Skip to main content

Angladdau Annibynnol

Mae llawer o’r farn fod dim modd cynnal angladd heb drefnydd angladdau. Dydy hynny ddim yn wir.

Dyma rai o orchwylion arferol y trefnydd angladdau: casglu corff yr ymadawedig; ei embalmio; ei roi mewn arch; trefnu hers, a threfnu elfennau eraill.

Gall caniatáu i rywun arall gyflawni'r gorchwylion anodd ac annifyr yma fod yn rhyddhad i'r teulu ar adeg dywyll.

Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dewis peidio â defnyddio trefnydd angladdau.

Dewis y teulu yw defnyddio gwasanaethau trefnydd angladdau neu drefnu'r digwyddiadau eu hunain. Mae angladdau sy'n cael eu trefnu heb drefnydd angladdau yn cael eu galw'n "bersonol" neu "annibynnol".

Mae modd i ni'ch cefnogi chi os ydych chi'n dewis angladd personol neu annibynnol. Dylech chi gofio, fodd bynnag, na fydd llawer o drefnwyr angladdau yn gwerthu arch neu roi hers ar log i chi oni bai fod y pecyn angladdau llawn yn cael ei brynu. Felly mae'n bosibl bydd rhaid i chi wneud trefniadau amgen neu logi cerbyd.

Mae modd i chi ddod o hyd i drefnwyr angladdau lleol drwy www.yourfuneralchoice.com.