Mae modd gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant os:
- Ydych chi'n byw yng Nghymru.
- Yw eich plentyn chi'n 3 neu 4 mlwydd oed. Bydd eich hawl i dderbyn y cynnig yn dod i ben pan fydd eich plentyn chi’n dechrau mewn dosbarth derbyn mewn ysgol (fel arfer, y mis Medi ar ôl i'r plentyn droi'n 4 mlwydd oed).
- Yw'r ddau riant, neu bartner sy'n byw gydag un o'r rhieni, yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant (mae rhai budd-daliadau hefyd yn gymwys - gweler isod).
- Yw'r rhiant sengl yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant.
- Ydych chi'n ennill o leiaf:
- £183.04 yr wythnos os ydych chi'n 21 mlwydd oed neu’n hŷn
- £137.60 yr wythnos os ydych chi rhwng 18 a 20 mlwydd oed
- £102.40 yr wythnos os ydych o dan 18 oed
- £102.40 yr wythnos os ydych chi brentis
(Mae'r cyfraddau yma yn seiliedig ar 16 awr yr wythnos yn ôl yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol a byddan nhw’n newid bob blwyddyn).
- Ydych chi'n ennill llai na £100,000 y flwyddyn (fesul rhiant).
Rhieni mewn addysg a hyfforddiant:
Gallai rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant fod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig. I fod yn gymwys, rhaid i riant naill ai fod:
- Wedi'i gofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig (gan gynnwys y cyrsiau hynny sy'n cael eu cynnal o bell neu ar-lein) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.
- Wedi'i gofrestru ar gwrs sy'n para o leiaf 10 wythnos sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad Addysg Bellach neu chweched dosbarth mewn ysgol.
Pa dystiolaeth y mae angen ei darparu?
I'r rheiny sydd wedi'u cyflogi:
- Cyfloglenni'r 3 mis diwethaf (os ydych chi'n cael eich talu'n fisol)
- Cyfloglenni'r 12 wythnos diwethaf (os ydych chi'n cael eich talu'n wythnosol)
- Copi o'ch ffurflen dreth SA302 fwyaf diweddar (os ydych chi'n hunangyflogedig)
- Ffurflen newydd ddod yn hunangyflogedig os ydych chi wedi dod yn hunangyflogedig yn y 12 mis diwethaf a heb gwblhau ffurflen dreth.
I'r rheiny sydd mewn addysg neu hyfforddiant:
- Tystiolaeth o gofrestru ar gwrs cymwys sy'n dangos yn glir enw'r sefydliad, y dyddiad cychwyn a theitl a hyd y cwrs.
I'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys:
- Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n nodi eich bod chi'n derbyn budd-dal cymwys
- Llythyr Credyd Cynhwysol sy'n nodi eich bod chi'n derbyn taliad gan fod gyda chi allu cyfyngedig i weithio
Eithriadau cymhwysedd:
Os yw un rhiant yn bodloni'r meini prawf ac mae'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, mae'n bosibl y bydd y plentyn yn gymwys i dderbyn y Cynnig:
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans gofalwr, neu’r elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Budd-dal Analluogrwydd Hir Dymor
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credydau Yswiriant Gwladol o ran analluogrwydd i weithio neu allu cyfyngedig i weithio
- Credyd Cynhwysol pan fo asesiad wedi dod i'r casgliad bod gan yr unigolyn allu cyfyngedig i weithio
Fydd teuluoedd lle mae'r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod ddim yn cael manteisio ar y Cynnig.
Gofalu am berthynas:
Cynhalwyr (gofalwyr) sy'n ffrindiau neu'n deulu ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn, sydd ddim yn fab/ferch iddyn nhw, oherwydd:
- Dyw rhieni'r plentyn ddim yn gallu gofalu am y plentyn, neu does gan y plentyn ddim rhieni.
- Fel arall, mae'n debygol byddai'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn.
Gall cynhalwyr sy’n berthnasau gael mynediad at y Cynnig cyn belled â’u bod nhw'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd i rieni, eu bod yn gofalu am blentyn sydd o’r oedran cywir i dderbyn y Cynnig a bod y plentyn yn byw gyda nhw.
Sylwch – mae amgylchiadau eraill a allai fod yn gymwys i dderbyn cyllid drwy’r Cynnig. Cysylltwch â'r garfan os hoffech chi drafod eich amgylchiadau penodol.