Skip to main content

Seremonïau dinasyddiaeth

Yn unol â Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae gofyn bod ymgeiswyr dros 18 oed sy'n cyflwyno cais am Ddinasyddiaeth Brydeinig, ac sy'n cael eu derbyn ar gyfer dinasyddiad neu eu cofrestru yn Ddinasyddion Prydeinig, yn mynychu Seremoni Ddinasyddiaeth.

Sut mae gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig?

Mae newidiadau pwysig wedi digwydd i'r ffordd mae Dinasyddiaeth Brydeinig yn cael ei rhoi i bobl sy'n gwneud cais am Ddinasyddiad neu Gofrestru.

Mae disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus sy'n 18 oed neu'n hŷn fynychu Seremoni Ddinasyddiaeth. Mae'r Seremonïau'n cael eu cynnal yng nghymuned leol yr ymgeisydd.

Os hoffech chi wneud cais am Ddinasyddiaeth Brydeinig, cysylltwch â:

Grŵp Cenedligrwydd Y Swyddfa Gartref

P.O. Box 306
Liverpool
L2 7XS

Mae cyfleuster derbyn India Buildings bellach wedi cau. Rhaid cael apwyntiad er mwyn ymweld â Reliance House Lerpwl. Mae'n rhaid i bob apwyntiad gael ei wneud drwy Linell Gymorth y Grŵp Cenedligrwydd ar 0845 010 5200 neu drwy e-bost i nationalityenquiries@ind.homeoffice.gsi.gov.uk. Am ragor o wybodaeth ynghylch Seremonïau Dinasyddiaeth ac ymholiadau eraill ynghylch Dinasyddiad, ewch i: www.homeoffice.gov.uk.

Sut bydda i'n gwybod a oedd fy nghais yn llwyddiannus?

Os ydych chi wedi llwyddo gyda'ch cais, byddwch chi'n derbyn llythyr o gymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref. Bydd y llythyr yn dweud wrthoch chi am gysylltu â'ch Swyddfa Gofrestru leol i gadw lle mewn Seremoni Ddinasyddiaeth.

Ar yr un pryd, bydd y Swyddfa Gartref yn cysylltu â ni'n uniongyrchol ac yn anfon eich Tystysgrif Dinasyddiaeth aton ni. Pan fyddwn ni'n derbyn hysbysiad y Swyddfa Gartref yn nodi bod ymgeisydd wedi llwyddo, byddwn ni'n cysylltu â'r ymgeisydd gan nodi dyddiadau ac amseroedd seremonïau, holiadur a manylion am y seremoni.

Mae gofyn i ymgeiswyr fynychu seremoni o fewn 3 mis o gael eu cymeradwyo. Fel arall, mae'n bosibl y bydd rhaid iddyn nhw wneud cais arall. Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru, Adeiladau'r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP, ffoniwch (01443) 486869 neu anfon e-bost i cofrestrydd@rctcbc.gov.uk.

Ymgeiswyr sy'n iau na 18 oed

Rhaid i bob ymgeisydd sy'n 18 oed neu'n hŷn fynychu seremoni ddinasyddiaeth. Fodd bynnag, does dim gofynion cyfreithiol sy'n nodi bod yn rhaid i ymgeiswyr dan 18 oed fynychu seremoni a thyngu llw neu addewid. Fodd bynnag, mae croeso i blant (sy'n iau nag 18 oed) fynychu seremoni eu rhieni a thyngu llw neu addewid. Dywedwch wrth y staff cofrestru cyn gynted â phosibl os bydd unrhyw blant yn mynychu'r seremoni ac am dyngu llw neu addewid.

Pwy sy'n cynnal y seremoni Ddinasyddiaeth?

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am drefnu seremonïau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sy'n byw yn yr ardal ar ran y Swyddfa Gartref. Ar hyn o bryd, mae seremonïau safonol yn cael eu cynnal yn y Swyddfa Ranbarthol, Adeiladau'r Cyngor, Gelliwastad Road, Pontypridd. Bydd gofyn i chi gyrraedd am 2pm ar brynhawn y seremoni.

Ga i ddod â theulu neu ffrindiau gyda fi?

Fel arfer, bydd seremonïau safonol yn cael eu cynnal mewn grwpiau o 5–20 o bobl, ond bydd y niferoedd yn dibynnu ar y galw am le. Er bod croeso i chi ddod â gwesteion, teulu neu ffrindiau i'ch seremoni chi mae prinder lle yn broblem. Felly, mae rhaid i ni gyfyngu ar nifer y gwesteion i 2 westai am bob ymgeisydd. Dim ond trwy wahoddiad y bydd modd mynychu'r seremonïau. Dydy'r seremonïau ddim ar agor i aelodau o'r cyhoedd.

Dylai ymgeiswyr a gwesteion gyrraedd 30 munud cyn amser dechrau'r seremoni. Bydd gofyn iddyn nhw ddangos eu gwahoddiad a dogfennau'r Swyddfa Gartref cyn dechrau'r seremoni.

Y Cofrestrydd Arolygol (neu'r dirprwy) fydd yn cynnal y seremoni a bydd urddasolyn lleol yn bresennol i'ch croesawu chi i'r Fwrdeistref Sirol, lle bo modd.

Bydd y seremoni yn cychwyn gydag araith gan y Cofrestrydd Arolygu. Yna byddwch chi'n cael eich gwahodd i dyngu neu gadarnhau llw o deyrngarwch i'r Brenin Charles III yn ogystal ag addo'ch ffyddlondeb chi i'r Deyrnas Unedig.

Nodwch: Byddwch chi'n tyngu llw i'r Hollalluog Dduw, felly, mae'n bosibl yr hoffech chi ddod â llyfr crefyddol gyda chi. Fodd bynnag, dewis personol yw hwn a does dim rhaid i chi wneud hyn ar gyfer y seremoni ddinasyddiaeth. Mae'n bosibl cadarnhau llw o deyrngarwch yn lle os yw hynny'n well gyda chi.

Yna bydd yr urddasolyn yn cyflwyno'ch Tystysgrif Dinasyddiaeth i chi gyda phecyn croeso a rhodd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Byddwch chi'n cael gwahoddiad i lofnodi'r Cofnod Dinesig. (Mae croeso i westeion dynnu lluniau o'r seremoni cyflwyno tystysgrif a/neu llofnodi'r cofnod dinesig.)

Mae cyflwyno'r dystysgrif yn nodi'r pwynt yn y seremoni lle bydd dinasyddiaeth Brydeinig yn cael ei chyflwyno. Yna bydd y seremoni'n gorffen gydag Anthem Genedlaethol Cymru. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael i ddinasyddion a'u gwesteion ar ôl y seremoni.

Bydd seremoni fel arfer yn para tua 30–40 munud gan ddibynnu ar nifer yr ymgeiswyr ym mhob seremoni.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng tyngu llw a chadarnhau llw?

Yr un diben sydd i'r ddwy fath o frawddeg, sef addo eich teyrngarwch i'r Brenin Charles III. Yr unig wahaniaeth yw bod tyngu llw yn seiliedig ar egwyddorion crefyddol, ond dydy cadarnhau llw ddim yn seiliedig ar egwyddorion crefyddol. Os byddwch chi'n penderfynu tyngu llw RHAID i chi ddod â'ch llyfr sanctaidd i'r seremoni gyda chi. 

Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n mynychu'r seremoni?

Os na fyddwch chi'n mynychu'r seremoni am ba bynnag reswm, a does dim modd i ni gynnig dyddiad newydd i chi o fewn y terfyn amser o 3 mis, bydd eich dogfennau yn cael eu hanfon yn ôl i'r Swyddfa Gartref a bydd rhaid i chi gyflwyno cais arall.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Linell Gymorth y Grŵp Cenedligrwydd ar 0845 010 5200 neu anfonwch neges e-bost i nationalityenquiries@ind.homeoffice.gsi.gov.uk.

Beth os oes camgymeriad ar y Dystysgrif Ddinasyddiaeth?

Os ydy'r manylion personol rydych chi wedi'u rhoi i'r Swyddfa Gartref yn anghywir ar eich Tystysgrif Dinasyddiaeth, anfonwch hi yn ôl ar ôl y seremoni i:

Grŵp Cenedligrwydd Y Swyddfa Gartref

P.O. Box 306

Liverpool
L2 7XS

Yn eich llythyr, nodwch fod camgymeriad ar eich Tystysgrif Ddinasyddiaeth a chynnwys tystiolaeth i gefnogi'r wybodaeth gywir i'w rhoi arni.

Ble bydd modd i mi wneud cais am Basbort Prydeinig?

Yn ystod eich seremoni, byddwch chi'n derbyn tystysgrif gan y Swyddfa Gartref. Cewch chi ddefnyddio'r dystysgrif yma er mwyn gwneud cais am Basport Prydeinig.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi ynglŷn â'ch cais am Ddinasyddiaeth Brydeinig, ffoniwch linell gymorth y Swyddfa Gartref ar 01512 375200.