Skip to main content

Pobl Ifainc yn Meithrin Hyder a Sgiliau Cyflogaeth

Group Photo kings trustr

Llongyfarchiadau i'r wyth person ifanc a ragorodd ar fenter sgiliau cyflogadwyedd yn ddiweddar.

Daeth Carfan Gwaith a Sgiliau Cyngor Rhondda Cynon Taf ynghyd â Hwb Ieuenctid Canolfan Byd Gwaith yn y Porth ac elusen y King's Trust i helpu grŵp o bobl ifainc i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo wrth chwilio am waith.

Cafodd y bobl ifainc, a oedd eisoes yn cael eu cefnogi gan y Garfan Gwaith a Sgiliau, eu henwebu ar gyfer y cwrs i'w helpu i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth roedden nhw yn eu hwynebu, megis diffyg hyder, unigedd ac ansicrwydd ynghylch eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dros gyfnod pum wythnos y cwrs, newidiodd y cyfranogwyr o fod yn dawel ac yn swil ar y dechrau i groesawu'r cyfle, gan gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, rhannu eu barn a'u huchelgeisiau, a llwyddo mewn cyfweliadau ffug a gynlluniwyd i'w paratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Rhoddodd y cwrs gyfle hefyd i'r bobl ifainc wneud cyfeillgarwch newydd – sy'n parhau hyd heddiw – ac elwa ar gefnogaeth gadarnhaol gan gyfoedion.

Mwynhaodd pob un ohonyn nhw ymweliad â'r King's Trust yng Nghaerdydd, lle dysgon nhw fwy am yr ystod o gymorth sydd ar gael iddyn nhw gan yr elusen. Mae'r elusen yn gweithio i gefnogi pobl ifainc i ddod o hyd i waith, a hyd yn oed i sefydlu eu busnesau a'u gyrfaoedd eu hunain. Mae'r actor Idris Elba a'r cynhyrchydd cerddoriaeth Naughty Boy ymhlith y rhai y cafodd eu gyrfaoedd eu lansio yn dilyn cefnogaeth gan y King's Trust.

Rhoddodd yr ymweliad gyfle iddyn nhw gwrdd â'r staff, gweld pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw, a hefyd ymgyfarwyddo â theithio'n annibynnol i leoliadau ac oddi yno. Mae chwech o'r wyth cyfranogwr wedi cofrestru i gael rhagor o gymorth – rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at glywed sut maen nhw'n dod ymlaen.

Cafodd cyfranogwr arall, Cameron, swydd dim ond wythnosau ar ôl cwblhau'r cwrs, a dywedodd fod yr hwb i'w hyder a gafodd yno wedi'i helpu i sicrhau ei swydd newydd.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Am gyfle anhygoel a hwb i hyder y bobl ifainc rydyn ni'n eu cefnogi i chwilio am waith.

Mae'r King's Trust wedi helpu i lansio gyrfaoedd llawer o bobl ifainc, ac rydw i mor falch bod cymaint o aelodau’r grŵp wedi cofrestru ar gyfer cymorth ychwanegol. Rydw i'n dymuno'r gorau i bob un ohonyn nhw ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed sut maen nhw'n dod ymlaen.

Mae ein Carfan Gwaith a Sgiliau yma i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ac sydd angen cymorth i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn gallu cynnwys sgiliau ymarferol fel technegau cyfweld a gweithdai CV, hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol i'w hychwanegu at eu CV neu i'w helpu i gael eu swydd ddelfrydol, neu ddatblygu sgiliau tra'u bod nhw mewn swydd. Mae'n rhad ac am ddim, mae'n hawdd ei gyrchu ac mae cynnig eang iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan y King's Trust yng Nghaerdydd:

Fe wnaethon ni fwynhau cael grŵp o bobl ifainc yn ymuno â ni yng nghanolfan yr ymddiriedolaeth yng Nghaerdydd. Gwelon ni fod hyn yn ffordd lwyddiannus i recriwtio pobl ifanc i'n rhaglenni, gyda nifer yn cofrestru ar gyfer ein rhaglen Explore. Roedd hefyd yn fuddiol wrth gael gwared ar y rhwystr cychwynnol o deithio i'n canolfan am y tro cyntaf."

Canmolodd Kathy, Hyfforddwr Gwaith Ieuenctid yng Nghanolfan Byd Gwaith y Porth, y cydweithio, gan ddweud:

Mae Carfan Gwaith a Sgiliau RhCT wedi bod yn anhygoel, ac maen nhw wedi cael canlyniadau gwych. Rydyn ni wedi cael diweddariadau rheolaidd drwy gydol y rhaglen, ac mae wedi bod yn wych gweld y gwahaniaeth y mae'r cwrs yma wedi'i wneud i'n cwsmeriaid. Mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth."

Mae'r fenter yn dangos yr effaith gadarnhaol mae modd i gymorth wedi'i dargedu a gwaith partneriaeth cryf ei chael wrth helpu pobl ifainc i oresgyn rhwystrau, gwella eu lles a symud yn nes at gyfleoedd mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Drwy gydweithio, mae pobl ifainc wedi cael eu harfogi â'r sgiliau, yr hyder a'r rhwydweithiau cymorth sydd eu hangen i wireddu eu potensial a chyflawni eu huchelgeisiau.

Os ydych chi'n cefnogi rhywun sy'n byw yn RhCT sy'n 16 oed neu'n hŷn a fydd efallai'n elwa ar gymorth gan y gwasanaeth 'Gwaith a Sgiliau', cysylltwch â gwaithasgiliau@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 18/09/2026