Skip to main content

Gwybodaeth am aros yn ddiogel ac yn iach

Iechyd Meddwl

Gwasanaethau ac Apiau i Blant a Phobl Ifainc – https://www.cwmtafmorgannwgsafeguardingboard.co.uk/En/ChildrenYoungPeople/MentalHealthandWellBeingChildrenandYoungPeople.aspx

Cwnsela Eye to Eye – Mae Gwasanaeth Cwnsela Eye to Eye ar gyfer plant a phobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'n cynnig cefnogaeth gyfrinachol am ddim i unrhyw un rhwng 10 a 30 oed. Home | Eyetoeyerct.

Mind Hub – Crëwyd gan bobl ifainc ar gyfer pobl ifainc. Mae'r wefan yma'n darparu gwybodaeth a dolenni i wasanaethau perthnasol mewn perthynas â dy iechyd meddwl a dy les. Mae gyda nhw gysylltiadau â gwasanaethau ar gyfer iselder, bwlio, gorbryder, delwedd corff, a rhagor Hyb Meddwl.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) – Mae CAMHS yn garfan o weithwyr proffesiynol sy'n cynnig cymorth mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles plant a phobl ifainc. Maen nhw’n cynnig mathau gwahanol o therapïau (gan gynnwys therapi grŵp, therapi teulu, a therapi ymddygiad gwybyddol). Efallai byddi di'n cael dy atgyfeirio at y gwasanaeth gan weithiwr proffesiynol fel dy Feddyg Teulu, Gweithiwr Cymdeithasol, a rhagor. Mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt ar gael yma: Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifainc – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

 

Sgiliau i Aros yn Iach

BBC Bitesize – Mae gan BBC Bitesize ystod o awgrymiadau, cyngor a straeon ysbrydoledig i dy helpu di i ddatblygu sgiliau i gadw'n iach. Maen nhw'n ymdrin â phynciau megis datblygu arferion, perthnasoedd iach, delwedd corff a llawer yn rhagor! Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Wellbeing – Study Support – BBC Bitesize

Mind – Mae gan Mind dudalen wedi'i neilltuo i 'Awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy les' – Hoffet ti ragor o wybodaeth? Croeso i ti ymweld â'r dudalen yma: Awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy les – ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-18 oed - Mind

 

Diogelu

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg – Mae'n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael i dy gadw di'n ddiogel ac at bwy y mae modd i ti droi ato pan fyddi di angen cymorth. Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn cynnig ystod o wybodaeth a dolenni i wasanaethau. Mae gyda nhw gefnogaeth ar gyfer bwlio, iechyd meddwl, diogelwch ar-lein a llinellau cymorth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Plant a Phobl Ifainc | Diogelu, Cwm Taf Morgannwg (cwmtafmorgannwgsafeguardingboard.co.uk)

Childline – Mae modd i ti ffonio ChildLine am ddim ar 0800 1111, anfon e-bost atyn nhw, neu gael sgwrs fyw â nhw am unrhyw beth. Os oes gyda ti bryderon, neu os hoffet ti siarad â rhywun cyfeillgar, cysyllta â ChildLine. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Childline | Childline

The Children’s Society – Mae The Children's Society yn elusen genedlaethol sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ifainc sy'n wynebu camdriniaeth, ecsbloetiaeth ac esgeulustod. Mae eu gwefan yn cynnig llawer o wybodaeth i bobl ifainc a chefnogaeth i ddod o hyd i linellau cymorth am ddim. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Information & Advice For Young People | The Children's Society (childrenssociety.org.uk)