni eisoes wedi dyrannu £6.6 miliwn i gynnal a chadw ein ffyrdd eleni, gan wneud cynnydd rhagorol dros yr haf eleni wrth gwblhau 70 o gynlluniau gosod wyneb newydd hyd yn hyn. Byddai'r buddsoddiad newydd gwerth £3.5 miliwn yn ein galluogi i ehangu'r rhaglen hyd at fis Mawrth 2027. Byddai'r dyraniad ar wahân gwerth £150,000 ar gyfer ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yn ein galluogi ni i ddatblygu rhagor o gynlluniau, gan ychwanegu at y 35 a gafodd eu cwblhau rhwng 2021/22 a 2025/26. Yn yr un modd, rydyn ni wedi bwrw ymlaen â gwaith lliniaru llifogydd drwy gydol y flwyddyn, ar ôl sicrhau dros £4 miliwn o ddwy raglen gan Lywodraeth Cymru – ac rydyn ni'n darparu cyllid cyfatebol ar eu cyfer. Rydyn ni'n cynnig £250,000 ychwanegol i gefnogi ein gwaith yn y maes allweddol yma.
“Mae'r Cyngor hefyd yn bwrw ymlaen â dau brosiect trafnidiaeth mawr, i ddarparu atebion cynaliadwy sydd wedi'u targedu i liniaru pwysau traffig mewn mannau penodol. Cyflwynwyd cais cynllunio yn gynharach eleni ar gyfer Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan, ac mae proses gaffael ar y gweill i benodi contractwr ar gyfer Porth Gogledd Cwm Cynon y flwyddyn nesaf. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni'r ddau brosiect er budd cymunedau, a bydd y dyraniadau arfaethedig gwerth £3 miliwn ar gyfer pob un ohonyn nhw yn cefnogi’r gwaith dylunio a datblygu ymhellach.
“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyhoeddi manylion cynigion i ddarparu dau bad sblasio newydd – un ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd (yn amodol ar gymeradwyaeth Is-bwyllgor Parc Coffa Ynysangharad), a’r llall ym Mharc Gelligaled, Ystrad. Rydyn ni'n hyderus y bydd y rhain yn boblogaidd iawn gyda thrigolion. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion am y rhain maes o law. Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw ein parciau, ein parciau gwledig a’n mannau gwyrdd lleol i drigolion. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn dyraniad arfaethedig gwerth £650,000 ar gyfer y mannau yma – ynghyd â £100,000 ychwanegol ar gyfer ein buddsoddiad parhaus mewn mannau chwarae lleol, a £25,000 tuag at finiau ychwanegol ar gyfer sbwriel a baw cŵn yn ein cymunedau.
"Cyflwynwyd y cynigion cyffredinol yma o ganlyniad i reolaeth ariannol ddarbodus – gan nodi cyllid untro pwysig ar gyfer blaenoriaethau mewn cyfnod sy'n parhau i fod yn anodd yn ariannol i lywodraeth leol. Mae adroddiad ar wahân i gyfarfod y Cabinet ddydd Llun yn amlinellu ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac, oherwydd heriau parhaus, mae'n debygol y bydd pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu bwlch yn y gyllideb unwaith eto wrth bennu eu cyllideb ar gyfer 2027/28 fis Mawrth nesaf. Bydd maint y bwlch yn dod yn gliriach yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref a setliad Llywodraeth Cymru sydd i ddod ym mis Tachwedd. Fel bob amser, bydd trigolion yn gallu dweud eu dweud ar benderfyniadau allweddol yn ein hymgynghoriadau blynyddol ar y gyllideb. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo gan y Cyngor yn nes at yr amser.”
Bwriad ein buddsoddiad ledled y Fwrdeistref Sirol yw #TrawsnewidRhCT – rhagor o wybodaeth yma.
Wedi ei bostio ar 18/09/2026