Mae modd i riant/gwarcheidwad gysylltu'n uniongyrchol â'r Garfan Wybodaeth, Cyngor a Chymorth drwy ffonio 01443 425006. Bydd raid i chi ateb cwestiynau er mwyn penderfynu pa gymorth fyddai orau ar gyfer eich plentyn.
Gallai hyn fod yn atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol (CANS) neu atgyfeiriad i'r Garfan Plant Anabl gynnal asesiad cymhwysedd.
Mae hefyd modd i weithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriad i'r gwasanaeth ar eich rhan, e.e. ymwelwyr iechyd, athrawon neu feddygon. Rhaid i'r gweithiwr proffesiynol gael eich caniatâd chi cyn gwneud atgyfeiriad am gymorth. Neu os yw'n gwneud atgyfeiriad ar sail pryderon am ddiogelwch plentyn, byddwch chi'n cael gwybod ei fod am wneud atgyfeiriad (heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol).