Skip to main content

Gostyngiad Treth y Cyngor

Os ydych chi'n agored i dalu Treth y Cyngor lle rydych chi'n byw, a'ch bod chi ar incwm isel, mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor i gyfrannu at dalu'ch Treth y Cyngor yn llawn neu'n rhannol. Bydd maint y gostyngiad yn eich Treth y Cyngor yn dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau.

Gallwch chi gyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor p'un a ydych chi'n gweithio neu'n ddi-waith. Serch hynny, os ydych chi'n ennill dros £16,000 efallai fyddech chi ddim yn gymwys am ostyngiad.

Sut rydw i'n gwneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor?

Cyflwyno cais ar-lein ar gyfer eich Gostyngiad Treth y Cyngor
  • I gael ffurflen gais bapur, ffoniwch: 01443 425002
  • Trefnu apwyntiad yn eich Canolfan iBobUn leol lle bydd modd i chi gael help i lenwi'ch ffurflen gais. 

Help i lenwi'ch ffurflen gais ar gyfer Budd-daliadau Tai/Gostyngiad Treth y Cyngor.

Os ydych chi'n berson hŷn neu'n anabl ac wedi derbyn ffurflen gais, ond bod angen cymorth arnoch chi i'w llenwi, mae'n bosibl y gallwn ni ymweld â chi. Cysylltwch â ni i ofyn am ymweliad.

Ar ôl i chi wneud cais, byddwn ni'n cysylltu â chi dros y ffôn neu'n ysgrifenedig os bydd angen rhagor o wybodaeth arnon ni. Os byddwch chi'n nodi'ch rhif ffôn presennol ar eich cais, bydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i ni gysylltu â chi.

Os hoffech chi gyflwyno cais am fath arall o Fudd-dal, neu weld beth arall y gallwch chi ei hawlio, ewch i www.gov.uk/cynghorydd-budd-daliadau.

Os bydd newid o ran fy amgylchiadau, beth fydd yn digwydd?

Os bydd unrhyw newid o ran eich amgylchiadau (neu amgylchiadau'r bobl sy'n byw gyda chi), peidiwch ag aros i ni gysylltu â chi. Rhowch wybod i ni am y newid. Os byddwch chi'n oedi, mae'n bosibl na fyddwch chi'n derbyn cymaint o fudd-dal ag y gallai fod hawl gennych chi i'w gael, neu'ch bod chi'n derbyn gormod o fudd-dal.

Os nad ydych chi'n siŵr am ba newidiadau y mae rhaid i ni gael gwybod, edrychwch ar gefn eich llythyr diweddaraf neu gysylltu â ni (mae'r manylion cyswllt i'w gweld isod).

Os yw eich amgylchiadau wedi newid neu os ydych wedi symud i gyfeiriad newydd rhaid i chi ein hysbysu trwy lenwi un o'r ffurflenni isod:

  • rhoi gwybod am newid yn yr amgylchiadau
  • rhoi gwybod am gyfeiriad newydd

Gall y ffurflenni yma gael eu hanfon drwy e-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu eu postio i ni yn y cyfeiriad isod.

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd, i wirio nad oes newid i'ch amgylchiadau. Os byddwn ni'n gwneud hyn, byddwn ni naill ai'n ymweld â chi, yn anfon ffurflen drwy'r post i chi ei llenwi neu roi galwad ffôn i chi.

Fydd hi'n bosibl ôl-ddyddio fy nghais am Ostyngiad Treth y Cyngor?

Os ydych chi o'r farn y dylai'ch Gostyngiad Treth y Cyngor fod wedi dechrau ar ddyddiad cynharach, ysgrifennwch aton ni a gofyn i ni ôl-ddyddio'ch hawliad. Ond, fel arfer, fydd ceisiadau ddim yn cael eu hôl-ddyddio cyn y diwrnod y bydd eich cais yn cael ei gyflwyno, oni bai eich bod chi'n gallu dangos rheswm da dros beidio â gwneud cais ar yr adeg briodol. I gefnogi'ch cais ôl-ddyddio, cyflwynwch dystiolaeth, fel papur meddyg ac ati yn gofyn i ni ôl-ddyddio'ch hawliad.

Rydyn ni'n gallu ôl-ddyddio Gostyngiad Treth y Cyngor hyd at chwe mis yn unig.

Os byddwn ni'n penderfynu nad ydych chi wedi rhoi rheswm da ac nad ydyn ni'n gallu ôl-ddyddio'ch cais, bydd y rhesymau dros hyn yn cael eu hesbonio yn ein llythyr. Bydd hawl gennych chi i apelio yn erbyn ein penderfyniad.

Ysgrifennwch at:                                                                                                                                      
Adran Budd-daliadau

Tŷ Oldway
Stryd Y Porth
Y Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST

E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk  
Ffôn: 01443 425002