Gwybodaeth a chymorth i gynhalwyr.
Cymorth i Gynhalwyr – Ewch i'n tudalen Cymorth i Gynhalwyr i gael gwybodaeth am ein Cylchlythyrau i Gynhalwyr, Gofal Seibiant, cwnsela, a chymorth i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc. Cymorth i Gynhalwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk).
Lwfans Gofalwyr/Cynhalwyr – Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael lwfans gofalwyr/cynhalwyr os ydych chi'n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac maen nhw'n derbyn budd-daliadau penodol. I gael rhagor o wybodaeth a chymhwysedd, ewch i Lwfans Cynhalwyr: Sut mae'n gweithio - GOV.UK (www.gov.uk)
Cymorth i Gynhalwyr Ifainc - Mae cynhalwyr ifainc yn blant a phobl ifainc sydd o dan 18 oed sy'n rhoi (neu yn bwriadu rhoi) gofal i riant, oedolyn, brawd neu chwaer sâl neu anabl. I ddod o hyd i help, cymorth a chyngor, ewch i Cynnal Cynhalwyr Ifainc | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Cynhalwyr Cymru – Mae gwefan Carers Wales yn cynnig cymorth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau yn ogystal â darparu Llinell Gymorth Gwybodaeth a Chymorth Carers UK. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wales | Carers Wales (carersuk.org)
Infoengine – I ddod o hyd i wasanaethau trydydd sector perthnasol, ewch i infoengine: Ewch i 'Chwilio am wasanaethau yn eich cymuned' a chwiliwch am ‘Gofalwr’