Pa wasanaethau sydd ar gael i fy helpu i ddod o hyd i Waith neu Hyfforddiant?
Rydyn ni wedi cydweithio â'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant i gynnig amrywiaeth o wasanaethau i chi. Gall y gwasanaethau yma eich helpu chi i ddod o hyd i waith neu hyfforddiant.
Nawr gallwch gael help a chyngor oddi wrth y sefydliadau a'r rhaglenni canlynol:
GofaliWaith
Mae Rhaglen GofaliWaith yn helpu pobl rhwng 16 a 25 oed sy'n gadael gofal, ynghyd â phlant sy'n derbyn gofal a phobl ifainc sydd ag anghenion gofal a chymorth i nodi amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth, a chael mynediad atyn nhw.
Rhaglen Cam i'r Cyfeiriad Cywir.
Dyma raglen ddwy flynedd sy'n cynnig swyddi dan hyfforddiant â thâl i bobl ifainc 16–25 oed sydd mewn gofal, neu sy'n gadael gofal, yn Rhondda Cynon Taf. Caiff cymorth ei ddarparu er mwyn eich galluogi chi i ennill profiad gwaith gwerthfawr a hyfforddiant er mwyn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd a'ch helpu chi i ddod o hyd i waith llawn amser ar ddiwedd y rhaglen. Byddwch chi'n datblygu eich sgiliau, gwybodaeth ac yn cael profiad gwaith gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.
Y Ganolfan Byd Gwaith
Swyddfa nawdd cymdeithasol ac asiantaeth cyflogaeth yw’r Ganolfan Byd Gwaith. Mae’r Ganolfan wedi'i hariannu gan y Llywodraeth, er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i gyflogaeth. Mae modd iddyn nhw ddarparu adnoddau er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i waith, yn ogystal â chynnig gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant posibl.