Nod y Cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni a chynhalwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu.
Mae grwpiau Ti a Fi yn darparu gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'r adeg maen nhw'n cael eu geni hyd at oedran ysgol. Mae'n gyfle gwych i rieni/cynhalwyr gwrdd, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd plant yn cael y cyfle i:
- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau chwarae gyda theganau
- dysgu caneuon Cymraeg syml y mae modd i chi eu canu gyda'ch gilydd gartref
- gwrando ar straeon Cymraeg ac edrych trwy lyfrau
- chwarae gyda dŵr a chlai
- .... a mwynhau eu hunain!
Fel rhiant neu gynhaliwr, bydd cyfle hefyd i chi fwynhau'ch hun. Mae croeso i bawb ddod i'r cylchoedd Ti a Fi, hyd yn oed os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg neu os ydych chi'n dysgu Cymraeg. Dewch draw i'n gweld i gael rhagor o wybodaeth am fanteision siarad a dysgu Cymraeg, i chi a'ch plentyn.
Grwpiau Ti a fi ger eich bron
Gweld cylchoedd Ti a fi drwy wefan DEWIS