Mae ein Carfan Argyfwng ar Ddyletswydd yn cynnig cymorth mewn argyfwng i oedolion bregus, plant mewn angen a'u teuluoedd. Mae argyfwng yn golygu rhywbeth nad oes modd ei adael yn ddiogel tan y diwrnod gwaith nesaf.
Ffoniwch ni ar 01443 743665 / 01443 657225
Mae'r gwasanaeth ar gael pan fydd swyddfeydd oriau dydd lleol yn cau. Maen nhw ar gael:
- rhwng 5pm a 8.30am ar ddydd Llun i ddydd Iau
- ar benwythnosau o 4.30pm ar ddydd Gwener i 8.30am ar y dydd Llun canlynol
- yn ystod gwyliau cyhoeddus (24 awr)
Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill yn aml; asiantaethau iechyd, yr heddlu ac ati, i ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau.