Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a phartneriaid allweddol yn dymuno cynorthwyo trigolion sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i'r Argyfwng Costau Byw.
Mae modd ichi ofyn am gymorth unrhyw bryd a bydd carfan ymateb leol yn eich helpu chi. Bydd y garfan yn asesu eich anghenion a bydd yn trafod y cymorth sydd ar gael i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau.
Mae modd i'r cymorth gynnwys:
- Cymorth gyda'ch siopa
- Galwad ffôn â pherson cyfeillgar i gadw mewn cysylltiad
- Dod o hyd i waith, neu gael hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith
- Gwybodaeth ac arweiniad am arian neu fudd-daliadau
- Gwybodaeth am y gwasanaeth llyfrgell 'yn y cartref'
- Gwybodaeth am y gwasanaeth 'Lifeline Plus'
- Cymorth lles os ydych chi'n teimlo'n unig neu'n ynysig neu pe hoffech chi sefydlu cyswllt â grŵp cymunedol yn eich ardal leol
- Asesiad Lles – sy’n cynnwys ymweliad i’r cartref i drafod a chofnodi sefyllfa’r teulu cyfan, gan gynnwys pethau sy’n mynd yn dda a phethau efallai bod angen cymorth arnoch chi gyda nhw gan ein Partneriaid Cymunedol.
- Taliad Taleb yn ôl Disgresiwn ar gyfer trigolion sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ran cynhesu eu cartrefi.
- Taliad Taleb yn ôl Disgresiwn ar gyfer trigolion sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol er mwyn helpu i brynu offer cegin bach sy'n effeithlon o ran ynni, megis crochan coginio araf a thalebau bwyd.
Er mwyn gwneud cais am y cymorth yma, byddwch chi angen cwblhau ffurflen ar-lein ar ein tudalen Cymorth i Drigolion. Bydd y manylion rydych chi'n eu nodi'n cael eu hasesu er mwyn penderfynu a ydych chi'n cwrdd â'r meini prawf am gymorth. Efallai byddwn ni'n cysylltu â chi am ragor o wybodaeth.
Bwriwch olwg ar ein tudalen Cymorth i Drigolion a chliciwch ar 'Gofyn am Gymorth' i fwrw ati.
Tai
Mae cyllid ychwanegol gwerth £100,000 wedi'i ddarparu yn rhan o Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn. Mae'r taliad yn cynnig swm atodol ar ben budd-daliadau. Maen nhw'n cael eu hystyried os oes angen cymorth ychwanegol ar rywun o ran costau tai. Mae unrhyw daliad yn ychwanegol i'r Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol sydd wedi'i roi.
Bwriwch olwg ar y dudalen Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn am ragor o wybodaeth.