Pan mae eich plentyn yn troi'n 14 oed, bydd y Garfan Plant Anabl yn cynnal atgyfeiriad 14+. Dyma hysbysiad cynnar i'r Gwasanaethau i Oedolion er mwyn darparu manylion y plant hynny sy'n dynesu at flynyddoedd olaf eu plentyndod. Pan mae plentyn yn troi'n 16 oed, bydd y Garfan Plant Anabl yn cynnal asesiad arall ar gyfer eich plentyn.
Diben yr asesiad yma yw casglu gwybodaeth ynglŷn ag anghenion eich plentyn a'i amgylchiadau ar y pryd. Bydd yr asesiad hefyd yn mynd ati i geisio deall eich anghenion a'ch dyheadau chi a'ch plentyn ar gyfer y dyfodol. Bydd yr wybodaeth yma'n fuddiol i ni gynnal atgyfeiriad 16+ ar gyfer eich plentyn. Diben yr atgyfeiriad yma yw amlinellu'r anghenion bydd gan eich plentyn wrth iddo droi'n oedolyn a sut i ddiwallu'r anghenion hynny. Bydd Panel Pontio RhCT yn trafod yr atgyfeiriad. Bydd y panel yn cynnwys aelodau o'r Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant a fydd yn nodi pa garfan fyddai orau er mwyn diwallu anghenion eich plentyn; Gofal a Chymorth, Iechyd Meddwl yn y Gymuned neu Anableddau Dysgu.
Yn ystod y ddwy flynedd rhwng 16 ac 18 oed, bydd Gwasanaethau i Oedolion yn penodi Gweithiwr Cymdeithasol Eilradd ar gyfer eich plentyn. Bydd y gweithiwr yma'n dechrau cynnal Asesiad Oedolyn. Yn rhan o'r asesiad yma, bydd y gweithiwr yn cwrdd â chi a'ch plentyn i drafod y cynlluniau ar gyfer cymorth ôl-18, gan ystyried y cymorth mae eich plentyn eisoes yn ei dderbyn. Yn y 6 mis sy'n arwain at ben-blwydd eich plentyn yn 18 oed, bydd y gweithiwr yma hefyd yn derbyn gwahoddiad i fynychu sesiynau adolygu Cynllun Gofal a Chymorth eich plentyn. Bydd hyn yn caniatáu i'r Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant gydweithio er mwyn cefnogi eich plentyn yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolyn.
Ar ôl i'ch plentyn droi'n 18, bydd yn trosglwyddo i'r Gwasanaethau i Oedolion a bydd gwaith y Gwasanaethau i Blant yn dod i ben.