Mae dyn sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a ddechreuodd ei daith i gyflogaeth trwy leoliad â chymorth yn Vision Products bellach wedi cael swydd barhaol ac mae'n helpu eraill i gymryd eu camau cyntaf i mewn i waith.
Ymunodd Jake Llewellyn â rhaglen Gwaith a Sgiliau'r Cyngor ym mis Medi 2024, lle cafodd gymorth mentora un i un wedi'i deilwra i'w anghenion. Gyda chymorth y Mentor Cyflogaeth, Rachel Wilkins, cafodd Jake yr anogaeth a'r arweiniad i archwilio ei gryfderau a pharatoi ar gyfer y byd gwaith. Ar y pryd, roedd Jake yn ymdopi â dyslecsia ac yn aros am asesiad awtistiaeth, ac fe wnaeth y cymorth wedi'i deilwra ei helpu i feithrin hyder wrth barhau i ddilyn ei uchelgeisiau.
Yn rhan o'i ddatblygiad, cwblhaodd Jake gwrs Manwerthu, yn ogystal â hyfforddiant Sgiliau Bywyd a Sgiliau Cyfweld. Gyda chymorth parhaus, dechreuodd ddatblygu'r hyder a'r gwydnwch oedd eu hangen i gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth.
Yn y cyfamser, roedd y garfan Gwaith a Sgiliau yn cynnal cynllun peilot o leoliadau â thâl am gyfnod o chwe mis mewn amrywiaeth o rolau yn y Cyngor. Gan gydnabod potensial Jake, cyflwynodd ei fentor ef i gyfle yn yr Adran Adnewyddu yn Vision Products, lle mae offer cymunedol sydd wedi'u dychwelwyd – fel baglau, fframiau cerdded, cadeiriau gorwedd, gwelyau a theclynnau codi – yn cael eu glanhau, eu hadnewyddu a'u paratoi i'w hailddefnyddio yn y gymuned.
Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, cafodd Jake y lleoliad a daeth yn aelod gwerthfawr o'r garfan yn gyflym. Roedd ei ymrwymiad yn glir o'r cychwyn cyntaf, wrth iddo deithio'n annibynnol bob dydd ar fws ac ar droed i wneud i'r cyfle weithio. Gyda chymorth gan Hyfforddwr Swyddi a Mentor Cymorth yn y Gwaith y garfan Gwaith a Sgiliau, dysgodd Jake sgiliau newydd, tyfodd mewn hyder a meithrin dealltwriaeth gref o'i rôl a'i gyfrifoldebau.
Ar ôl i'w leoliad cychwynnol ddod i ben, talodd gwaith caled Jake ar ei ganfed pan lwyddodd i gael swydd dan hyfforddiant â thâl am gyfnod o 12 mis gyda Vision Products. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth ddatblygu ei sgiliau, gan weithio gydag ystod ehangach o offer gan gynnwys eitemau mwy cymhleth fel cadeiriau gorwedd a gwelyau.
Ers hynny mae Jake wedi cael swydd barhaol yn yr Adran Adnewyddu ac wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol fel Hyfforddwr Swyddi, gan gefnogi dau aelod o staff a helpu'r garfan nesaf o hyfforddeion i ennill hyder a sgiliau yn y gweithle.
Wrth siarad am ei daith, dywedodd Jake Llewellyn: “Rydw i mor falch bod gen i rôl barhaol gyda Vision Products. Rydw i’n gobeithio dechrau astudio TGAU Saesneg ar-lein. Mae fy rôl fel Hyfforddwr Swyddi yn fy helpu i feithrin fy sgiliau. Mae gen i lygad ar rôl y goruchwyliwr!”
Mae Cwmni Vision Products yn fusnes cyflogaeth gefnogol sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n darparu cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i drigolion a chwsmeriaid – gan gynnwys cymhorthion byw bob dydd, cynhyrchion symudedd, gwasanaethau offer yn y gymuned, technoleg gynorthwyol, a ffenestri a drysau PVCu o ansawdd uchel.
Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, mae Vision Products yn cefnogi oedolion anabl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, ennill sgiliau a chymwysterau, a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd trwy gymorth ac addasiadau wedi'u teilwra yn y gweithle.
Yn ogystal, drwy’r Rhaglen Gwaith a Sgiliau, caiff trigolion eu cefnogi i feithrin hyder, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael mynediad at gyfleoedd ystyrlon. Gyda'i gilydd, mae'r rhaglen a Vision Products yn helpu i greu llwybrau cynhwysol i gyflogaeth, wrth hefyd gefnogi gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth ymarferol i bobl ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae taith Jake yn enghraifft bwerus o sut y gall cyflogaeth gynhwysol, cymorth wedi'i deilwra a chyfleoedd ystyrlon helpu pobl i feithrin hyder, datblygu sgiliau a chyrraedd eu potensial. Mae hefyd yn adlewyrchu amcanion ehangach ymgyrch Trawsnewid RhCT y Cyngor drwy ddangos sut mae gwasanaethau'r Cyngor yn gwella cyfleoedd bob dydd, yn cefnogi annibyniaeth ac yn helpu cymunedau i ffynnu.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae stori Jake yn enghraifft wych o’r hyn mae modd ei gyflawni pan mae'r cymorth a’r cyfleoedd cywir yn cael eu rhoi i bobl i lwyddo.
“Drwy’r rhaglen Gwaith a Sgiliau a’r cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Vision Products, mae Jake nid yn unig wedi llwyddo i gael cyflogaeth barhaol ond mae bellach yn helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder hefyd.
“Mae taith Jake hefyd yn ein hatgoffa o’r dalent, yr uchelgais a’r cyfraniad y mae pobl anabl yn eu dwyn i’n gweithleoedd a’n cymunedau, a phwysigrwydd creu amgylcheddau cynhwysol lle caiff pawb eu cefnogi i ffynnu.
“Dyma’n union beth mae Trawsnewid RhCT yn ceisio'i wneud – gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, cefnogi annibyniaeth a chreu cyfleoedd sy’n helpu trigolion a chymunedau i ffynnu.”
Mae ymgyrch Trawsnewid RhCT yn canolbwyntio ar y bobl, y lleoedd a'r gwasanaethau sy'n helpu trigolion i fyw, dysgu, gweithio a ffynnu nawr ac yn y dyfodol. Rhagor o wybodaeth: Trawsnewid RhCT - Buddsoddi yn heddiw a'r dyfodol
I gael rhagor o wybodaeth am Vision Products a'i gynllun swyddi dan hyfforddiant, cysylltwch â:
Vision Products
Uned 2 Parc Glas, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9GP
Rhif ffôn: 01443 229 988
E-bost: visionproductsbusnes@rctcbc.gov.uk
Gwefan: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/Home.aspx
Wedi ei bostio ar 16/09/2026