Skip to main content

Cymorthfeydd Cyngor ar Fudd-daliadau a Dyledion

Mae Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf ar gael i gynnig cymorth ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys materion arian, dyledion a Gorchmynion Dileu Dyled, cyflogaeth, tai, iechyd meddwl a budd-daliadau lles.

Mae'r cymorth yma ar gael i bawb, waeth beth fo'i oedran, incwm na'i statws cyflogaeth. Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth un-i-un ar fudd-daliadau, llenwi ffurflenni, dyledion (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent, morgeisi a chytundebau ariannol eraill), tlodi tanwydd, iechyd meddwl a rhagor.

Mae modd i chi hefyd gael gafael ar gymorth i ddysgu sut i reoli eich arian, benthyca diogel a chyfrifol a deall effaith y diwygiadau budd-dal a gyhoeddwyd yn ddiweddar a thoriadau gwariant y sector cyhoeddus.

Mae'r gwasanaeth yn cynnal cyfres o gymorthfeydd agored ac apwyntiadau sydd ar gael mewn lleoliadau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf a thu hwnt.

I gael gwybod ble mae eich canolfan galw heibio leol, ffoniwch 01443 853221 neu ewch i www.carct.org.uk i wirio argaeledd