Skip to main content

Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn casglu, cadw a rhoi mynediad at gofnodion hanesyddol o'r ardal gyfan. Mae hefyd yn helpu i ddiogelu hanes a chofnodion awdurdodau lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae modd i Archifau Morgannwg eich helpu chi gyda'r canlynol:

  • ymchwilio i hanes eich teulu
  • dysgu am hanes eich tref, pentref neu gartref
  • dod o hyd i wybodaeth ar gyfer prosiectau ymchwil ysgol/coleg/personol

Ewch i ymweld â gwefan Archifau Morgannwg am ragor o wybodaeth.

Rhoi/Adneuo Cofnodion Hanesyddol

Mae llawer o'r cofnodion sydd gan Archifau Morgannwg wedi cael eu rhoi/adneuo gan sefydliadau ac unigolion lleol.

Mae rhai cofnodion wedi cael eu rhoi'n barhaol i'r archifau, tra bod eraill yn parhau i fod ym mherchnogaeth breifat ac wedi'u rhoi ar fenthyg i'w cadw'n ddiogel ac i'r cyhoedd eu gweld.

Os oes gennych chi ddogfennau a allai fod o ddiddordeb hanesyddol, hoffai Archifau Morgannwg glywed gennych chi.

Mae cofnodion yn cael eu storio mewn ystafelloedd diogel, wedi'u hamddiffyn rhag tân, gydag amodau amgylcheddol wedi'u rheoli'n ofalus i helpu i'w cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r holl gofnodion wedi'u cadw'n unol â Thelerau Adneuo safonol yr archif.

Cysylltu ag Archifau Morgannwg

Archifau Morgannwg

Clos Parc Morgannwg
Lecwydd
Caerdydd
CF11 8AW

Rhif Ffôn: (029) 2087 2200