Mae modd cyflwyno cais am y Cynnig Gofal Plant ar-lein drwy system genedlaethol Llywodraeth Cymru. Dyma wasanaeth dwyieithog y mae modd ei gyrchu ar eich gliniadur, ffôn symudol neu lechen.
Rhaid defnyddio cyfrif Porth y Llywodraeth i gyrchu'r gwasanaeth. Mae modd i chi ddefnyddio rhif eich cyfrif Porth y Llywodraeth presennol, neu mae modd creu cyfrif newydd (cliciwch ar y ddolen isod). Bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth gyda'ch cais. Mae gwybodaeth bellach am y dystiolaeth sydd ei hangen ar gael yma.
Cliciwch yma i wneud cais ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol.