Bydd y Cyngor yn cysylltu â chyfleusterau cymunedol sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau nid-er-elw y mae'r Cyngor yn gwybod amdanyn nhw (RhCT Gyda'n Gilydd) ac sy'n darparu cyfuniad o weithgareddau a/neu weithgareddau chwaraeon. Byddan nhw’n cael eu hannog i wneud cais ar gyfer y cyllid yma gwerth £540 ar gyfer pob sefydliad.
Mae'r sefydliadau/grwpiau yma wedi cael eu nodi gan y Cyngor a bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth iddyn nhw ym mis Hydref.
Os nad yw'r Cyngor wedi cysylltu â'ch sefydliad chi erbyn 1 Tachwedd ac rydych chi o’r farn bod eich sefydliad chi'n gymwys ar gyfer y cymorth yma, e-bostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk