Skip to main content

Cwestiynau cyffredin Cynllun Costau Byw

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y cynllun, bwriwch olwg ar y cwestiynau cyffredin canlynol.

Rydw i wedi derbyn llythyr gan y Cyngor gyda chod unigryw, ond dydy'r cod ddim yn gweithio pan rydw i'n ceisio cwblhau'r ffurflen ar-lein. Beth ddylwn i ei wneud?

Gwiriwch fod pob llythyren yn y cod wedi'u nodi yn union fel y maen nhw ar y llythyr. Bydd y cod yn dechrau gyda'r llythyren C a bydd ganddo 8 nod. Os nad yw'r cod yn gweithio, llenwch y ffurflen galw nôl. Mae modd dod o hyd i ddolen i'r ffurflen yn y neges gwall ar y ffurflen gais.

COLS

Dydy'r ffurflen ddim yn derbyn dyddiad geni fy mhlentyn. Beth ddylwn i ei wneud?

Sicrhewch eich bod chi'n nodi dyddiad geni eich plentyn hynaf sydd o oedran ysgol gorfodol, ac sydd wedi'i enwi yn eich llythyr.

Mae gyda chi 3 chynnig i nodi dyddiad geni eich plentyn hynaf. Os ydych chi'n nodi dyddiad geni eich plentyn hynaf yn anghywir 3 gwaith, byddwch chi'n cael eich cyfeirio nôl at y ffurflen gais am alwad nôl. Cwblhewch hyn yn ôl y cyfarwyddyd a bydd aelod o staff yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rydw i'n byw yn Rhondda Cynon Taf ac mae gen i blentyn o oedran ysgol gorfodol ond dydw i ddim wedi derbyn taliad y Cynllun Costau Byw. Beth mae modd i mi ei wneud?

Mae'r Cyngor wedi awdurdodi taliadau awtomatig i aelwydydd mae gan y Cyngor eu gwybodaeth ac mae eu cymhwysedd wedi'i gadarnhau. Gwiriwch falans eich banc i gadarnhau a ydych chi wedi derbyn £125.00 gan y Cyngor. Dylech chi hefyd fod wedi derbyn e-bost gan y Cyngor yn cadarnhau'r taliad.

Os cyflwynoch chi gais ar-lein ac rydych chi'n aros am daliad, mae modd i hyn gymryd hyd at 28 diwrnod i gael ei brosesu ar ôl derbyn eich cais.

Rydw i wedi derbyn llythyr/e-bost yn gofyn i fi ddiweddaru fy manylion banc er mwyn derbyn y taliad. Sut ydw i'n gwneud hyn?

Bydd y llythyr/e-bost a dderbynioch chi yn cynnwys dolen i ffurflen ar-lein. Dilynwch y ddolen yma i ddiweddaru eich manylion banc ar gyfer eich cais.

Rydw i wedi deryn llythyr ar gyfer plentyn sydd ddim yn byw yn fy nghyfeiriad. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi wedi derbyn llythyr ar gyfer plentyn sydd ddim yn byw yn eich cyfeiriad, dychwelwch y llythyr i'r anfonwr. Mae cyfarwyddiadau ar gefn yr amlen wreiddiol.

Dydw i ddim yn gallu uwchlwytho'r dogfennau y gofynnoch chi amdanyn nhw i gefnogi fy nghais. Pwy sy'n gallu fy helpu?

Os oes angen cymorth arnoch chi i uwchlwytho tystiolaeth ac mae angen i chi siarad â rhywun wyneb yn wyneb, mae'r opsiynau isod ar gael i chi.

  1. Cadwch le ar gwrs Dydd Gwener Digidol yn un o'r llyfrgelloedd sy'n cymryd rhan. Am ragor o wybodaeth bwriwch olwg ar www.rctcbc.gov.uk/DyddGwenerDigidol
  2. Ewch i un o'r llyfrgelloedd isod, a bydd modd iddyn nhw roi cyngor i chi neu eich helpu i drefnu apwyntiad os bydd angen rhagor o gymorth arnoch chi. Gwiriwch yr oriau agor cyn mynd.
  • Treorci
  • Aberpennar
  • Aberdâr
  • Porth
  • Pontypridd

Oes gen i hawl i'r taliad yma os nad oes gyda fi atebolrwydd i gronfeydd cyhoeddus?  

Nid yw'r math o gymorth y mae'r Cyngor yn ei gynnig drwy'r Cynllun Costau Byw – Taliad i Deuluoedd yn cael ei ddosbarthu'n 'gronfeydd cyhoeddus' at ddibenion mewnfudo. Caiff yr unigolion hynny sydd heb atebolrwydd i gronfeydd cyhoeddus oherwydd eu statws mewnfudo hawlio'r cymorth trwy'r cynllun.