O bryd i'w gilydd, efallai y bydd eich plentyn eisiau cefnogaeth i sicrhau bod ei farn yn cael ei chlywed. Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n defnyddio Tros Gynnal Plant Cymru (TGP Cymru) i ddarparu eiriolaeth annibynnol i helpu gyda hyn. Gwasanaeth Eiriolaeth TGP Cymru « TGP Cymru
Ymwelydd Annibynnol (Ar gyfer eich plentyn)
Pan fydd plant a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal heb lawer o gymorth neu gysylltiad â’r teulu, efallai y cânt eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Wasanaethau Eiriolaeth TGP Cymru « TGP Cymru
Eiriolaeth Rhieni (Cefnogaeth i gyfleu eich barn)
Mae eiriolaeth rhieni yn rhoi llais a dewis i rieni i lywio'r system amddiffyn plant, ac i gymryd rhan lawn yn y prosesau gwneud penderfyniadau.
Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni TGP Cymru « TGP Cymru
Eiriolaeth i Rieni (Cymorth i leisio'ch barn)
Mae eiriolaeth i rieni yn rhoi llais a dewis i rieni drwy eu cefnogi i ddeall y system amddiffyn plant a bod yn rhan o'r prosesau penderfynu.
Gwasanaethau Eiriolaeth i Rieni Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru
Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ei gymorth gyda'r animeiddiadau.