Pa gymorth addysg fydd fy mhlentyn yn ei dderbyn
Mae'r CAP yn gofnod o addysg a hyfforddiant eich plentyn. Dylai'r cofnod gynnwys yr hyn sydd angen digwydd er mwyn i'ch plentyn gyrraedd eu potensial addysgol llawn. Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod pob CAP yn adlewyrchu anghenion addysg y plentyn, ac yn ystyriol o'i oed, gallu a doniau. Dylid bwrw golwg ar y CAP ynghyd â Chynllun Gofal a Chymorth y plentyn gan fod nifer o ffactorau, megis lles a sefydlogrwydd emosiynol, yn effeithio ar ddysgu plant a.y.b. CAP Ysgol Rithwir Ebrill 2024 MASTER
Gwybodaeth am yr Ysgol Rithwir ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
Dull gweithredu’r model Ysgol Rithwir yw gweithio gyda phlant â phrofiad o ofal (sy’n gallu cynnwys pobl ifanc mewn darpariaeth ôl-16), fel pe baent mewn un ysgol unigol, ac i wella cyrhaeddiad addysgol, cynyddu presenoldeb a gwella sefydlogrwydd addysgol (Llywodraeth Cymru, 2021). Mae'r ysgol yn 'rhithwir' yn yr ystyr nad yw'n bodoli fel sefydliad neu adeilad ffisegol; yn lle hynny, mae plant yn mynychu'r ysgol neu'r lleoliad addysgol lle maen nhw wedi'u cofrestru ac maen nhw'n parhau o dan gyfrifoldeb y lleoliad addysgol yma, ond bod pob agwedd ar eu lles a'u cynnydd yn cael eu monitro a'u cefnogi gan Bennaeth yr Ysgol Rithwir.
Pennaeth yr Ysgol Rithwir yw'r blaen swyddog sy'n gyfrifol am wella presenoldeb a chynyddu deilliannau addysgol ar gyfer y plant â phrofiad o ofal ('eu disgyblion'), ond yn bwysig hefyd yn eu paratoi nhw i bontio i fywyd oedolyn. Pennaeth yr Ysgol Rithwir sy'n goruchwylio deilliannau addysgol a chymdeithasol y plant sydd â phrofiad o ofal ac maen nhw'n gyfrifol am ddatblygu a monitro strategaeth i gyflawni a gwella'r deilliannau yma. Mae Ysgol Rithwir yn adnodd sefydliadol sydd wedi'i greu er mwyn cydlynu cymorth addysg yn effeithiol ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal ar lefel strategol a gweithredol.
Mae gydag Ysgol Rithwir Rhondda Cynon Taf ddatganiad cenhadaeth gadarn: 'Mae pob plentyn yn haeddu Pencampwr', a rhestr o werthoedd cynorthwyol: Cywirdeb, Gonestrwydd, Caredigrwydd, Cysondeb, Hyblygrwydd, Tosturi a Gweledigaeth Gadarn:
EIN GWELEDIGAETH
...yw bod plant sydd â phrofiad o ofal,
pobl ifainc a'u teuluoedd yn cynnal
bywydau iach a hyder i gyflawni eu
llawn botensial.
Rydyn ni eisiau
...helpu i adeiladu cymunedau cydnerth lle mae
dinasyddion yn foesegol ymwybodol ac yn gallu mwynhau
perthnasoedd diogel ac ystyrlon.
Rydyn ni o'r farn y dylai
...pob plentyn/person ifanc gael y
cyfle i ddod yn ddisgyblion uchelgeisiol a galluog
trwy gael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel,
sy'n greadigol ac yn arloesol.
Rydyn ni'n gweithio
...mewn modd cydweithredol ag ystod o randdeiliaid
i sicrhau fod pob plentyn sydd ar gofrestr yr Ysgol
Rithwir yn derbyn y cyfle i wneud
eu gorau glas.
Mae'r weledigaeth yn ymgorffori gwerthoedd creiddiol y cwricwlwm newydd i Gymru ac yn adlewyrchu sut mae'r cwricwlwm yn diwallu anghenion y disgyblion, serch lle maen nhw'n byw neu pwy sy'n eu magu nhw.
Manylion cyswllt: ysgolrithwir@rctcbc.gov.uk